Gweithdrefnau Disgyblu
1. Cyflwyniad
Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan o gymuned sy'n disgwyl i'w haelodau ufuddhau i reolau a rheoliadau'r Brifysgol, dangos parch at bobl ac eiddo ac i ymddwyn mewn modd nad yw'n ymyrryd â gweithrediadau arferol y Brifysgol. Pan honnir bod ymddygiad myfyriwr yn dramgwydd disgyblu (fel y'i diffinnir yn Adran 7), bydd y Gweithdrefnau Disgyblu hyn yn cychwyn.
Mae'r Gweithdrefnau hyn yn disgrifio'r camau gweithredu a gymerir yn achos honiad o dramgwydd disgyblu a'r cosbau y gellir eu pennu.
2. Dan Ba Awdurdod y Pennir y Rheolau?
Wrth dderbyn cynnig o le yn y Brifysgol, mae myfyrwyr yn ymrwymo i gydymffurfio â phob un o reolau, rheoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol, sydd mewn grym o bryd i’w gilydd, (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel y ‘Rheoliadau’). Atgoffir myfyrwyr bod y Rheoliadau (sy'n cynnwys y Gweithdrefnau Disgyblu hyn) yn gymwys iddynt o'r dyddiad maent yn derbyn cynnig o le ar un o raglenni'r Brifysgol nes iddynt raddio neu adael y Brifysgol.
3. Egwyddorion Cyffredinol
Dilynir yr egwyddorion canlynol wrth ymdrin â thramgwydd disgyblu:
- Caiff unrhyw aelod staff neu unrhyw fyfyriwr gychwyn y gweithdrefnau disgyblu yn erbyn myfyriwr. (Yn y cyd-destun hwn, mae staff yn golygu unrhyw aelod staff sy’n gweithio i’r Brifysgol neu ar eiddo’r Brifysgol, gan gynnwys staff Undeb y Myfyrwyr a staff Chwaraeon Abertawe);
- Ni fydd rhywun sy’n rhoi gwybod am dramgwydd disgyblu yn dioddef unrhyw anfantais na gwrthgyhuddiad yn sgil rhoi gwybod yn ddidwyll am y tramgwydd. Ni ellir cymryd camau disgyblu yn erbyn rhywun sy'n rhoi gwybod am dramgwydd oni fernir bod yr honiad yn wamal, yn flinderus neu’n faleisus;
- Rhagdybir bod myfyriwr yn ddieuog nes y profir fel arall, a’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am faich y prawf (y ddyletswydd i brofi’r honiad) a dylai safon y prawf fod yn ôl pwysau tebygolrwydd;
- Bydd y canfyddiadau a bennwyd gynt fel rhan o gŵyn ffurfiol dan y weithdrefn Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio yn dystiolaeth ddiymwad o'r ffeithiau a archwiliwyd yn yr achos. Ni chaiff y myfyriwr na'r Pwyllgor herio'r fath ganfyddiadau, oni bai fod y canfyddiadau wedi'u gwyrdroi eisoes drwy Adolygiad Terfynol;
- Atgoffir myfyrwyr y gall Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr gynorthwyo neu gynnig cyngor yn gyfrinachol;
- Atgoffir myfyrwyr hefyd y gallant dderbyn cymorth gan Wasanaethau Lles Gwasanaethau Myfyrwyr;
- Cedwir manylion achos disgyblu, gan gynnwys enw'r myfyriwr neu'r myfyrwyr, yn gyfrinachol, lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, bydd angen hysbysu nifer bach o unigolion am yr honiad(au) ac enwau'r myfyrwyr dan sylw at ddiben cynnal asesiadau risg (gweler Atodiad 2) a chadw cofnodion o ganlyniadau achosion (gweler Atodiadau 3 a 4). Yn ogystal, yn ystod yr ymchwiliad, mae'n bosib y bydd angen i ymchwiliwr yr achos gyfweld â neu gysylltu â phobl eraill neu geisio rhagor o ddogfennau neu gadarnhad o wybodaeth gan bobl eraill. Lle bo natur y tramgwydd honedig yn awgrymu y gall fod perygl o niwed i'r myfyriwr ei hun a/neu i eraill, neu gellir amharu'n ddifrifol â gweithrediadau arferol y Brifysgol, cynhelir asesiad risg, wrth ddisgwyl am ganlyniad y broses ddisgyblu a ddisgrifir yn Atodiad 2;
- Mae dyletswydd ar y Brifysgol i ofalu am ddiogelwch a lles ei myfyrwyr, ei staff a’i hymwelwyr. Felly, mae protocol rhannu gwybodaeth ar waith rhwng Heddlu De Cymru a’r Brifysgol, sy'n golygu bod Heddlu De Cymru yn gallu datgelu manylion am ymchwiliadau troseddol sy'n cynnwys myfyrwyr i'r Brifysgol (mae'r wybodaeth hon yn cynnwys manylion arestiadau, cyhuddiadau, rhybuddiadau ac euogfarnau sy'n ymwneud â myfyrwyr ond nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr) ac, ar yr amod y bodlonir gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018, bydd y Brifysgol yn darparu gwybodaeth bersonol, megis ffotograffau a chyfeiriadau, i Heddlu De Cymru at ddiben atal neu ganfod troseddau;
- Ar ôl derbyn yr holl ddata yn ymwneud ag ymchwiliadau, cyhuddiadau neu euogfarnau troseddol sy’n berthnasol i ddyletswydd gofal y Brifysgol, bydd y Brifysgol yn cynnal asesiad risg parthed yr unigolyn neu'r unigolion dan sylw (gweler Atodiad 2). Yn unol â hynny, os daw unrhyw aelod o staff neu fyfyriwr arall yn ymwybodol bod myfyriwr yn destun ymchwiliad neu wedi derbyn euogfarn mewn cysylltiad â throseddol yn ystod ei gyfnod astudio, rhaid i’r aelod staff/myfyriwr hwnnw gyfeirio’r mater ar unwaith at sylw Gwasanaethau Addysg, yn unol â pharagraff 10 isod;
- Fel rheol, bydd y Brifysgol yn cwblhau'r ymchwiliad ac yn penderfynu ar y tramgwyddau disgyblu honedig o fewn 60 diwrnod ar ôl i Wasanaethau Addysg hysbysu'r myfyriwr yn ysgrifenedig am yr honiad. Fodd bynnag, mae’n debyg y bydd yr amserlen hon yn hwy mewn achosion cymhleth neu ddifrifol a allai gynnwys achosion a gyfeirir at Bwyllgor Ymchwilio ac achosion lle disgwylir canlyniad ymchwiliadau'r heddlu neu achosion llys. Os oes oedi wrth ymdrin â'r achos, hysbysir y myfyriwr am hynt yr achos, y rhesymau dros yr oedi a, lle bynnag y bo modd, darperir amcangyfrif o amserlen cwblhau'r achos.
4. Cymhwysedd - I Bwy Mae’r Rheoliadau’n Gymwys?
Mae'r Gweithdrefnau Disgyblu hyn yn berthnasol i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, o'r dyddiad maent yn derbyn cynnig o le ar un o raglenni'r Brifysgol nes iddynt raddio neu adael y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sy'n astudio ar raglenni gradd ar y cyd, y rhai sydd wedi gohirio eu hastudiaethau a'r rhai sy'n astudio’n rhywle arall fel un o ofynion y radd.
Mae'r Gweithdrefnau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr i'r un graddau p'un a ydynt yn y Brifysgol neu'r tu allan i'r Brifysgol a'i lleoliadau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw leoliadau y caiff myfyrwyr eu hanfon iddynt fel rhan o'u hastudiaethau neu yn ystod unrhyw gyfnodau o ohirio astudiaethau.
5. Disgwyliadau Cyffredinol
Gall unrhyw fyfyriwr sy'n cyflawni trosedd (gan gynnwys troseddau a gyflawnir oddi ar y campws) wynebu camau disgyblu a/neu achos troseddol. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr hysbysu'r Brifysgol os cânt eu harestio neu am unrhyw:
- Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr hysbysu'r Brifysgol am fanylion unrhyw dramgwyddau moduro sy'n denu dirwy a chosb uchaf o dri phwynt.
- Dylai myfyrwyr sicrhau, lle bynnag y bo modd, bod unrhyw westeion maent yn eu gwahodd i ddod i'r campws yn ymddwyn mewn modd priodol nad yw’n torri unrhyw rai o reoliadau’r Brifysgol.
- Cyfrifoldeb pob myfyriwr yw sicrhau bod ei fanylion cyswllt yn gywir ar y system gofnodion ganolog. Nid yw’r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am lythyrau nad ydynt yn cyrraedd myfyriwr oherwydd nad yw ei gofnod wedi ei ddiweddaru.
wrth:
- Gyflwyno cais i'r Brifysgol (gall y Swyddog Derbyn fynnu hynny);
- Rhwng cyflwyno cais a chofrestru;
- A thra eu bod wedi'u cofrestru'n fyfyrwyr yn y Brifysgol.
Mae angen y cyfryw wybodaeth er mwyn galluogi’r Brifysgol i gynnal asesiad risg mewn perthynas â’r unigolyn neu'r unigolion dan sylw yn unol â dyletswydd gofal y Brifysgol. Cyn gynted ag y bydd myfyriwr yn destun unrhyw un o'r sefyllfaoedd a restrir uchod, rhaid rhoi gwybod ar unwaith drwy ebost i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg yn studentcases@abertawe.ac.uk.
- Dylai myfyrwyr sicrhau, lle bynnag y bo modd, bod unrhyw westeion maent yn eu gwahodd i ddod i'r campws yn ymddwyn mewn modd priodol nad yw’n torri unrhyw rai o reoliadau’r Brifysgol.
- Cyfrifoldeb pob myfyriwr yw sicrhau bod ei fanylion cyswllt yn gywir ar y system gofnodion ganolog. Nid yw’r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am lythyrau nad ydynt yn cyrraedd myfyriwr oherwydd nad yw ei gofnod wedi ei ddiweddaru.
6. Beth nad yw'n Dramgwydd Disgyblu?
Ni fydd y Rheoliadau’n gymwys i gamau a gymerir mewn ymateb i fethiant gan fyfyrwyr i gyrraedd y safonau gwaith academaidd neu’r lefelau presenoldeb gofynnol, neu i fodloni gofynion academaidd eraill. Mae rheoliadau a gweithdrefnau eraill yn ymdrin â’r materion hynny. Ymdrinnir ag Ymddygiad Amhroffesiynol ac Addasrwydd i Ymarfer hefyd o dan reoliadau gwahanol.
7. Beth yw Tramgwydd Disgyblu?
7.1
Mae gweithredoedd na ellir eu cyfiawnhau neu weithredoedd anghyfreithlon sy’n digio, yn niweidio neu’n gwneud drwg i aelodau o’r Brifysgol, y cyhoedd, gwesteion y Brifysgol neu ei heiddo, ei gweithgareddau neu ei henw da yn dramgwyddau disgyblu. Maent yn cynnwys gweithredoedd sy'n ymyrryd â, neu a allai ymyrryd â gallu'r Brifysgol i weithredu'n briodol neu ag unrhyw aelod o'r Brifysgol wrth ymgymryd â'i waith neu ei astudiaethau
7.2
Mae'r Brifysgol yn dosbarthu tramgwyddau disgyblu mewn categorïau ar sail difrifoldeb y tramgwydd.
Ceir rhestr o enghreifftiau o dramgwyddau disgyblu a'u categorïau dangosol yn Atodiad 1.
Ceir rhestr o'r cosbau y gellir eu pennu ar gyfer gwahanol gategorïau o dramgwyddau yn Atodiadau 3 a 4.
Darperir y rhestrau hyn at ddibenion enghreifftiol yn unig ac nid ydynt yn gynhwysfawr. Ymdrinnir â phob achos ar sail unigol, (h.y. gan ystyried cyd-destun pob honiad), yn ôl barn yr unigolyn/panel sy'n ymdrin ag ef. Mewn rhai achosion, lle ceir ffactorau gwaethygol [a amlinellir yn Adran 7.3], gellir gosod tramgwydd mewn categori uwch ac, felly, gall ddenu cosbau mwy llym. Yn yr un modd, lle ceir ffactorau lliniarol [a amlinellir yn Adran 7.4], gellir gosod tramgwydd mewn categori is ac, felly, gall ddenu cosbau llai llym. Lle nad yw'r tramgwydd honedig yn cydweddu ag unrhyw un o'r tramgwyddau a restrir, bydd enwebai Gwasanaethau Addysg yn defnyddio ei ddoethineb i bennu categori'r tramgwydd. Caiff y rheoliadau eu cymhwyso mewn modd rhesymegol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin. Ystyrir achosion yn eu cyd-destun, ac ystyrir difrifoldeb y tramgwydd honedig
7.3
Ffactorau Gwaethygol
Gellir ystyried bod y tramgwydd yn fwy difrifol a'i symud i gategori uwch a/neu gellir pennu cosbau mwy llym oherwydd presenoldeb ffactorau gwaethygol. Gallai'r ffactorau hyn gynnwys y canlynol, ond nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr:
- Tramgwyddau sy'n ymwneud â nodweddion gwarchodedig yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010;
- Tramgwyddau sy'n achosi anaf corfforol, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol;
- Tramgwyddau sy'n digwydd ar Gampws neu yn adeiladau’r Brifysgol;
- Tramgwyddau sy'n ymwneud â phlant neu oedolion sy'n agored i niwed;
- Tramgwyddau sy'n ymwneud ag aelod arall o'r Brifysgol;
- Tramgwyddau lle mae myfyriwr wedi derbyn rhybudd neu gosb o'r blaen.
7.4
Ffactorau Lliniarol
Gellir ystyried bod y tramgwydd yn llai difrifol a'i osod mewn categori is o ganlyniad a/neu gellir pennu cosbau llai llym oherwydd ffactorau lliniarol. Gallai'r ffactorau hyn gynnwys y canlynol, ond nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr:
- Tramgwyddau y gellir tybio, o fewn rheswm, eu bod wedi'u cyflawni heb fwriad i achosi niwed, difrod neu ofid;
- Cyd-destun tramgwydd penodol;
- Lle'r roedd gan y myfyriwr amgylchiadau iechyd neu bersonol eraill pan gyflawnwyd y tramgwydd.
Nid yw'r Brifysgol yn ystyried bod dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau pan gyflawnwyd y tramgwydd yn ffactor lliniarol.
8. Beth yw’r Berthynas Rhwng y Gweithdrefnau Disgyblu Hyn a Gweithdrefnau Eraill yn y Brifysgol?
8.1
Mae rhai o adrannau'r Brifysgol, megis Llety, y Llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr a labordai rhai Adrannau, yn gweithredu eu Rheoliadau Diogelwch/Disgyblu mewnol eu hunain. Mae’r rheoliadau amrywiol hyn yn cael blaenoriaeth dros Weithdrefnau Disgyblu’r Brifysgol yn y lle cyntaf. Serch hynny, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gyfeirio achosion mwy difrifol/cymhleth i gael eu trin o dan Reoliadau Disgyblu’r Brifysgol.
8.2
Yn achos tramgwyddau disgyblu honedig sy'n destun Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol a Gweithdrefnau Disgyblu Undeb y Myfyrwyr, bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ymchwilio iddynt ac yn penderfynu arnynt ar y cyd, yn unol ag Adran 14. Gall y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr rannu unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i'r fath honiadau, megis manylion personol y myfyriwr sy'n destun yr honiad a gwybodaeth ynghylch yr honiad.
9. Beth Sy’n Digwydd Pan Fo’r Tramgwydd Disgyblu Hefyd yn Drosedd o dan y Gyfraith?
9.1
Rhaid i fyfyrwyr ddarparu manylion unrhyw ymchwiliadau gan yr heddlu, achosion llys troseddol, arestiadau, cyhuddiadau neu rybuddion maen nhw'n rhan ohonynt, euogfarnau maen nhw'n eu derbyn ac unrhyw amodau mechnïaeth a rhybudd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg drwy e-bostio studentcases@abertawe.ac.uk) [gweler Rheoliad 5 i gael mwy o wybodaeth].
9.2
Pan fo’r tramgwydd disgyblu dan sylw hefyd yn destun ymchwiliad yr Heddlu/achos llys nad yw wedi dod i ben, ni wneir penderfyniad fel rheol o dan y rheoliadau hyn nes y bydd yr ymchwiliad troseddol/achos cyfreithiol wedi dod i ben. Yn hytrach, cyfeirir at yr achos fel un “sydd wedi ei ohirio nes y ceir canlyniad yr ymchwiliad troseddol/achos cyfreithiol”.
9.3
Gan ystyried dyletswydd gofal y Brifysgol i eraill, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y tramgwydd, gellir cymryd camau asesu risg penodol yn ystod y cyfnod gohirio hwn, megis gofyn i'r myfyriwr ymrwymo i Gontract Ymddygiad neu wahardd y myfyriwr yn rhannol neu’n llwyr o’r Brifysgol a'i mangreoedd (gweler Atodiad 2).
9.4
Adolygir yr achos pan fydd unrhyw ddatblygiad yn ymchwiliadau'r heddlu neu'r achos cyfreithiol. Atgoffir myfyrwyr bod dyletswydd arnynt i roi gwybod i’r Brifysgol am statws eu hachos.
9.5
Pan fydd ymchwiliadau’r heddlu wedi eu cwblhau, a’r myfyriwr naill ai wedi ei erlyn, neu benderfyniad wedi'i wneud i beidio ag erlyn y myfyriwr, bydd enwebai Gwasanaethau Addysg neu'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr yn penderfynu a ddylid parhau i gymryd camau disgyblu o dan y rheoliadau hyn.
9.6
Pan fydd myfyriwr wedi'i gael yn euog o drosedd yn, tybir bod yr euogfarn yn dystiolaeth ddiymwad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni - h.y. ni ddylai'r sawl sy'n gyfrifol am benderfynu ar yr achos yn y Brifysgol geisio 'dehongli' yr euogfarn na dod i gasgliad gwahanol am y materion a arweiniodd at yr euogfarn.
9.7
Pan fydd myfyriwr yn cael dedfryd o ddieuog o drosedd gan Lys, neu os nad yw'r Heddlu wedi bwrw ymlaen ag ymchwiliad troseddol, gall y Brifysgol barhau i benderfynu a gyflawnwyd tramgwydd disgyblu ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd.
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg (neu ei enwebai), yn ôl ei ddisgresiwn, sy'n penderfynu a ddylid caniatáu i fater disgyblu symud ymlaen drwy Weithdrefn Ddisgyblu'r Brifysgol os yw’r drosedd y cafwyd y myfyriwr yn ddi-euog ohoni’n ymwneud â myfyriwr a adroddodd am fater sydd wedi graddio/tynnu'n ôl o'r Brifysgol erbyn y dyfarniad di-euog a/neu'n ymwneud â myfyriwr presennol a adroddodd am fater nad yw'n cyflwyno adroddiad disgyblu ffurfiol i'r Gwasanaethau Addysg o fewn mis i'r dyfarniad di-euog.
9.8
Lle bernir bod myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd disgyblu, ac mae'r myfyriwr hefyd wedi cael ei ddedfrydu gan lys troseddol ar sail yr un ffeithiau, caiff cosb y llys ei hystyried wrth bennu'r canlyniad neu'r gosb yn unol â'r Gweithdrefnau hyn.
9.9
Fel rheol, bydd yn ofynnol i fyfyriwr sy’n cael dedfryd o garchar ohirio ei astudiaethau am gyfnod y ddedfryd honno neu am gyfnod hwy.
9.10
Os yw'r ddedfryd o garchar yn para 12 mis neu hwy, neu'n hwy na gweddill cyfnod ymgeisyddiaeth y myfyriwr, fel rheol bydd aelod uwch o staff Gwasanaethau Addysg, ("yr enwebai"), ar ran y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau, yn gofyn i'r myfyriwr dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Bydd Gwasanaethau Addysg yn cadarnhau'r penderfyniad hwn yn ysgrifenedig i’r myfyriwr. Fodd bynnag, caiff y myfyriwr ofyn i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg am adolygiad o'r penderfyniad hwn dan y Rheoliadau Adolygiad Terfynol o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y penderfyniad [gweler 14 isod].
9.11
Mewn unrhyw achos lle mae’r myfyriwr wedi gohirio ei astudiaethau oherwydd dedfryd o garchar, bydd caniatâd i'r myfyriwr ddychwelyd i’r Brifysgol yn amodol ar ganlyniad boddhaol asesiad risg (gweler Atodiad 2). Gellir gosod amodau a chyfyngiadau ar symudiadau ac ymddygiad y myfyriwr os caniateir i'r myfyriwr ailafael yn ei astudiaethau.
10. Adrodd am Dramgwydd Disgyblu
Cyflwynir adroddiad ysgrifenedig ar bob achos o gamymddygiad gan staff neu fyfyrwyr i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg, cyn gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad. Dylai’r adroddiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Enw’r sawl sy'n destun yr honiad o gamymddygiad;
- Natur y digwyddiad(au) honedig;
- Amser a lleoliad y digwyddiad(au);
- Tystion a welodd y digwyddiad(au) a/neu eraill sy'n ymwybodol o'r digwyddiad(au);
- Unrhyw ddogfennau/tystiolaeth berthnasol.
11. Gweithdrefn ar gyfer Ymdrin â Thramgwydd Disgyblu
Gall unrhyw fyfyriwr sy'n destun honiad o dramgwydd disgyblu (fel y'i diffinnir yn Adran 7.1) wynebu camau disgyblu yn unol ag Adran 11.1 isod.
Lle gall y tramgwydd disgyblu honedig fod yn destun Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol a Gweithdrefnau Disgyblu Undeb y Myfyrwyr hefyd, bydd y gweithdrefnau a amlinellir yn Adran 14 yn berthnasol.
11.1
Cam 1 - Asesu Rhagarweiniol
Bydd enwebai Gwasanaethau Addysg yn cynnal asesiad rhagarweiniol o’r achos ac yn asesu a oes achos prima facie (h.y. posibl) i’w ateb. Lle bo’r enwebai o'r farn bod hynny'n briodol, bydd yn hysbysu'r myfyriwr yn ysgrifenedig am yr honiad o gamymddygiad, ac yn rhoi 7 niwrnod gwaith i'r myfyriwr roi ateb ysgrifenedig i’r honiad. Os na fydd y myfyriwr yn ymateb i’r honiad, yna gall yr enwebai asesu’r achos ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.
Wrth asesu’r achos, bydd yr enwebai’n ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys a ymdriniwyd â’r achos dan unrhyw weithdrefn/rheoliad arall o eiddo’r Brifysgol; a ddylid ymdrin â’r achos o dan weithdrefn arall o eiddo’r Brifysgol, megis y Rheoliadau Disgyblaeth Llety; a ydy'r achos yn destun ymchwiliad troseddol/achos cyfreithiol; a difrifoldeb a chymhlethdod yr achos.
Cyn cwblhau'r asesiad rhagarweiniol, gall yr enwebai gynnal asesiad risg interim yn unol â'r broses a ddisgrifir yn Atodiad 2.
Ar ôl cwblhau'r asesiad rhagarweiniol, mae unrhyw un o'r penderfyniadau canlynol, neu gyfuniad ohonynt ar gael i'r enwebai:
a) Gwrthod yr achos;
b) Cynnal asesiad risg interim yn unol â'r broses a ddisgrifir yn Atodiad 2;
c) Atgoffa’r myfyriwr dan sylw am y Rheoliadau Disgyblu ond peidio â gweithredu ymhellach;
ch) Lle mae'r enwebai'n penderfynu bod achos prima facie (h.y. posib) i'w ateb o ran tramgwydd disgyblu Categori 1 (gweler y categorïau dangosol yn Atodiad 1), a chan ystyried unrhyw ffactorau gwaethygol a lliniarol (gweler 7.3 a 7.4), gall yr enwebai wahodd y myfyriwr i dderbyn un neu ragor o'r cosbau a restrir yn Atodiad 3; Adran A. Os bydd y myfyriwr yn gwrthod y canlyniad hwn neu os nad yw'n cydymffurfio â'r canlyniad o fewn yr amserlen a bennir gan yr enwebai, gall yr enwebai bennu canlyniad gwahanol dan Adran 11.1 neu gyfeirio'r achos at sylw'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr;
d) Lle bo'r enwebai'n penderfynu bod achos prima facie (h.y. posib) i'w ateb o ran tramgwydd disgyblu Categori 2 neu 3 (gweler y categorïau dangosol yn Atodiad 1), bydd yr enwebai'n cyfeirio'r achos at sylw'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr;
Pan fydd yr enwebai'n pennu bod tramgwydd disgyblu Categori 2 neu 3 prima facie (h.y. posib) (gweler y categorïau dangosol yn Atodiad 1), gall yr enwebai gyfeirio'r achos at y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr. Neu, mewn achosion o'r fath, lle mae’r enwebai yn ystyried bod hyn yn briodol , fel ffordd gynnar o ddatrys y mater, gall wahodd y myfyriwr i dderbyn cosb(au) tramgwydd disgyblu Categori 1 yn unol ag Adran A Atodiad 3 yn hytrach nag uwchgyfeirio'r mater i'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr. Pan fydd y myfyriwr yn gwrthod y canlyniad datrys yn gynnar neu os nad yw'n cydymffurfio â'r canlyniad o fewn yr amserlen a bennwyd gan yr enwebai, bydd yr enwebai'n cyfeirio'r achos at y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr;
dd) Cyfeirio’r achos at sylw swyddog arall i ymdrin ag ef o dan weithdrefnau neu Reoliadau eraill y Brifysgol;
e) Gohirio'r achos nes y daw ymchwiliad troseddol/achos cyfreithiol i ben (gweler Adran 9.2).
11.2
Cam 2 - Cyfeirio at sylw’r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr
Ar ôl derbyn y dystiolaeth, bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr yn penderfynu pa gamau gweithredu (os o gwbl) fyddai’n briodol. Wrth wneud ei benderfyniad bydd gan y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr hawl i gysylltu ag unrhyw un o’r partïon dan sylw ar y ffôn neu drwy ebost neu i ofyn am gyfarfod yn bersonol i geisio eglurhad neu esboniad llawnach ar unrhyw bwynt. Lle bynnag yr ystyrir bod cyfarfod yn briodol, bydd gan y myfyriwr/myfyrwyr yr hawl i gael wahodd cyfaill neu gydweithiwr (sy’n aelod o’r Brifysgol) neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr ar yr amod y rhoddir gwybod i’r Brifysgol yn ffurfiol am enw a statws yr unigolyn hwn heb fod yn llai na 24 awr ymlaen llaw.
Y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr sy'n penderfynu a yw’n angenrheidiol ac yn briodol, wrth iddo/iddi ystyried yr achos ac wrth ystyried natur gyfrinachol y camau disgyblu yn erbyn y myfyriwr, i unrhyw dystiolaeth yn erbyn y myfyriwr a ddarparwyd neu a gafwyd, gael ei rhoi i fyfyriwr/fyfyrwyr a adroddodd am y mater a/neu i unrhyw dystion.
Os bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr o'r farn y gall fod gwrthdaro buddiannau os yw'n ymdrin â'r achos (hynny yw, os yw'n Fentor Academaidd y myfyriwr), neu os na fydd ar gael, bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr neu'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg yn enwebu aelod arall o’r staff i fod yn 'Swyddog Disgyblu Myfyrwyr Dros Dro' i ymdrin â'r achos yn unol â'r Gweithdrefnau Disgyblu hyn yn lle'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr.
Y canlyniadau sydd ar gael i’r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr.
Bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr fel arfer yn gwneud penderfyniad o fewn 5 niwrnod gwaith i dderbyn y dystiolaeth ac yn cwrdd â’r myfyriwr lle bo hynny'n berthnasol. Bydd yr enwebai’n hysbysu’r myfyriwr, yn ysgrifenedig, cyn gynted ag y bo modd, o benderfyniad y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr, fel arfer o fewn 3 diwrnod gwaith.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, gall y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr, yn unol â’i ddisgrsiwn ef/ei disgresiwn hi:
a) Gwrthod yr honiad;
b) Gohirio’r achos hyd nes y daw ymchwiliad gan yr heddlu i ben, gydag amodau neu heb amodau. Gall amodau o'r fath gynnwys gwaharddiad rhag cysylltu â myfyriwr arall;
c) Cyfeirio’r achos at sylw'r Is-ganghellor (neu ei enwebai) i atal y myfyriwr, neu ei atal yn rhannol, ar unwaith hyd nes y bydd ymchwiliad pellach, neu nes y cynhelir cyfarfod o'r Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol, yn unol ag Adran 12;
ch) Barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd disgyblu ond peidio â chymryd unrhyw gamau pellach;
d) Barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd disgyblu Categori 1 neu 2 (gweler y categorïau dangosol yn Atodiad 1) a chan ystyried unrhyw ffactorau gwaethygol a lliniarol (gweler 7.3 a 7.4) gall bennu un neu ragor o'r cosbau a restrir yn Atodiad 3, Adran B, pan fydd ef neu hi’n ystyried bod y gosb sydd ar gael yn ddigonol.
dd) Cyfeirio’r achos at sylw Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol;
e) Cyfeirio'r achos at sylw swyddog arall i ymdrin ag ef o dan weithdrefnau neu Reoliadau eraill y Brifysgol naill ai yn lle'r canlyniadau uchod neu yn ogystal â nhw;
f) Penderfynu ar yr achos ar y cyd â Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr, yn unol ag Adran 14.2, lle mae'r honiad o fewn cwmpas Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
12. Atal/Atal Rhannol
12.1
Lle bo'r enwebai o'r farn ei bod yn angenrheidiol atal myfyriwr neu ei atal yn rhannol nes y ceir canlyniad ymchwiliad/achos troseddol, neu weithdrefnau disgyblu'r Brifysgol, cyn gynted â phosib, bydd yn dwyn y mater i sylw'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr neu'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg (neu ei enwebai) a fydd yn penderfynu a ddylid cyfeirio'r achos at sylw'r Is-ganghellor (neu ei enwebai) i atal y myfyriwr neu ei atal yn rhannol o'i astudiaethau nes y cynhelir ymchwiliad pellach neu gyfarfod o Bwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol.
12.2
Gall fod yn ofynnol i fyfyriwr a gyhuddir o dramgwydd disgyblu difrifol; neu y mae cyhuddiad troseddol yn ei erbyn yn yr arfaeth; neu sy’n destun ymchwiliad gan yr heddlu, ohirio ei astudiaethau neu gael ei atal yn rhannol gan yr Is-ganghellor (neu ei enwebai) nes y ceir canlyniad gweithdrefnau disgyblu'r Brifysgol neu'r achos troseddol. Gall ataliad neu ataliad rhannol barhau ar ôl i ymchwiliad yr heddlu neu'r achos llys ddod i ben.
Yn yr un modd, gall fod yn ofynnol i fyfyriwr sydd wedi cael ei ddedfrydu'n euog o drosedd ohirio ei astudiaethau neu gael ei atal yn rhannol gan yr Is-ganghellor (neu ei enwebai), hyd nes y ceir canlyniad gweithdrefnau disgyblu’r Brifysgol. Gweler Adran 9 am ragor o wybodaeth ynghylch dedfrydau o garchar.
12.3
a) Mae ataliad yn golygu gwahardd y myfyriwr yn llwyr rhag mynychu'r Brifysgol neu ddefnyddio ei chyfleusterau, rhag y cwrs (gan gynnwys lleoliadau gwaith myfyrwyr) a rhag cymryd rhan mewn unrhyw rai o weithgareddau’r Brifysgol. Gallai gynnwys hefyd gofyniad nad oes gan y myfyriwr unrhyw gysylltiad ag unigolyn neu unigolion a enwir. Ni ddefnyddir ataliad llwyr oni fernir bod ataliad rhannol neu ataliad rhag gweithgareddau penodol yn annigonol;
b) Mae ataliad rhannol yn golygu cyfyngu yn ddetholus ar hawl y myfyriwr i ddefnyddio cyfleusterau'r Brifysgol neu i fynychu ei rhaglenni neu ei chyrsiau astudio (gan gynnwys lleoliadau gwaith myfyrwyr) a'i atal yn ddetholus rhag cyflawni gwaith neu ddyletswyddau unrhyw swydd neu aelodaeth o bwyllgorau yn y Brifysgol; caiff yr union fanylion eu nodi trwy lythyr. Gallai gynnwys hefyd gofyniad nad oes gan y myfyriwr unrhyw gysylltiad ag unigolyn neu unigolion a enwir.
12.4
Ni ddefnyddir ataliad neu ataliad rhannol nes y ceir canlyniad ymchwiliad troseddol/achos cyfreithiol neu weithdrefnau disgyblu'r Brifysgol at ddiben cosbi myfyriwr, er y cydnabyddir y gall hyn gael effaith gosbol. Diben y pŵer i atal myfyriwr neu ei atal yn rhannol o dan y ddarpariaeth hon yw diogelu aelodau'r Brifysgol yn gyffredinol, neu aelod penodol, neu unigolion eraill, gan gynnwys cleifion, disgyblion, cleientiaid neu aelodau'r cyhoedd a/neu enw da'r Brifysgol. Ni ddefnyddir y pŵer ond lle mae'r Is-ganghellor (neu ei enwebai) o'r farn bod angen cymryd y fath gam. Gwneir cofnod ysgrifenedig o’r rhesymau dros y penderfyniad a byddant ar gael i’r myfyriwr.
12.5
Fel rheol, ni chaiff myfyriwr ei atal, neu ei atal yn rhannol, oni fydd y myfyriwr wedi cael cyfle i gyflwyno sylwadau’n bersonol i’r Is-ganghellor (neu ei enwebai). Pan fo’n ymddangos am unrhyw reswm i’r Is-ganghellor (neu ei enwebai) nad yw’n bosib neu’n briodol i’r myfyriwr wneud sylwadau’n bersonol, bydd gan y myfyriwr hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Os nad yw'r myfyriwr ar gael i gwrdd â'r Is-ganghellor (neu ei enwebai) ar yr adeg a gynigir, fel rheol gwahoddir y myfyriwr i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn lle hynny.
12.6
Mewn achosion y tybir eu bod o frys mawr, bydd gan yr Is-ganghellor (neu ei enwebai) hawl i atal myfyriwr ar unwaith, ar yr amod bod y cyfleoedd a nodwyd yn 12.5 uchod yn cael eu cynnig wedi hynny, ac ar yr amod y caiff y mater ei adolygu ymhen 7 niwrnod gwaith.
12.7
Pan fo datblygiadau arwyddocaol, trefnir adolygiad o’r ataliad neu’r ataliad rhannol cyn gynted ag y bo modd. Ni fydd adolygiad o’r fath yn cynnwys cyfarfod neu gyfle i'r myfyriwr gyflwyno sylwadau'n bersonol, ond bydd gan y myfyriwr hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
12.8
Pan fydd canlyniad ymchwiliad yr heddlu a (lle bo'n berthnasol) achos llys yn hysbys, bydd yr enwebai'n trefnu i'r achos gael ei glywed cyn gynted ag y bo modd.
13. Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol
Pan dderbynnir honiad o dramgwydd disgyblu, sydd i’w gyfeirio at Bwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol i’w ystyried, bydd yr enwebai yn trefnu i Bwyllgor Ymchwilio priodol gael ei gynnal cyn gynted ag y bo modd, fel rheol o fewn 6 wythnos waith i’r dyddiad y cyflwynodd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr y penderfyniad, ac i aelod o Wasanaethau Academaidd weithredu fel Ysgrifennydd i’r Pwyllgor.
Bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr yn cyflwyno’r achos yn erbyn y myfyriwr.
Bydd y Panel y Pwyllgor Disgyblu yn cynnwys tri aelod (a ddewisir gan Ysgrifennydd y Pwyllgor), sef:
(i) Dau aelod o blith y canlynol: Dirprwy Is-gangellorion, aelodau Pwyllgorau/Byrddau'r Brifysgol â phrofiad/arbenigedd perthnasol; uwch aelodau'r staff addysgu academaidd (h.y. Uwch-ddarlithwyr neu’n uwch); ac Athrawon Emeritws; ac
(ii) Un aelod o blith y canlynol: myfyriwr (i'w enwebu gan yr Ysgrifennydd neu gan Undeb y Myfyrwyr); Swyddog amser llawn Undeb y Myfyrwyr; neu drydydd aelod o blith 13(i) uchod.
Bydd un aelod o Banel y Pwyllgor Disgyblu yn cael ei benodi gan Ysgrifennydd y Bwrdd i fod yn Gadeirydd. Cyrhaeddir penderfyniad Panel y Pwyllgor trwy bleidlais y mwyafrif. Ymdrinnir â phleidleisiau’r aelodau unigol yn gyfrinachol.
Ar ben hynny, mewn achosion sy’n cynnwys materion cyfreithiol cymhleth, neu mewn achosion eithriadol o ddifrifol, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i benodi Cadeirydd Allanol, nad yw'n aelod o Brifysgol Abertawe, sydd â chymhwyster cyfreithiol proffesiynol, a fydd yn cael ei benodi gan yr Is-ganghellor neu ei enwebai i weithredu’n annibynnol. Hysbysir y myfyriwr os penodir cynrychiolydd cyfreithiol i’r Pwyllgor. Os bydd y bleidlais yn gyfartal, caiff y Cadeirydd bleidlais fwrw yn ychwanegol.
Ni fydd Panel y Pwyllgor Disgyblu’n cynnwys aelodau o staff o Ysgol lle mae’r myfyriwr yn astudio nac aelodau sydd wedi ymwneud â’r achos dan sylw o’r blaen.
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penodi’r Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol a chan gofio disgwyliad y Brifysgol y dylid clywed achosion o’r fath fel rheol o fewn 6 wythnos waith i benderfyniad y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr, bydd yr Ysgrifennydd:
- Yn anfon copïau at y myfyriwr o ddatganiadau tystion ac o’r dogfennau sydd i’w gosod gerbron y Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol, ac yn cynnig cyfle i’r myfyriwr nodi unrhyw ddatganiad neu ddogfen y gall fod dadl yn ei gylch ac i ddarparu unrhyw ddogfennau ategol;
- Yn gwahodd y myfyriwr i ddarparu, erbyn dyddiad terfyn a bennir, unrhyw dystiolaeth, datganiadau ysgrifenedig neu ddogfennau eraill i ategu ei amddiffyniad, a fydd hefyd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Disgyblu. Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol, gall y cadeirydd ddatgan bod unrhyw dystiolaeth a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau a bennwyd yn annerbyniol fel y gwêl yn ddoeth;
- Yn gwahodd y myfyriwr i hysbysu Ysgrifennydd y Pwyllgor am unrhyw anghenion arbennig;
- Yn hysbysu’r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr, aelodau o’r Pwyllgor Disgyblu, a lle bo hynny’n briodol yr achwynydd gwreiddiol a’r Deon Gweithredol, am ddyddiad, lleoliad ac amser y cyfarfod ac yn darparu copïau o’r honiad ac o unrhyw ddatganiadau neu ddogfennau y cytunwyd arnynt iddynt fel sy’n briodol.
Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn trefnu dyddiad, lleoliad ac amser i’r Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol gyfarfod. Hysbysir y myfyriwr bod ganddo hawl i fod yn bresennol yn y cyfarfod. Os na all y myfyriwr fod yn bresennol ar y dyddiad hwnnw, bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn aildrefnu’r cyfarfod unwaith, oni bai fod y myfyriwr yn cadarnhau trwy lythyr nad yw’n dymuno fod yn bresennol yn y cyfarfod. Bydd angen i’r myfyriwr roi gwybod i’r Ysgrifennydd a yw’n bwriadu fod yn bresennol yn nghyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio ai peidio. Os bydd y myfyriwr yn nodi nad yw’n dymuno mynychu’r cyfarfod, bydd y Pwyllgor Ymchwilio yn cyfarfod yn ei absenoldeb. Fel arfer, ni chaiff myfyriwr anfon rhywun arall i’r cyfarfod yn ei le, oni bai fod y Cadeirydd yn awdurdodi hynny cyn y cyfarfod.
Dylid cynnal gwrandawiadau’r Pwyllgor ym Mhrifysgol Abertawe oni chytunwyd ar drefniadau eraill.
Bydd gan y myfyriwr hawl i gael ei gynrychioli neu i ddod â chydweithiwr/cyfaill (sy’n aelod o Brifysgol Abertawe) neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr i’r cyfarfod. Bydd gan y myfyriwr hawl i glywed yr holl dystiolaeth, i gyflwyno sylwadau i'r panel neu i gynrychiolydd siarad ar ei ran, i alw ar dystion a’u holi, ac i dynnu sylw’r Panel at dystiolaeth arall a gyflwynwyd erbyn y dyddiad cau a bennwyd.
Rhaid i fyfyriwr sy’n bwriadu dod â rhywun i'r cyfarfod, a/neu gael ei gynrychioli, roi gwybod yn ysgrifenedig i'r Ysgrifennydd ymlaen llaw am enw’r person sy’n dod gydag ef/hi; a rhaid iddo ddatgan a oes cymwysterau cyfreithiol gan y person sy’n ei gynrychioli neu sy’n dod gydag ef/hi. Fel arfer, ni chaiff y fath bobl fynychu mewn rhinwedd gyfreithiol oni bai fod y Cadeirydd wedi awdurdodi hynny cyn y cyfarfod. Mater i'r Cadeirydd benderfynu arno yn ei ddoethineb yw hyn, ar sail amgylchiadau penodol yr achos.
Os yw'r Cadeirydd yn cytuno y gall cynrychiolydd cyfreithiol y myfyriwr ddod i'r Pwyllgor, caniateir i'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr gyfarwyddo ei gynrychiolydd cyfreithiol ei hun (os yw am wneud hynny) yng nghyfarfod y Pwyllgor a gellir gohirio cyfarfod y Pwyllgor i alluogi'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr i drefnu hyn.
Os na fydd myfyriwr yn mynd i gyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol, ac yntau wedi nodi cyn hynny wrth yr Ysgrifennydd y byddai’n bresennol, ar yr amod y defnyddiwyd pob ymdrech resymol wedi’i gwneud i gysylltu â’r myfyriwr, bydd y cyfarfod yn mynd yn ei flaen yn ei absenoldeb.
Atgoffir myfyrwyr er eu lles eu hunain y dylent gadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol. Os nad yw’r myfyriwr yn ateb ei ohebiaeth neu os yw’n gofyn am ohirir Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol ar fwy nag un achlysur, bydd y Brifysgol yn bwrw ymlaen â’r gwrandawiad yn absenoldeb y myfyriwr ar yr amod bod pob ymdrech resymol wedi ei gwneud i gysylltu â’r myfyriwr ac i wneud trefniadau sy’n hwylus iddo.
13.1 Swyddogaethau’r Pwyllgor
Y rhain fydd swyddogaethau’r Pwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol:
- Ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo;
- Penderfynu a brofwyd yr honiad yn ymwneud â’r tramgwydd disgyblu;
- Os yw'n briodol, pennu'r canlyniad neu’r gosb i’w gosod.
13.2 Y Drefn yn ystod y cyfarfod
Yn amodol ar y weithdrefn a amlinellir isod, bydd proses cyfarfod y Pwyllgor yn ôl doethineb Ysgrifennydd a Chadeirydd y Pwyllgor. Caiff yr Ysgrifennydd/Cadeirydd osod terfyn amser ar sylwadau llafar y partïon a/neu'r tystion. Os bydd dau neu fwy o fyfyrwyr yn ymwneud â chamymddwyn perthynol, caiff y Pwyllgor, yn ôl doethineb yr Ysgrifennydd/ Cadeirydd, ymdrin â'r achosion gyda'i gilydd.
Bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr yn cyflwyno’r achos, gan alw tystion a chyflwyno tystiolaeth, fel y gwêl yn dda. Gallai holi'r myfyriwr a’r tystion. Ar ôl i’r achos gael ei gyflwyno, bydd y myfyriwr yn cyflwyno ei amddiffyniad, gan alw tystion a chyflwyno tystiolaeth, fel y gwêl orau.
Bydd gan y myfyriwr hawl i gael ei gynrychioli neu i ddod â rhywun gydag ef/hi, i glywed yr holl dystiolaeth a ddygir yn ei erbyn, i gyflwyno sylwadau i'r Panel, i gynrychiolydd siarad ar ei ran, i alw a holi tystion, ac i dynnu sylw’r Panel at dystiolaeth arall a gyflwynwyd erbyn y dyddiad cau a bennwyd. Pan fo’r myfyriwr wedi dewis dod â rhywun gydag ef/hi yn hytrach na chael ei gynrychioli, gall y Cadeirydd wahodd cyfraniadau gan y person sy'n dod gyda’r myfyriwr.
Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor, gall y panel holi unrhyw un o'r partïon a'u tystion.
Bydd gan y myfyriwr hawl i ddod â chyfieithydd ar y pryd gydag ef/hi os nad Cymraeg neu Saesneg yw ei iaith gyntaf. Y myfyriwr sy’n gyfrifol am drefnu cyfieithydd os oes angen, a’r myfyriwr sy’n gyfrifol am dalu ei ffioedd. Bydd y myfyriwr yn hysbysu’r Ysgrifennydd am enw’r cyfieithydd cyn y cyfarfod.
Gall myfyriwr ddewis bod gwrandawiad y Pwyllgor Ymchwilio’n cael ei gynnal yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd myfyrwyr sy’n dymuno i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn Gymraeg yn rhoi gwybod i’r Ysgrifennydd, o gael gwybod dyddiad y gwrandawiad, er mwyn i Swyddfa Iaith Gymraeg y Brifysgol drefnu gwasanaeth cyfieithu. Bydd y gwasanaeth hwnnw’n cael ei ddarparu’n rhad ac am ddim i’r myfyriwr.
Ni ellir holi tystion ond ynglŷn â’r dystiolaeth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r achos ac fel rheol, byddant yn cilio ar ôl cael eu holi. Fel arfer cânt eu holi’n unigol. Felly, ni all tyst fynychu fel tyst yn ogystal â fel cynrychiolydd. Efallai y bydd Cadeirydd y Panel yn dymuno caniatáu i dystion aros yn y gwrandawiad trwy gydol y trafodaethau os bydd y ddwy ochr yn cytuno i hynny ymlaen llaw neu os bydd y Cadeirydd o'r farn ei bod yn berthnasol i'r achos i dyst aros yn y gwrandawiad.
Mae gan y Cadeirydd awdurdod i ystyried gohirio'r cyfarfod neu dorri ar ei draws ar gais y naill barti neu'r llall, neu os yw'r Cadeirydd o'r farn bod angen gohirio neu dorri ar draws y cyfarfod.
Pan fydd y gwaith o gyflwyno tystiolaeth a holi tystion wedi’i gwblhau, bydd pawb, ar wahân i'r Panel a'r Ysgrifennydd, yn cilio.
Bydd y Panel wedyn yn ystyried a yw’r honiad o dramgwydd disgyblu wedi cael ei gadarnhau, a’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am faich y prawf (y ddyletswydd i brofi’r honiad), a dylai safon y prawf fod 'yn ôl pwysau tebygolrwydd’: cadarnheir ffaith os yw’n fwy tebygol o fod wedi digwydd na pheidio.
Os bydd y Panel yn dod i'r casgliad bod honiad o dramgwydd disgyblu wedi’i brofi, bydd yn ystyried y gosb i’w phennu neu’r canlyniad perthnasol. Bydd gan y myfyriwr hawl i gyflwyno unrhyw amgylchiadau lliniarol i’r Pwyllgor naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, cyn i’r Panel benderfynu ar ganlyniad priodol.
13.3 Y Canlyniadau sydd Ar Gael i’r Pwyllgor Ymchwilio
Fel rheol, ni chaiff y Panel wybod, cyn gwneud ei benderfyniad ynghylch yr honiad dan sylw, am unrhyw dystiolaeth o honiadau o dramgwyddau disgyblu blaenorol a brofwyd. Ond dylid hysbysu'r Panel am hynny cyn pennu’r gosb.
Mewn achosion eithriadol, gellir datgelu tystiolaeth o dramgwyddau disgyblu blaenorol cyn i’r Panel benderfynu a yw'r tramgwydd disgyblu wedi'i brofi, lle mae tystiolaeth o’r fath yn gwrth-ddweud honiad gan y myfyriwr o gymeriad blaenorol da.
Wrth benderfynu ar y canlyniad/y gosb i'w phennu, gall y Panel ystyried unrhyw ffactorau gwaethygol neu liniarol - gweler Adran 7.3 a 7.4.
Ar ddiwedd cyfarfod y Pwyllgor, gall Panel y Pwyllgor:
a) Gwrthod yr honiad;
b) Barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd disgyblu ond peidio â chymryd unrhyw gamau pellach;
c) Barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd Categori 1 neu 2 (gweler y categorïau dangosol yn Atodiad 1) a phennu un neu fwy o'r cosbau a restrir yn Atodiad 3; Adran B;
ch) Barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd Categori 3 (gweler y categorïau dangosol yn Atodiad 1) a phennu un neu fwy o'r cosbau a restrir yn Atodiad 3; Adran C.
13.4 Camau Gweithredu i’w Cymryd yn Dilyn y Pwyllgor Ymchwilio
Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn cadarnhau i'r myfyriwr yn ysgrifenedig, fel arfer o fewn 7 niwrnod gwaith ar ôl diwedd cyfarfod y Pwyllgor, a gadarnhawyd yr honiad/honiadau ai peidio, beth yw'r canlyniad neu’r gosb, a bod gan y myfyriwr hawl i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad yn unol â Gweithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol. Pan fyddant wedi cael eu llunio a'u cymeradwyo gan Gadeirydd y Pwyllgor, darperir copi o adroddiad am benderfyniadau'r Panel a'r rhesymau drostynt neu gofnodion cyfarfod y Pwyllgor i'r myfyriwr.
Gall Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwilio hefyd hysbysu'r myfyriwr ar lafar o ganfyddiadau'r Pwyllgor ac o’r canlyniad/y gosb a roddwyd, ond ni cheir trafod penderfyniadau'r Panel â'r myfyriwr.
O ran datgelu unrhyw ganlyniad/gosb i fyfyriwr a adroddodd am y mater, gall y Pwyllgor benderfynu rhyddhau rhywfaint o wybodaeth am y canlyniad/gosb i’r myfyriwr hwnnw pan fydd y mater yn ymwneud yn benodol ag ef (e.e. os yw wedi rhoi gwybod iddo fod yn destun camymddygiad rhywiol, camymddygiad corfforol neu ymddygiad sarhaus gan fyfyriwr arall a'r adroddiad hwnnw sydd wedi arwain at y weithdrefn ddisgyblu yn erbyn y myfyriwr). Bydd unrhyw wybodaeth a roddir i'r person a roddodd wybod am y mater yn cael ei rhoi'n gyfrinachol oherwydd natur gyfrinachol y weithdrefn ddisgyblu a bydd lefel yr wybodaeth a roddir yn cael ei phennu gan y Pwyllgor/Brifysgol fesul achos.
14. Gweithdrefn ar gyfer Ymdrin â Thramgwydd Disgyblu a allai fod yn destun Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr
Os honnir bod myfyriwr wedi torri rheoliadau disgyblu mewn modd a allai fod o fewn cylch gorchwyl Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol a Gweithdrefnau Disgyblu Undeb y Myfyriwr, gall y myfyriwr hwnnw fod yn destun gweithdrefnau disgyblu, yn unol â'r gweithdrefnau isod.
At ddibenion dangosol, dyma enghreifftiau o dramgwyddau disgyblu sy'n debygol o fod o fewn cwmpas Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr (ond nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr):
- Ymddygiad sydd wedi niweidio, neu a allai fod wedi niweidio enw da'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, neu berthynas y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr â'r gymuned leol neu sefydliadau eraill.
- Unrhyw dramgwydd disgyblu Categori 2 neu 3 (gweler Atodiad 1) lle'r oedd y myfyriwr sy'n destun yr honiad, ar adeg y tramgwydd honedig:
- Yn ymwneud â busnes Undeb y Myfyrwyr;
- Yn ymwneud ag un o Glybiau neu Gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr;
- Mewn digwyddiad a drefnwyd gan neu ar gyfer cymdeithas neu glwb a gydnabyddir gan Undeb y Myfyrwyr;
- Yn cynrychioli Undeb y Myfyrwyr mewn rhinwedd swyddogol;
- Ar fangreoedd Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys mangreoedd sydd wedi ymrwymo i gytundebau gydag Undeb y Myfyrwyr;
- Mewn digwyddiad a drefnwyd gan Undeb y Myfyrwyr; neu
- Mewn digwyddiad a drefnwyd gan gymdeithas a gydnabyddir gan Undeb y Myfyrwyr.
Gellir ymdrin â thramgwyddau Categori 1 (gweler Atodiad 1), naill ai o dan Weithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol neu weithdrefnau Undeb y Myfyrwyr neu'r gweithdrefnau'r ddau gorff, yn ôl doethineb y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
14.1 Asesiad Rhagarweiniol
Pan fydd y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr yn derbyn honiad ac ymddengys ei fod o fewn cwmpas Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr hefyd, bydd aelod o Wasanaethau Academaidd a Llywydd Undeb y Myfyrwyr (neu Swyddog Amser Llawn a enwebwyd) [y cyfeirir atynt isod fel ‘yr enwebeion’] yn asesu gyda'i gilydd a yw'r achos o fewn:
- Cwmpas naill ai Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol neu Weithdrefnau Undeb y Myfyrwyr - ond nid Gweithdrefnau'r ddau gorff. Os felly, ymdrinnir â'r achos yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu arferol y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr (fel y bo'n briodol) yn hytrach na'r gweithdrefnau a amlinellir isod; neu
- O fewn cwmpas Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Os felly, ymdrinnir â'r achos yn unol â'r gweithdrefnau isod.
Bydd yr enwebeion yn gwneud asesiad rhagarweiniol o'r achos ac yn asesu a oes tramgwydd disgyblu prima facie (h.y. posib). Lle bo’r enwebeion o'r farn bod hynny'n briodol, bydd Gwasanaethau Addysg yn hysbysu'r myfyriwr yn ysgrifenedig am yr honiad, ac yn rhoi 7 niwrnod gwaith i'r myfyriwr roi ateb ysgrifenedig i’r honiad. Os na fydd y myfyriwr yn ymateb i’r honiad, yna gall yr enwebeion asesu’r achos ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.
Bydd yr enwebeion yn ystyried y ffactorau canlynol: a ymdriniwyd â'r achos o dan unrhyw weithdrefnau neu reoliadau eraill o eiddo'r Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr; a ddylid ymdrin â'r achos o dan weithdrefn arall o eiddo’r Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr megis y Rheoliadau Disgyblaeth Llety; a yw’r achos yn destun ymchwiliad troseddol/achos cyfreithiol; a difrifoldeb a chymhlethdod yr achos.
Yn dilyn cwblhau'r asesiad rhagarweiniol, gall yr enwebeion gynnal asesiad risg dros dro yn unol â'r broses a nodir yn Atodiad 2.
Ar ôl cwblhau'r asesiad, gall yr enwebeion wneud un o'r penderfyniadau canlynol, neu gyfuniad ohonynt:
a) Gwrthod yr achos;
b) Cynnal asesiad risg interim yn unol â'r broses a ddisgrifir yn Atodiad 2;
c) Lle bo'r enwebeion yn penderfynu bod tramgwydd disgyblu Categori 1 (gweler y categorïau dangosol yn Atodiad 1) prima facie (h.y. posib) wedi’i gyflawni, gall yr enwebeion wahodd y myfyriwr i dderbyn un neu fwy o'r cosbau a restrir yn Atodiad 4, Adran A. Os bydd y myfyriwr yn gwrthod y canlyniad hwn neu os nad yw'n cydymffurfio â'r canlyniad o fewn yr amserlen a bennir gan yr enwebeion, gall yr enwebeion bennu canlyniad gwahanol dan Adran 14.1 neu gyfeirio'r achos at sylw'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (gweler Adran 14.2 isod).
ch) Lle mae'r enwebeion yn penderfynu bod tramgwydd disgyblu prima facie (h.y. posib) Categori 2 neu 3 wedi’i gyflawni (gweler y categorïau dangosol yn Atodiad 1), bydd yr enwebeion yn cyfeirio'r achos at sylw'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (gweler adran 14.2 isod).
d) Cyfeirio’r achos at sylw swyddog arall i ymdrin ag ef o dan weithdrefnau neu Reoliadau eraill y Brifysgol a/neu Undeb y Myfyrwyr;
dd) Gohirio'r achos nes y daw ymchwiliad troseddol/achos cyfreithiol i ben (gweler Adran 9.2);
14.2 Cyfeirio at sylw'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr
Ar ôl derbyn y dystiolaeth, bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (neu ei enwebai) yn ystyried yr honiad gyda'i gilydd ac yn penderfynu ar y cyd pa gamau gweithredu (os o gwbl) a fyddai'n briodol.
Mae'r broses i'w dilyn a'r canlyniadau sydd ar gael i'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (neu ei enwebai) yr un fath â'r rhai a nodir yn Adran 11.2, ac eithrio:
(i) Bydd pob cyfeiriad yno at 'y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr' yn cynnwys y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (neu ei enwebai); a
(ii) Bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (neu ei enwebai) yn ystyried a yw'r myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd disgyblu yn groes i Weithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol a/neu Undeb y Myfyrwyr.
(iii) Yn ogystal â'r canlyniadau a nodir yn Adran 11.2, gall y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (neu ei enwebai):
- Cyfeirio'r achos at Bwyllgor Disgyblu Undeb y Myfyrwyr yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu Undeb y Myfyrwyr lle ymddengys fod y canlyniadau sydd ar gael iddo'n briodol gan ystyried natur y tramgwydd honedig;
- Cyfeirio'r achos at sylw Cydbwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn unol ag Adran 14.3;
- Barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd disgyblu Categori 1 neu 2 a defnyddio un neu ragor o'r cosbau a restrir yn Atodiad 4, Adran B.
Os nad yw'r myfyriwr yn cydymffurfio â thelerau unrhyw gosb a bennir gan y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (neu ei enwebai), fel rheol bydd cosbau pellach yn cael eu pennu a/neu cyfeirir yr achos at sylw Pwyllgor Disgyblu.
14.3 Cydbwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr
Ar ôl derbyn honiad o dramgwydd disgyblu sydd i’w gyfeirio at sylw Cydbwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'y Cydbwyllgor'), bydd yr enwebeion yn trefnu i'r Cydbwyllgor gael ei alw ynghyd cyn gynted ag sy'n ymarferol, fel rheol o fewn chwe wythnos gwaith ar ôl y penderfyniad i gyfeirio'r achos at y Pwyllgor, ac i aelod o Wasanaethau Academaidd weithredu fel Ysgrifennydd i'r Cydbwyllgor.
Trefnir a chynhelir y cyfarfod o'r Cydbwyllgor yn unol ag Adrannau 13, 13.1 a 13.2, ac eithrio:
- Bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr neu Brif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (neu eu henwebeion) yn cyflwyno'r achos yn erbyn y myfyriwr a bydd yr holl gyfeiriadau at y 'Swyddog Disgyblu Myfyrwyr' yn Adrannau 13, 13.1 a 13.2 yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr (neu ei enwebai);
- Bydd Panel y Cydbwyllgor yn cynnwys pedwar aelod (a ddewisir gan Ysgrifennydd y Pwyllgor), sef:
- Dau aelod o blith y canlynol: Dirprwy Is-gangellorion, aelodau Pwyllgorau/Byrddau'r Brifysgol â phrofiad/arbenigedd perthnasol; uwch aelodau'r staff addysgu academaidd (h.y. Uwch-ddarlithwyr neu’n uwch); ac Athrawon Emeritws; a
- Dau aelod o blith y canlynol: Swyddogion Amser Llawn Undeb y Myfyrwyr ac aelodau o Bwyllgor Gweithredol Undeb y Myfyrwyr a etholwyd at y diben hwnnw yn y cyfarfod cyntaf llawn o Bwyllgor Gweithredol Undeb y Myfyrwyr mewn unrhyw sesiwn academaidd;
- Bydd un aelod o Banel y Cydbwyllgor yn cael ei benodi gan Ysgrifennydd y Bwrdd i fod yn Gadeirydd;
- Gwneir penderfyniad Panel y Cydbwyllgor trwy bleidlais y mwyafrif. Os bydd y bleidlais yn gyfartal, caiff y Cadeirydd bleidlais fwrw, yn ychwanegol. Ymdrinnir â phleidleisiau’r aelodau unigol yn gyfrinachol;
- Ni fydd Panel y Cydbwyllgor yn cynnwys aelodau staff o Ysgol lle mae’r myfyriwr yn astudio nac aelodau sydd wedi ymwneud o flaen llaw â'r achos dan sylw mewn unrhyw ffordd.
14.4 Canlyniadau sydd ar gael i Gydbwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr
Fel rheol, ni chaiff y Panel wybod, cyn gwneud ei benderfyniad ynghylch yr honiad dan sylw, am unrhyw dystiolaeth o dramgwyddau disgyblu a honnwyd ac a brofwyd yn flaenorol. Ond dylid hysbysu'r Panel am hynny cyn pennu’r gosb.
Mewn achosion eithriadol, gellir datgelu tystiolaeth o dramgwyddau disgyblu blaenorol cyn i’r Panel benderfynu a yw'r tramgwydd disgyblu wedi'i brofi, lle mae tystiolaeth o’r fath yn gwrth-ddweud honiad gan y myfyriwr o gymeriad blaenorol da.
Bydd y Panel yn asesu a yw tramgwydd disgyblu wedi'i gyflawni, yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol a/neu Weithdrefnau Disgyblu Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
Wrth benderfynu ar y canlyniad/y gosb i'w phennu, gall y Panel ystyried unrhyw ffactorau gwaethygol neu liniarol - gweler Adran 7.3 a 7.4.
Ar ddiwedd y Pwyllgor, gall y Panel:
a) Gwrthod yr honiad;
b) Barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd disgyblu ond peidio â chymryd unrhyw gamau pellach;
c) Barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd Categori 1 neu 2 (gweler Atodiad 1) a phennu un neu fwy o'r cosbau a restrir yn Atodiad 4; Adran B;
ch) Barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd Categori 3 (gweler Atodiad 1) a phennu un neu fwy o'r cosbau a restrir yn Atodiad 4; Adran C;
14.5 Camau Gweithredu i’w Cymryd yn Dilyn y Pwyllgor Ymchwilio
Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn cadarnhau i'r myfyriwr yn ysgrifenedig, fel arfer o fewn 7 niwrnod gwaith ar ôl diwedd cyfarfod y Pwyllgor, a gadarnhawyd yr honiad/honiadau ai peidio, beth yw'r canlyniad neu’r gosb, a bod gan y myfyriwr hawl i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad yn unol â Gweithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol. Pan fyddant wedi cael eu llunio a'u cymeradwyo gan Gadeirydd y Pwyllgor, darperir copi o adroddiad am benderfyniadau'r Panel a’r rhesymau drostynt neu gofnodion cyfarfod y Pwyllgor i'r myfyriwr.
Gall Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwilio hefyd hysbysu'r myfyriwr ar lafar am ganfyddiadau'r Pwyllgor ac am y canlyniad/y gosb a roddwyd, ond ni cheir trafod penderfyniadau'r Panel â'r myfyriwr.
O ran datgelu unrhyw ganlyniad/gosb i fyfyriwr a adroddodd am y mater, gall y Pwyllgor benderfynu rhyddhau rhywfaint o wybodaeth am y canlyniad/gosb i’r myfyriwr hwnnw pan fydd y mater yn ymwneud yn benodol ag ef (e.e. os yw wedi rhoi gwybod iddo fod yn destun camymddygiad rhywiol, camymddygiad corfforol neu ymddygiad sarhaus gan fyfyriwr arall a'r adroddiad hwnnw sydd wedi arwain at y weithdrefn ddisgyblu yn erbyn y myfyriwr). Bydd unrhyw wybodaeth a roddir i'r person a roddodd wybod am y mater yn cael ei rhoi'n gyfrinachol oherwydd natur gyfrinachol y weithdrefn ddisgyblu a bydd lefel yr wybodaeth a roddir yn cael ei phennu gan y Pwyllgor/Brifysgol fesul achos.
15. Adolygiadau Terfynol
Os bydd y myfyriwr sydd wedi bod yn destun y weithdrefn ddisgyblu yn anfodlon â chanlyniad terfynol yr achos disgyblu, caiff ofyn am adolygiad terfynol o'r penderfyniad yn ysgrifenedig drwy gyflwyno ffurflen Cais am Adolygiad Terfynol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y penderfyniad.
I gael gwybodaeth am ofyn am adolygiad terfynol a'r seiliau perthnasol am y fath adolygiad, gweler Gweithdrefnau Adolygiad Terfynol Prifysgol Abertawe.
Os derbynnir cais am adolygiad terfynol sy'n ymwneud ag achos disgyblu y penderfynwyd arno yn unol ag Adrannau 14.2 neu 14.4 y Gweithdrefnau Disgyblu, cyfeirir yr adolygiad terfynol at sylw Dirprwy Is-ganghellor, a fydd yn ymdrin â'r adolygiad terfynol yn unol â'r Gweithdrefnau Adolygiad Terfynol yn lle Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg.
16. Adrodd, Monitro, Gwerthuso ac Adolygu
16.1
Bydd Gwasanaethau Addysg yn cyflwyno adroddiad o wybodaeth ystadegol bob blwyddyn ynghylch achosion disgyblu i'r Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau. Bydd y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau yn gyfrifol am fonitro'r data a gwneud argymhellion fel y bo'n briodol.
16.2
Cyfrifoldeb y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau hefyd fydd adolygu’r Rheoliadau ar gyfer achosion disgyblu a’u heffeithiolrwydd a gwneud argymhellion ynghylch newidiadau, lle y bo’n briodol, i’w hystyried gan y Senedd.
Atodiad 1: Rhestr o Dramgwyddau Disgyblu Enghreifftiol a Chategorïau Dangosol
Mae'r rhestr hon at ddibenion enghreifftiol yn unig ac nid yw'n gynhwysfawr.
Ymdrinnir â phob achos ar sail unigol, (h.y. gan ystyried cyd-destun pob honiad), yn ôl barn yr unigolyn/panel sy'n ymdrin ag ef.
Tramgwydd | Cosb Ddangosol | |
---|---|---|
a | Gwthio neu afael yn rhywun arall. | Categori 1 neu 2 |
b | Taflu neu gicio gwrthrych neu sylwedd tuag at rywun, mewn modd sy'n achosi, neu a allai achosi gofid ac anghyfleustra. | Categori 1 neu 2 |
c | Crafu neu frathu rhywun arall. | Categori 2 neu 3 |
ch | Tynnu gwallt. | Categori 2 neu 3 |
d | Slapio, taro neu fwrw neu gicio rhywun arall. | Categori 2 neu 3 |
dd | Defnyddio rhwystrau neu’ch corff, eich maint neu’ch nerth yn erbyn rhywun arall. | Categori 2 neu 3 |
e | Tagu rhywun arall. | Categori 3 |
f | Defnyddio arf neu wrthrych i frifo rhywun arall. | Categori 3 |
ff | Defnyddio rhwystrau neu’ch corff, eich maint neu’ch nerth yn erbyn rhywun arall. | Categori 2 neu 3 |
g | Torri amod mewn contract ymddygiad dros dro, contract ymddygiad, neu gyd-gontract ymddygiad. | Categori 2 neu 3 |
Tramgwydd | Cosb Ddangosol | |
---|---|---|
a | Gwneud sylwadau dieisiau y gellir tybio, o fewn rheswm, eu bod o natur rywiol (e.e. gofyn cwestiynau personol am faterion rhywiol; gwneud sylwadau rhywiol ynglŷn â chorff rhywun; dweud jôcs neu straeon rhywiol). Gall y fath sylwadau gael eu gwneud wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn neges destun neu yn y cyfryngau cymdeithasol. | Categori 1 neu 2 |
b | Cusanu rhywun heb gydsyniad (mae'n cynnwys ystod o dramgwyddau a allai amrywio o ran eu difrifoldeb - er enghraifft, mae'n debygol y bernir bod cusan ar y gwefusau, yn erbyn ewyllys y person hwnnw, yn perthyn i gategori mwy difrifol na chusan ysgafn ar gefn y llaw). | Categori 2 neu 3 |
c | Cyffwrdd â rhywun yn amhriodol, mewn modd y gellir tybio, o fewn rheswm, ei fod o natur rywiol, a heb gydsyniad (e.e. cyffwrdd â dillad, gwallt neu gorff rhywun; rhwbio neu gyffwrdd â rhywun wrth fynd heibio). | Categori 2 neu 3 |
ch | Dangos organau rhywiol i rywun mewn amgylchiadau amhriodol, neu ganiatáu i organau rhywiol gael eu gweld mewn amgylchiadau amhriodol. | Categori 2 neu 3 |
d | Rhannu neu greu deunyddiau rhywiol preifat (megis fideos a ffotograffau) o unigolyn arall heb gydsyniad yr unigolyn hwnnw (gan gynnwys rhannu ar-lein a thrwy gyfryngau cymdeithasol). | Categori 2 neu 3 |
dd | Ceisio cael cyfathrach rywiol neu weithred rywiol heb gydsyniad. | Categori 2 neu 3 |
e | Ceisio cael cyfathrach rywiol neu weithred rywiol heb gydsyniad. | Categori 3 |
f | Cyfathrach rywiol neu ymwneud â gweithred rywiol heb gydsyniad* (diffinnir rhyw geneuol a mastyrbio fel gweithredoedd rhywiol ond nid yw'r categori'n gyfyngedig i'r gweithredoedd hyn). | Categori 3 |
*Mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu'r diffiniad cyfreithiol o gydsyniad i ryw: Mae rhywun yn cydsynio os yw'n cytuno drwy ddewis, os yw'n rhydd ac os yw’n gallu gwneud y dewis hwnnw.
Tramgwydd | Cosb Ddangosol | |
---|---|---|
a | Defnyddio iaith amhriodol, wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn neges destun neu yn y cyfryngau cymdeithasol. | Categori 1 neu 2 |
b | Ymddygiad llafar neu ddieiriau (e.e. gweiddi neu ystumiau) mewn modd sy'n bygwth eraill. | Categori 1 neu 2 |
c | Cyswllt dieisiau, na ofynnwyd amdano, mynych, ag unigolyn arall, wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn neges destun neu yn y cyfryngau cymdeithasol. | Categori 1 neu 2 |
ch | Dilyn rhywun arall yn ddieisiau, mewn lleoliadau megis ar y campws, neu i'w gartref neu i leoliadau eraill. | Categori 1 neu 2 |
d | Sylwadau difrïol neu sarhaus mewn perthynas â rhyw, tueddfryd rhywiol, ailbennu rhywedd, cred grefyddol, hil, anabledd neu oedran rhywun, wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn neges destun neu yn y cyfryngau cymdeithasol. | Categori 2 neu 3 |
dd | Bygythiadau i beri niwed (corfforol, emosiynol neu i enw da) rhywun arall. | Categori 2 neu 3 |
e | Gweithredu'n groes i Bolisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio'r Brifysgol (mynd i'r afael ag aflonyddu) gan gynnwys bwlio neu aflonyddu ar aelod o'r Brifysgol. | Categori 2 neu 3 |
Tramgwydd | Cosb Ddangosol | |
---|---|---|
a | Gweithredu, neu ddiffyg gweithredu mewn modd a wnaeth beri, neu a allai fod wedi peri, pryder ynghylch iechyd a diogelwch ar fangreoedd neu yn llety'r Brifysgol (e.e. smygu sigarennau y tu allan i’r ardaloedd dynodedig). | Categori 1 |
b | Camddefnyddio neu ddefnyddio eiddo'r Brifysgol heb ganiatâd (e.e. cyfrifiaduron, cyfrifon defnyddwyr, cardiau adnabod, cyfarpar labordy). | Categori 1 neu 2 |
c | Mynediad heb ganiatâd i fangreoedd y Brifysgol neu ddefnyddio mangreodd neu eiddo'r Brifysgol heb ganiatâd. | Categori 1 neu 2 |
ch | Achosi mân ddifrod i eiddo'r Brifysgol neu eiddo myfyrwyr neu aelodau'r Brifysgol, neu ymwelwyr â'r Brifysgol. | Categori 1 neu 2 |
d | Meddu ar gyffuriau a reolir. | Categori 1 neu 2 |
dd | Mynd ag eiddo rhywun arall heb ganiatâd. | Categori 2 neu 3 |
e | Gweithredu neu ddiffyg gweithredu mewn modd a wnaeth beri, neu a allai fod wedi peri, niwed difrifol neu bryder difrifol o ran iechyd a diogelwch ar fangreodd neu yn llety'r Brifysgol neu yn ystod gweithgareddau'r Brifysgol (e.e. analluogi diffoddyddion tân; camddefnyddio cemegau). | Categori 2 neu 3 |
f | Achosi niwed sylweddol i eiddo'r Brifysgol neu eiddo myfyrwyr neu aelodau'r Brifysgol, neu ymwelwyr â'r Brifysgol. | Categori 2 neu 3 |
ff | Cyflenwi cyffuriau a reolir. | Categori 2 neu 3 |
g | Torri cyfyngiadau a/neu ganllawiau pandemig Covid-19 Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y Deyrnas Unedig a/neu Siarter Myfyrwyr Atodol Pandemig Covid-19. | Categori 2 neu 3 |
Tramgwydd | Cosb Ddangosol | |
---|---|---|
a | Cynhyrchu dogfennaeth y Brifysgol yn dwyllodrus (e.e. llythyrau derbyn, trawsgrifiadau, llythyrau argymell, derbynebau am waith cwrs). | Categori 2 neu 3 |
b | Defnyddio enw, logo neu gyfrif defnyddiwr y Brifysgol mewn modd twyllodrus, neu honni cysylltiad â'r Brifysgol yn dwyllodrus gan fwriadu camarwain. | Categori 2 neu 3 |
c | Cyflwyno gwybodaeth dwyllodrus neu anonest i'r Brifysgol (e.e. datganiad personol, graddau blaenorol, gwybodaeth ariannol, tystiolaeth i ategu cais am amgylchiadau esgusodol). | Categori 2 neu 3 |
ch | Gwneud honiad blinderus ynghylch myfyriwr neu aelod o'r staff sydd wedi peri, neu a allai fod wedi peri i'r unigolyn hwnnw brofi: gofid, neu anhawster wrth gyflawni ei ddyletswyddau (ystyr blinderus yw honiad y mae'r myfyriwr yn gwybod ei fod yn anwir neu le mae'r myfyriwr yn gwneud honiadau heb sail resymol). | Categori 2 neu 3 |
d | Camddefnyddio cardiau sganio i gofnodi presenoldeb mewn darlithoedd neu sesiynau addysgu’n dwyllodrus, ar eich rhan eich hun neu ar ran rhywun arall. | Categori 2 neu 3 |
Tramgwydd | Cosb Ddangosol | |
---|---|---|
a | Aflonyddu ar weithgareddau'r Brifysgol neu ymyrryd â'i gweithgareddau mewn modd amhriodol (gan gynnwys gweithgareddau academaidd, gweinyddol, chwaraeon a chymdeithasol) ar fangreoedd y Brifysgol neu mewn mannau eraill, gan beri mân anghyfleustra yn unig. | Categori 1 neu 2 |
b | Aflonyddu ar swyddogaethau, dyletswyddau neu weithgareddau unrhyw fyfyriwr neu aelod o'r Brifysgol neu ymwelydd awdurdodedig â’r Brifysgol, neu ymyrryd â'r rhain, mewn modd amhriodol, gan beri mân anghyfleustra yn unig. | Categori 1 neu 2 |
c | Ymddygiad sydd wedi peri, neu a allai fod wedi peri niwed i enw da'r Brifysgol neu berthnasoedd y Brifysgol â'r gymuned leol neu sefydliadau eraill. | Categori 1 neu 2 |
ch | Aflonyddu ar weithgareddau'r Brifysgol neu ymyrryd â'i gweithgareddau mewn amhriodol (gan gynnwys gweithgareddau academaidd, gweinyddol, chwaraeon a chymdeithasol) ar fangreoedd y Brifysgol neu mewn mannau eraill. | Categori 2 neu 3 |
d | Aflonyddu ar swyddogaethau, dyletswyddau neu weithgareddau unrhyw fyfyriwr neu aelod o'r Brifysgol neu ymwelydd awdurdodedig â'r Brifysgol neu ymyrryd â’r rhain mewn modd amhriodol. | Categori 2 neu 3 |
dd | Ymddygiad sydd wedi peri niwed difrifol, neu a allai fod wedi peri niwed difrifol i enw da'r Brifysgol neu berthnasoedd y Brifysgol â'r gymuned leol neu sefydliadau eraill. | Categori 2 neu 3 |
e | Diffyg cydymffurfiaeth â chosb a bennwyd o'r blaen yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol. | Categori 2 neu 3 |
f | Torri amod cytundeb ymddygiad dros dro, cytundeb ymddygiad neu gytundeb ymddygiad cydfuddiannol | Categori 2 neu 3 |
Atodiad 2 - Asesiad Risg Interim
Lle bo natur y tramgwydd honedig yn awgrymu y gellir achosi niwed i'r myfyriwr ei hun a/neu i eraill, neu y gallai amharu'n ddifrifol ar weithrediadau arferol y Brifysgol, bydd y Gwasanaethau Addysg yn cynnal asesiad risg interim nes y ceir canlyniad ymchwiliadau troseddol, achosion cyfreithiol a/neu gweithdrefnau disgyblu’r Brifysgol.
Bydd yr asesiad risg yn ceisio:
- Nodi ac asesu'r risgiau sy'n deillio o honiad o natur ddisgyblu ddifrifol;
- Ystyried unrhyw fesurau diogelu sydd eisoes ar waith;
- Nodi unrhyw fesurau diogelu y bydd angen i'r Brifysgol eu rhoi ar waith er mwyn diogelu cymuned y Brifysgol yn gyffredinol, neu unrhyw rai o'i haelodau'n benodol, a/neu enw da'r Brifysgol;
- Nodi achosion y dylid eu cyfeirio at sylw'r Is-ganghellor (neu ei enwebai) i ystyried atal y myfyriwr, neu ei atal yn rhannol, dros dro;
- Nodi darpariaethau cymorth perthnasol i'w cynnig i'r myfyriwr cyhuddedig a phartïon eraill mae'r achos yn effeithio arnynt sy'n aelodau o'r Brifysgol.
Cedwir manylion achos disgyblu, gan gynnwys enw'r myfyriwr neu'r myfyrwyr, yn gyfrinachol, lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, bydd angen rhoi gwybod i nifer bach o bobl am yr honiad(au), a manylion y myfyriwr neu'r myfyrwyr dan sylw, at ddiben cynnal yr asesiad risg.
Bydd enwebai'r Gwasanaethau Addysg yn rheoli'r asesiad risg ac efallai, yn ôl ei ddisgresiwn, y bydd yn gofyn am ragor o wybodaeth a barn aelodau eraill o staff o ran mesurau diogelu/ camau gweithredu priodol i'w cymryd (e.e. staff y Gwasanaethau Myfyrwyr, Diogelu, Cyfadran y myfyriwr a/neu'r Gwasanaethau Preswyl).
Wrth gynnal yr asesiad risg, nid rôl y staff yw ymchwilio neu benderfynu a ddigwyddodd y digwyddiad honedig fel y cafodd ei adrodd. Yn hytrach, bydd yr asesiad risg yn asesu'r risgiau sy'n deillio o'r digwyddiad honedig ar sail yr honiad a adroddwyd i'r Brifysgol.
Mae mesurau diogelu sy'n cael eu rhoi ar waith o ganlyniad i'r asesiad risg hwn yn hollol ar wahân i gosbau a roddir am dramgwyddau disgyblu yn unol â'r Gweithdrefnau Disgyblu, ac nid ydynt yn awgrymu rhagdybiaeth bod y myfyriwr wedi cyflawni'r tramgwydd(au) honedig. Nid cosbi myfyriwr yw diben y rhain, er y cydnabyddir y gallent gael effaith gosbol. Mesurau diogelu interim yw'r rhain, i'w rhoi ar waith nes y ceir canlyniad ymchwiliadau'r heddlu, achosion Llys a/neu weithdrefnau disgyblu'r Brifysgol. Gall enwebai Gwasanaethau Addysg ddewis eu hadolygu cyn y derbynnir canlyniad y Gweithdrefnau Disgyblu.
Gall mesurau diogelu a ddefnyddir o ganlyniad i’r asesiad risg hwn gynnwys y canlynol, ond nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr:
- Gall Gwasanaethau Myfyrwyr gysylltu â'r myfyriwr a/neu unrhyw bartïon eraill sy'n ymwneud â'r achos ac sy'n aelodau o'r Brifysgol i gynnig cymorth neu gwnsela.
- Gofyniad bod y myfyriwr yn cydymffurfio ag amodau penodol, i fanylu arnynt mewn Contract Ymddygiad Interim. Gall amodau o'r fath gynnwys, er enghraifft, gwaharddiad rhag cysylltu â myfyriwr arall. Os bydd y myfyriwr yn torri unrhyw un o'r amodau, gellir rhoi mesurau diogelu eraill ar waith.
- Cais i'r Is-ganghellor (neu ei enwebai) bod y myfyriwr yn cael ei atal, neu ei atal yn rhannol, i ganiatáu cynnal ymchwiliadau pellach, nes y ceir canlyniad ymchwiliad troseddol/achos llys neu ganlyniad y broses ddisgyblu, yn unol ag Adran 12.
Atodiad 3: Cosbau ar gyfer Tramgwyddau Disgyblu'r Brifysgol
Adran A: Tramgwyddau Categori 1 i ymdrin â nhw gan enwebai Gwasanaethau Addysg
Lle bydd enwebai Gwasanaethau Addysg ('yr enwebai') yn barnu bod achos prima facie i'w ateb o ran tramgwydd Categori 1, gall yr enwebai wahodd y myfyriwr i dderbyn un neu fwy o'r cosbau canlynol:
- Rhybudd ysgrifenedig ffurfiol;
- Contract Ymddygiad;
- Ymddiheuro'n ysgrifenedig i unrhyw barti priodol;
- Dileu unrhyw ddeunydd a gyhoeddwyd ar ffurf copi caled neu electronig y bernir ei fod yn amhriodol;
- Cymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth alcohol/cyffuriau a/neu seminar diogelwch tân ar gost y myfyriwr [Hysbysir y myfyriwr am unrhyw ffioedd y bydd angen eu talu i gymryd rhan yn y sesiwn/seminar. Ni fydd y rhain dros £40.].
Lle bo'n berthnasol, bydd yr enwebai yn pennu dyddiad erbyn pryd y bydd rhaid i'r myfyriwr gydymffurfio â'r gosb a bennwyd.
Wrth ymateb i wahoddiad i dderbyn unrhyw rai o'r cosbau uchod fel canlyniad yr achos, gall y myfyriwr ddewis derbyn neu wrthod y canlyniad hwn. Lle bo'r myfyriwr yn gwrthod y canlyniad hwn neu'n methu cydymffurfio â'r canlyniad yn y cyfnod amser a bennwyd gan yr enwebai, bydd yr enwebai yn pennu canlyniad gwahanol dan Adran 11.1. Gallai'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr bennu cosb fwy llym os bydd wedyn yn barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd ddisgyblu.
Lle bo myfyriwr yn derbyn gwahoddiad i dderbyn unrhyw rai o'r cosbau uchod fel canlyniad yr achos, gall yr enwebai ddarparu manylion yr honiad a'r canlyniad i Tiwtor Personol a/neu Ddeon Gweithredol y myfyriwr a gellir cofnodi hyn neu roi sylwadau yn ei gylch ym mhob llythyr cymeradwyo a geirda a ddarperir ar gyfer y myfyriwr.
Adran B: Tramgwyddau Categori 1 a 2 i ymdrin â nhw gan y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr/Panel y Pwyllgor
Lle bo'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr/Panel y Pwyllgor yn barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd Categori 1 neu 2, gellir pennu un neu fwy o'r cosbau canlynol:
- Rhybudd ysgrifenedig ffurfiol;
- Gofyniad i lofnodi Contract Ymddygiad;
- Gofyniad i ymddiheuro'n ysgrifenedig i unrhyw barti priodol;
- Gofyniad i ddileu deunydd a gyhoeddwyd ar ffurf copi caled neu electronig y bernir ei fod yn amhriodol;
- Gofyniad i gymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth alcohol/cyffuriau a/neu seminar diogelwch tân ar gost y myfyriwr (Hysbysir y myfyriwr am unrhyw gostau perthnasol y bydd angen eu talu. Ni fydd y rhain dros £40);
- Gofyniad i dalu iawndal neu i adfer unrhyw ddifrod i eiddo neu golled eiddo;
- Gwaharddiad rhag cysylltu ag unrhyw barti priodol, lle bo'r parti hwnnw'n aelod o'r Brifysgol;
- Cyfyngiad sy'n gwahardd y myfyriwr rhag cynrychioli'r Brifysgol mewn rôl gyflogedig neu ddi-dâl am gyfnod amser penodedig (Gallai hyn gynnwys cyflogaeth achlysurol gan y Brifysgol, dal swyddi yng nghlybiau chwaraeon y Brifysgol, cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau neu rolau gwirfoddol megis fel Cynrychiolydd Myfyrwyr Cyfadran/Ysgol);
- Gofyniad i'r myfyriwr ymgymryd â gwasanaethau heb dâl hyd at uchafswm o 28 awr ar gyfer y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, neu’r gymuned;
- Cosb arall y bernir ei bod yn briodol i'r tramgwydd, na fyddai'n cynnwys atal neu ddiarddel y myfyriwr o'r rhaglen neu'r Brifysgol.
Lle bo'n berthnasol, bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr yn pennu dyddiad erbyn pryd y bydd rhaid i'r myfyriwr gydymffurfio â'r gosb a bennwyd.
Cedwir cofnod o dramgwydd disgyblu a gadarnhawyd a'r gosb a bennwyd ar gofnod y myfyriwr ac fel arfer caiff ei gyfeirio at sylw Tiwtor Personol y myfyriwr a/neu Ddeon Gweithredol a gellir ei gofnodi/gwneud sylwadau yn ei gylch ym mhob llythyr cymeradwyo a geirda a ddarperir ar gyfer y myfyriwr.
Bydd peidio â chydymffurfio â thelerau’r gosb fel arfer yn arwain at bennu cosbau pellach a/neu gyfeirio’r achos at Bwyllgor Ymchwilio Disgyblaethol.
Adran C: Tramgwyddau Categori 3 i ymdrin â nhw gan Banel y Pwyllgor
Lle bo Panel y Pwyllgor yn barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd Categori 2 neu 3, gellir pennu un neu fwy o'r cosbau canlynol:
- Unrhyw rai o'r canlyniadau sydd ar gael i'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a restrir dan Adran 11.2 ac Adran B uchod;
- Gofyniad i gymryd rhan mewn gweithdy neu gwrs o fewn cyfnod amser penodol ar gost y myfyriwr. (Gellir gwneud hawl y myfyriwr i symud ymlaen ar ei raglen yn amodol ar gwblhau'r cwrs a gallai hyn arwain at oedi o ran dilyniant neu allu'r myfyriwr i raddio);
- Camau gweithredu adferol megis cwblhau datganiad neu brosiect myfyriol. (Gall hawl y myfyriwr i symud ymlaen ar ei raglen fod yn amodol ar gwblhau hyn a gallai arwain at oedi o ran dilyniant neu allu'r myfyriwr i raddio);
- Pennu dirwy;
- Gofyniad i'r myfyriwr ymgymryd â gwasanaethau heb dâl hyd at uchafswm o 50 awr ar gyfer y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, neu’r gymuned;
- Gwahardd y myfyriwr o unrhyw ran o'r Brifysgol neu safle sy'n eiddo i'r Brifysgol a/neu rhag defnyddio cyfleusterau/gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol am gyfnod penodol;
- Gofyniad bod y myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau'n rhannol neu'n llawn am gyfnod penodol;
- Gohirio graddio;
- Diarddel (h.y. tynnu'n ôl o'r Brifysgol) o'r Brifysgol gyda neu heb hawl i ymgeisio eto am unrhyw raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd Panel y Pwyllgor yn ystyried a ddylid argymell i'r Bwrdd Arholi y dylid dyfarnu cymhwyster ymadael i'r myfyriwr, h.y. Tystysgrif/Diploma (ar yr amod bod y myfyriwr wedi pasio'r nifer gofynnol o gredydau);
- Pennu rhyw gosb arall y bernir ei bod yn briodol i'r tramgwydd.
Lle bo'n berthnasol, bydd Panel y Pwyllgor yn pennu dyddiad erbyn pryd y bydd rhaid i'r myfyriwr gydymffurfio â'r gosb a bennwyd.
Cedwir cofnod o dramgwydd disgyblu a gadarnhawyd a'r gosb a bennwyd ar gofnod y myfyriwr ac fel arfer caiff ei gyfeirio at sylw Tiwtor Personol y myfyriwr a/neu Ddeon Gweithredol a gellir ei gofnodi/gwneud sylwadau yn ei gylch ym mhob llythyr cymeradwyo a geirda a ddarperir ar gyfer y myfyriwr.
Os nad yw'r myfyriwr yn cydymffurfio â thelerau’r gosb, fel arfer bydd cosbau ychwanegol yn cael eu pennu.
Atodiad 4: Cosbau ar gyfer Tramgwyddau Disgyblu'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr (a brosesir yn unol ag Adran 14 y Gweithdrefnau Disgyblu)
Adran A: Tramgwyddau Categori 1 i ymdrin â nhw ar y cyd gan Wasanaethau Addysg a Llywydd Undeb y Myfyrwyr.
Lle bydd aelod o Wasanaethau Addysg a Llywydd Undeb y Myfyrwyr (y cyfeirir atynt isod fel 'yr enwebeion') yn barnu ar y cyd bod achos prima facie i'w ateb ynghylch tramgwydd Categori 1, gall yr enwebeion wahodd y myfyriwr i dderbyn un neu fwy o'r cosbau canlynol:
- Rhybudd ysgrifenedig ffurfiol.
- Contract Ymddygiad.
- Ymddiheuro'n ysgrifenedig i unrhyw barti priodol.
- Dileu unrhyw ddeunydd a gyhoeddwyd ar ffurf copi caled neu electronig y bernir ei fod yn amhriodol.
- Cymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth alcohol/cyffuriau a/neu seminar diogelwch tân ar gost y myfyriwr (hysbysir y myfyriwr am unrhyw ffioedd y bydd angen eu talu i gymryd rhan yn y sesiwn/seminar. Ni fydd y rhain dros £40).
Lle bo'n berthnasol, bydd yr enwebeion yn pennu dyddiad erbyn pryd y bydd rhaid i'r myfyriwr gydymffurfio â'r gosb a bennwyd.
Wrth ymateb i wahoddiad i dderbyn unrhyw rai o'r cosbau uchod fel canlyniad yr achos, gall y myfyriwr ddewis derbyn neu wrthod y canlyniad hwn. Lle bo'r myfyriwr yn gwrthod y canlyniad hwn neu'n methu cydymffurfio â'r canlyniad yn y cyfnod amser a bennwyd gan yr enwebai, bydd yr enwebai’n pennu canlyniad gwahanol dan Adran 14.1. Gallai'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredu Undeb y Myfyrwyr bennu cosb fwy llym os ydynt yn barnu wedyn bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd disgyblu.
Lle bo myfyriwr yn derbyn gwahoddiad i dderbyn unrhyw rai o'r cosbau uchod fel canlyniad yr achos, gall yr enwebai ddarparu manylion yr honiad a'r canlyniad i Tiwtor Personol a/neu Ddeon Gweithredol y myfyriwr a gellir cofnodi hyn neu roi sylwadau yn ei gylch ym mhob llythyr cymeradwyo a geirda a ddarperir ar gyfer y myfyriwr.
Adran B: Tramgwyddau Categori 1 a 2 i ymdrin â nhw gan y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredu Undeb y Myfyrwyr/Panel Cydbwyllgor y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
Lle bydd y Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredu Undeb y Myfyrwyr/Panel Cydbwyllgor y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr (y cyfeirir atynt isod fel 'y penderfynwyr') yn barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd Categori 1 neu 2, gellir pennu un neu fwy o'r cosbau canlynol:
- Rhybudd ysgrifenedig ffurfiol;
- Gofyniad i lofnodi Contract Ymddygiad;
- Gofyniad i ymddiheuro'n ysgrifenedig i unrhyw barti priodol;
- Gofyniad i ddileu deunydd a gyhoeddwyd ar ffurf copi caled neu electronig y bernir ei fod yn amhriodol;
- Gofyniad i gymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth alcohol/cyffuriau a/neu seminar diogelwch tân ar gost y myfyriwr (Hysbysir y myfyriwr am unrhyw gostau perthnasol y bydd angen eu talu. Ni fydd y rhain dros £40);
- Gofyniad i dalu iawndal neu i adfer unrhyw ddifrod i eiddo neu golled eiddo;
- Gwaharddiad rhag cysylltu ag unrhyw barti priodol, lle bo'r parti hwnnw'n aelod o'r Brifysgol;
- Cyfyngiad sy'n gwahardd y myfyriwr rhag cynrychioli'r Brifysgol mewn rôl gyflogedig neu ddi-dâl am gyfnod amser penodedig. (Gallai hyn gynnwys cyflogaeth achlysurol gan y Brifysgol, dal swyddi yng nghlybiau chwaraeon y Brifysgol, cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau neu rolau gwirfoddol megis fel Cynrychiolydd Myfyrwyr Cyfadran/Ysgol);
- Gofyniad i'r myfyriwr ymgymryd â gwasanaethau heb dâl hyd at uchafswm o 28 awr ar gyfer y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, neu’r gymuned;
- Atal aelodaeth y myfyriwr o Undeb y Myfyrwyr am hyd at 12 mis;
- Gwahardd y myfyriwr o fangreoedd a/neu ddigwyddiadau a reolir gan Undeb y Myfyrwyr am hyd at 12 mis;
- Gwahardd y myfyriwr rhag cymryd rhan mewn digwyddiadau neu gystadlaethau fel aelod o unrhyw rai o glybiau neu gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr am hyd at 12 mis;
- Gwahardd y myfyriwr rhag bod yn aelod o unrhyw rai o grwpiau Undeb y Myfyriwr (gan gynnwys clybiau neu gymdeithasau) a/neu rhag cymryd rhan yn eu gweithgareddau am hyd at 12 mis;
- Tynnu breintiau grŵp Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys clwb neu gymdeithas, megis y gallu i logi neu ddefnyddio cyfleusterau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, hyfforddiant, stondin yn Ffair y Glas, neu i ddefnyddio cerbydau wedi'u llogi am hyd at 12 mis;
- Gosod dirwy ar grŵp Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys clwb neu gymdeithas;
- Israddio statws grŵp Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys clwb neu gymdeithas, er enghraifft (ymysg camau gweithredu eraill) tynnu statws Ffocws Chwaraeon neu symud y clwb o'r lefel Arian i'r lefel Efydd;
- Atal grŵp Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys clwb neu gymdeithas, rhag cymryd rhan mewn digwyddiadau a/neu gystadlaethau am hyd at 12 mis;
- Cosb arall y bernir ei bod yn briodol i'r tramgwydd, na fyddai'n cynnwys atal neu ddiarddel y myfyriwr o'r rhaglen neu'r Brifysgol.
Lle bo'n berthnasol, bydd y penderfynwyr yn pennu dyddiad erbyn pryd y bydd rhaid i'r myfyriwr gydymffurfio â'r gosb a bennwyd.
Cedwir cofnod o dramgwydd disgyblu a gadarnhawyd a'r gosb a bennwyd ar gofnod y myfyriwr ac fel arfer caiff ei gyfeirio at sylw Tiwtor Personol y myfyriwr a/neu Ddeon Gweithredol a gellir ei gofnodi/gwneud sylwadau yn ei gylch ym mhob llythyr cymeradwyo a geirda a ddarperir ar gyfer y myfyriwr.
Bydd peidio â chydymffurfio â thelerau’r gosb fel arfer yn arwain at bennu cosbau pellach a/neu gyfeirio’r achos at Cydbwyllgor Ymchwilio'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
Adran C: Tramgwyddau Categori 3 i ymdrin â nhw gan Banel Cydbwyllgor y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
Lle bo Panel Cydbwyllgor y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn barnu bod y myfyriwr wedi cyflawni tramgwydd Categori 2 neu 3, gellir pennu un neu fwy o'r cosbau canlynol:
- Unrhyw rai o'r canlyniadau sydd ar gael i'r Swyddog Disgyblu Myfyrwyr a Phrif Swyddog Gweithredu Undeb y Myfyrwyr a restrir dan Adran 14.2 ac Adran B uchod;
- Gofyniad i gymryd rhan mewn gweithdy neu gwrs o fewn cyfnod amser penodol ar gost y myfyriwr (gellir gwneud hawl y myfyriwr i symud ymlaen ar ei raglen yn amodol ar gwblhau'r cwrs a gallai hyn arwain at oedi o ran dilyniant neu allu'r myfyriwr i raddio);
- Camau gweithredu adferol megis cwblhau datganiad neu brosiect myfyriol. (Gall hawl y myfyriwr i symud ymlaen ar ei raglen fod yn amodol ar gwblhau hyn a gallai arwain at oedi o ran dilyniant neu allu'r myfyriwr i raddio);
- Pennu dirwy;
- Gofyniad i'r myfyriwr ymgymryd â gwasanaethau heb dâl hyd at uchafswm o 50 awr ar gyfer y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, neu’r gymuned;
- Gwahardd y myfyriwr o unrhyw ran o'r Brifysgol neu safle sy'n eiddo i'r Brifysgol a/neu rhag defnyddio cyfleusterau/gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol am gyfnod penodol;
- Gofyniad bod y myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau'n rhannol neu'n llawn am gyfnod penodol;
- Gohirio graddio;
- Diarddel (h.y. tynnu'n ôl o'r Brifysgol) o'r Brifysgol gyda neu heb hawl i ymgeisio eto am unrhyw raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd Panel y Pwyllgor yn ystyried a ddylid argymell i'r Bwrdd Arholi y dylid dyfarnu cymhwyster ymadael i'r myfyriwr, h.y. Tystysgrif/Diploma (ar yr amod bod y myfyriwr wedi pasio'r nifer gofynnol o gredydau);
- Atal aelodaeth Undeb y Myfyrwyr;
- Gwahardd y myfyriwr o fangreoedd a/neu ddigwyddiadau a reolir gan Undeb y Myfyrwyr;
- Gwahardd y myfyriwr rhag cymryd rhan mewn digwyddiadau neu gystadlaethau fel aelod o unrhyw un o glybiau neu gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr;
- Atal, gwahardd a/neu ddiarddel myfyriwr rhag bod yn aelod o grwpiau Undeb y Myfyrwyr (gan gynnwys clybiau neu gymdeithasau) a/neu rhag cymryd rhan yn eu gweithgareddau;
- Tynnu breintiau grŵp Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys clwb neu gymdeithas, megis y gallu i logi neu ddefnyddio cyfleusterau'r Brifysgol neu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, hyfforddiant, stondin yn Ffair y Glas neu i ddefnyddio cerbydau wedi'u llogi;
- Gwahardd grŵp Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys clwb neu gymdeithas, rhag cymryd rhan mewn digwyddiadau a/neu gystadlaethau;
- Gorfodi grŵp Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys clwb neu gymdeithas i adael digwyddiadau a/neu gystadlaethau;
- Chwalu grŵp Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys clwb neu gymdeithas;
- Pennu rhyw gosb arall y bernir ei bod yn briodol i'r tramgwydd.
Lle bo'n berthnasol, bydd Panel y Pwyllgor yn pennu dyddiad erbyn pryd y bydd rhaid i'r myfyriwr gydymffurfio â'r gosb a bennwyd.
Cedwir cofnod o dramgwydd disgyblu a gadarnhawyd a'r gosb a bennwyd ar gofnod y myfyriwr ac fel arfer caiff ei gyfeirio at sylw Tiwtor Personol y myfyriwr a/neu Deon Gweithredol a gellir ei gofnodi/gwneud sylwadau yn ei gylch ym mhob llythyr cymeradwyo a geirda a ddarperir ar gyfer y myfyriwr.
Os nad yw'r myfyriwr yn cydymffurfio â thelerau’r gosb, fel arfer bydd cosbau ychwanegol yn cael eu pennu.