Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio
1. Cyflwyniad
Dylid trin pawb ag urddas a pharch wrth weithio ac astudio. Yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfleoedd Cyfartal, Polisi Cydraddoldeb Hiliol, Polisi Cyfeiriadedd Rhywiol, Polisi Oedran, Cod Ymarfer yr Ymarferiad Asesu Adnoddau (RAE) a’r Cynlluniau Cydraddoldeb Rhyw ac Anabledd, mae Prifysgol Abertawe yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd gweithio a dysgu sy’n galluogi staff a myfyrwyr i gyflawni eu potensial personol. Sylweddola’r Brifysgol na ellir creu na chynnal amgylchedd o’r fath os yw staff a myfyrwyr yn dioddef aflonyddu o unrhyw fath, yn unigol neu fel grŵp.
Nod y polisi hwn yw cynorthwyo i ddatblygu ac annog amgylchedd a diwylliant gwaith a dysgu lle mae pawb yn gwybod fod aflonyddu a bwlio yn annerbyniol a lle mae gan unigolion yr hyder i ddelio ag aflonyddu heb ofn eu gwatwar neu ddial. Os yw aflonyddu neu fwlio’n digwydd, nod y polisi hwn yw sicrhau fod gweithdrefnau digonol ar gael yn hawdd er mwyn mynd i’r afael â’r broblem ac i’w rhwystro rhag digwydd eto.
Mae cyfrifoldeb personol a chyfreithiol ar bob myfyriwr ac aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe i beidio ag aflonyddu neu fwlio pobl eraill.
Ni chaniateir aflonyddu ar unrhyw ffurf. Caiff achosion o aflonyddu eu hystyrid yn hynod ddifrifol; gallant fod yn sail i ddisgyblu a allai gynnwys diswyddo neu ddiarddel. Er hynny, dylai’r rheiny sy’n cael eu haflonyddu gofio fod gofid a thrallod weithiau’n cael ei achosi’n anfwriadol ac efallai nad yw’r person sy’n gyfrifol yn ymwybodol o effaith eu hymddygiad. Mewn achosion o’r fath, efallai na fydd disgyblu’r sawl sydd wedi tramgwyddo o reidrwydd yn briodol.
Gan ein bod yn gweithio mewn amgylchedd addysgol, mae adegau pan fydd gofyn i staff academaidd drafod gyda’u myfyrwyr ddeunydd sy’n hynod dramgwyddus. Yn yr achosion hyn, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod anghenion addysgol cyfreithiol i arddangos a thrafod deunydd o’r fath.
Gall unrhyw aelod o staff neu unrhyw fyfyriwr gychwyn y gweithdrefnau o dan y polisi hwn os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu haflonyddu neu eu bwlio gan aelod o staff neu fyfyriwr.
2. Diffiniad ac Enghreifftiau o Aflonyddu
Y diffiniad safonol o aflonyddu yw ymddwyn mewn modd nas dymunir ar sail hil, rhyw, tueddfryd rhywiol ac ati, gyda’r bwriad neu’r effaith o naill ai darfu ar urddas yr hawlydd neu greu amgylchedd iddynt sy’n fygythiol, yn elyniaethus, yn ddiraddiol, yn fychanus neu’n dramgwyddus.
Esiamplau yw’r canlynol o fathau penodol o aflonyddu, ond dylid nodi fod y polisi hwn yn berthnasol i aflonyddu o bob math.
2.1. Bwlio
Gellir disgrifio bwlio fel ymddygiad tramgwyddus, bygythiol, maleisus neu ddifenwol, defnyddio neu gamddefnyddio grym gyda’r bwriad o danseilio, bychanu, difrïo neu frifo’r derbyniwr. Gallai’r canlynol fod yn esiamplau o fwlio:
- Camddefnyddio grym neu awdurdod;
- Bygwth geiriol ac/neu gorfforol, e.e. bygythiadau, sylwadau dirmygus;
- Beirniadu parhaus na ellir ei gyfiawnhau;
- Bychanu cyhoeddus;
- Gosod dyddiadau cau amhosibl neu bwysau gwaith annioddefol;
- Tynnu cyfrifoldebau neu awdurdod i wneud penderfyniadau oddi wrth berson heb reswm da neu esboniad;
- Eithrio person heb reswm.
Mae modd gwahaniaethu ymddygiad sy’n bwlio â sylwadau a siarad grymus, dadlau academaidd a rheoli cyfreithiol ar berfformiad staff neu fyfyrwyr. Er hynny dylid cymryd gofal i sicrhau na chaiff staff na myfyrwyr eu dychryn nac y codir ofn arnynt.
2.2 Aflonyddu Rhywiol
Gall aflonyddu rhywiol fod yn gyfunrywiol neu’n wahanrywiol. Gellir ei ddiffinio fel unrhyw fath o ymddygiad llafar, di-eiriau neu gorfforol o natur rywiol sy’n creu amgylchedd o ofn, gelyniaeth, diraddio neu dramgwyddo. Gall gynnwys:
- Cyffwrdd corfforol;
- Ymyrryd ar ofod personol;
- Sylwadau digroeso ar wisg ac ymddangosiad;
- Galw enwau difrïol;
- Arddangos deunydd sy’n dramgwyddus yn rhywiol;
- Llwytho deunydd pornograffig neu ddeunydd sy’n ecsbloetiol yn rhywiol neu’n ddiraddiol yn rhywiol, mewn modd amhriodol ar gyfrifiadur;
- Bygythiadau geiriol.
Mae’n bwysig cofio y gall aflonyddu rhywiol ddigwydd i fenywod gan ddynion, i ddynion gan fenywod, a rhwng aelodau o’r un rhyw hefyd. Gall hefyd gyfeirio at ymddygiad digroeso sy’n gysylltiedig â rhyw yr unigolyn arall.
2.3 Aflonyddu Hiliol
Aflonyddu hiliol yw unrhyw ymddygiad, boed yn fwriadol neu fel arall, sy’n ymwneud â hil, lliw a chenedligrwydd – gan gynnwys dinasyddiaeth neu darddiadau ethnig neu genedlaethol – a gyfeirir at unigolyn neu grŵp, y teimlir ei fod yn dramgwyddus neu’n atgas i dderbynwyr ac sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus neu dramgwyddus. Gall ymddygiad o’r fath gynnwys:
- Galw enwau difrïol;
- Jôcs hiliol a sylwadau sarhaus;
- Arddangos iaith ddilornus a deunydd sy’n dramgwyddus yn hiliol;
- Eithrio person o sgwrs neu weithgareddau arferol gweithle;
- Dosbarthu gwaith mewn modd annheg;
- Bygythiadau geiriol;
- Ymosodiad corfforol;
- Annog eraill i gyflawni gweithredoedd o’r fath.
2.4 Aflonyddu ar sail Tueddfryd Rhywiol
Mae’r math hwn o aflonyddu’n golygu unrhyw ymddygiad, boed yn fwriadol neu beidio, sy’n ymwneud â thueddfryd rhywiol. Mae homoffobia yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio casáu a gwrthod hoywon, lesbiaid a chyfunrhywiaeth. Gall fod wedi’i gyfeirio yn erbyn unigolion neu grwpiau o bobl sydd, neu y credir sydd, yn lesbiad, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol ac mae’n ymddygiad y gellir ei ddiffinio fel ymddygiad nad dymunir sy’n tarfu ar urddas person, neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanus neu dramgwyddus. Gall esiamplau gynnwys:
- Jôcs tramgwyddus;
- Gwawdio;
- Bygythiadau geiriol;
- Sylwadau difrïol;
- Cwestiynau busneslyd ynglŷn ag amgylchiadau person gartref;
- Ensyniadau;
- Mân siarad a hel straeon;
- Ymosodiad corfforol;
- Dosbarthu gwaith mewn modd annheg;
- Eithrio person o sgwrs neu weithgareddau arferol gweithle/dosbarth;
- Annog eraill i gyflawni gweithredoedd o’r fath.
2.5 Aflonyddu ar sail Crefydd
Mae aflonyddu crefyddol yn golygu unrhyw ymddygiad, boed yn fwriadol neu fel arall, sy’n ymwneud â chrefydd, cred grefyddol neu gred athronyddol gyffelyb arall, a gellir ei ddiffinio fel ymddygiad nas dymunir sy’n tarfu ar urddas person neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanus neu dramgwyddus. Gall esiamplau gynnwys:
- Jôcs tramgwyddus;
- Gwawdio;
- Arddangos deunydd tramgwyddus.
2.6 Aflonyddu Gwleidyddol, neu Aflonyddu ar sail Aelodaeth o Undeb Llafur
Gall aflonyddu gwleidyddol neu aflonyddu ar sail aelodaeth o undeb llafur gynnwys:
- Jôcs tramgwyddus;
- Gwawdio;
- Arddangos deunydd tramgwyddus.
2.7 Aflonyddu ar sail Anabledd
Gall yr aflonyddu fod yn seiliedig ar y ffaith fod gan berson nam corfforol neu nam meddwl, anhawster dysgu neu anffurfiad. Gall gynnwys:
- Iaith dramgwyddus neu nawddoglyd;
- Gweithred neu ymddygiad tramgwyddus neu nawddoglyd;
- Jôcs neu sylwadau amhriodol;
- Cwestiynau sy’n tramgwyddo’r unigolyn neu’r grŵp o unigolion dan sylw;
- Arddangos deunydd tramgwyddus.
2.8 Aflonyddu ar sail Oedran
Gall gwahaniaethu ar sail oedran effeithio ar unrhyw un, beth bynnag fo’i oedran. Gall aflonyddu ar sail oedran gynnwys:
- Rhagdybiaethau ynglŷn ag anallu’r unigolyn i ddysgu;
- Sylwadau tramgwyddus;
- Eithrio ar sail oedran.
2.9 Aflonyddu ar sail Ailbennu Rhywedd
Caiff aflonyddu ar sail ailbennu rhywedd ei wahardd dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 fel y’i diwygiwyd. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Sŵn neu sylwadau awgrymog;
- Sylwadau digroeso ynghylch dillad ac edrychiad;
- Bygythiadau geiriol.
2.10 Aflonyddu Drwy E-bost
Yn ôl Rheoliadau Cyfrifiadura’r Brifysgol “…mae rhestrau e-bost staff a myfyrwyr y Brifysgol wedi’u bwriadu ar gyfer pynciau’r Brifysgol yn unig. Dylai’r holl negeseuon a yrrir i’r rhestr ddangos goddefgarwch a pharch tuag at yr holl dderbynwyr posibl. Dylid nodi y gallai sylwadau a deunydd tramgwyddus gael ei ystyried yn aflonyddu.” Mae gwybodaeth ar “foesau e-bost” i’w chael yn Atodiad 3.
3. Beth Ddylwn i ei Wneud os Wyf yn Teimlo Bod Rhywun yn Aflonyddu Arnaf?
Mae gan bob myfyriwr yr hawl i ofyn i unrhyw aelod o’r Brifysgol, yn fyfyrwyr ac yn staff, i beidio ag ymddwyn mewn modd sy’n sarhaus neu’n dramgwyddus iddynt. Mae’n ddealladwy, fodd bynnag, na fydd pawb yn teimlo’n ddigon hyderus i wneud hyn ac y bydd hyn hefyd yn amhriodol mewn rhai amgylchiadau. Gall myfyrwyr (yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos) gymryd camau gweithredu drwy ddefnyddio naill ai’r gweithdrefnau anffurfiol ac/neu’r gweithdrefnau ffurfiol a amlinellir isod.
3.1 Gweithdrefnau Anffurfiol
Disgwylir yn gryf y caiff y gweithdrefnau anffurfiol eu defnyddio yn y rhan helaethaf o achosion ac mai yn anaml iawn yn unig, ac yn yr achosion mwyaf difrifol, y gellir hepgor y gweithdrefnau anffurfiol. Mae 3 cham i’r weithdrefn anffurfiol fel yr amlinellir isod.
Os yw myfyriwr yn teimlo bod rhywun yn aflonyddu arno/arni, yna dylai gadw cofnod o’r digwyddiad(au) er mwyn cofio beth sydd wedi digwydd.
Cam 1: Yn gyntaf, dylai’r myfyriwr a aflonyddir ei gwneud yn glir cyn gynted ag y bo modd wrth y person sy’n achosi’r tramgwydd, fod yr ymddygiad yn annerbyniol iddo/iddi, os yw’n bosibl gwneud hyn a’i fod yn briodol. Gellir datrys nifer fawr o bryderon yn y cam hwn.
Os yw’r achwynydd yn teimlo na all siarad â’r person sy’n achosi’r tramgwydd, gallai ofyn i gydweithiwr/ffrind cydymdeimladol (sy’n aelod o Brifysgol Abertawe) neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr, fynd gydag ef i siarad â’r person dan sylw neu fynd yn ei le.
Pan na theimla’r achwynydd ei bod yn briodol neu’n bosibl iddynt sôn am eu pryder wrth yr aflonyddydd honedig, neu os bydd eu cwyn yn dal heb ei datrys wedyn, dylai ef/hi gysylltu â Chynghorydd Aflonyddu (yn unol â Cham 2 isod).
Cam 2: Gall yr achwynydd gysylltu ag unrhyw un o Gynghorwyr Aflonyddu’r Brifysgol – mae rhestr ohonynt yn Atodiad 1 y polisi hwn. Bydd pob un ohonynt yn fodlon trafod achosion, waeth pa mor fawr neu fach bynnag y maent yn ymddangos. Yn ystod y cam hwn, byddant yn gwrando â chydymdeimlad ar broblem yr achwynydd ac ni fyddant yn barnu mewn unrhyw ffordd. Unwaith y mae’r broblem wedi’i hesbonio, bydd y Cynghorydd Aflonyddu yn gallu egluro unrhyw weithredu priodol posibl. Bydd unrhyw drafodaeth a geir yn gyfrinachol ac ni chymerir unrhyw gamau gweithredu pellach heb ganiatâd penodol yr achwynydd. (Yr eithriad i hyn yw pan fo trosedd wedi digwydd ac mae’n gyfrifoldeb cyfreithiol ar y Brifysgol bryd hynny i gymryd y camau priodol.)
Cam 3: Bydd y Cynghorydd Aflonyddu ynghyd â’r achwynydd yn gweithredu’r dewis(iadau) y penderfynwyd arnynt o dan Cam 2. Er enghraifft, gellid cytuno y bydd y Cynghorydd Aflonyddu yn gyrru e-bost at yr aflonyddydd honedig yn amlinellu’r gwyn neu’n cwrdd â’r aflonyddydd honedig (gyda neu heb yr achwynydd) er mwyn ceisio hwyluso datrysiad. Dylai unrhyw esboniad, ymddiheuriad neu ymateb arall (yn llafar, drwy e-bost neu yn ysgrifenedig) a gynigir gan yr aflonyddydd honedig ei drosglwyddo’n ôl i’r achwynydd gan y Cynghorydd Aflonyddu. Y canlyniad delfrydol yw y caiff problemau eu datrys, er nad yw hyn yn golygu y bydd cosb.
Os yw’r aflonyddu’n parhau yn dilyn y camau gweithredu cychwynnol a amlinellir uchod, neu os yw’r achos o natur fwy difrifol nag achosion y gellir ymdrin â hwy drwy gyfrwng y camau a ddisgrifir uchod, gellir gwneud cwyn ysgrifenedig ffurfiol yn unol â’r Gweithdrefnau Ffurfiol [a amlinellir isod yn 4.]. Dylid cysylltu â Chynghorwyr Aflonyddu’r Brifysgol i gael cyngor ynghylch y gweithdrefnau hyn.
4. Gweithdrefnau Ffurfiol
4.1
Os na ellir datrys y mater dan y gweithdrefnau anffurfiol (yn 3.1 uchod), neu pan fo cwyn yn fwy difrifol ei natur, yna gellir gwneud cwyn ysgrifenedig ffurfiol [sy’n cynnwys y wybodaeth a restrir ym mharagraff 4.3 isod] i’r Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Addysg. Bydd y Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Addysg (neu enwebai) yn cyfeirio’r gŵyn at y Deon Gweithredol penodol (neu ei (h)enwebai) i’w harchwilio. Lle bo hynny’n addas dan amgylchiadau’r achos, rhoddir cymorth i’r Deon Gweithredolenwebai gan y Gofrestrfa Academaidd a/neu Adnoddau Dynol. Oni cheisir cyfryngu, bydd y Deon Gweithredol enwebai yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig ar ganlyniadau ei (h)archwiliad i’r Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Addysg. Lle bydd canlyniad yr adroddiad yn argymell ei bod yn bosib bod angen cymryd camau disgyblu, bydd y Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Addysg yn:
- Pan fo’r gwyn yn ymwneud â myfyriwr arall – cyfeirio’r adroddiad ar gyfer sylw gan aelod o’r Gofrestrfa Academaidd yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu Myfyrwyr y Brifysgol;
neu - Pan fo’r gwyn yn erbyn aelod o staff - cyfeirio’r adroddiad at sylw’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i ddelio â hi yn unol â’r Gweithdrefnau Disgyblu Staff [y ceir manylion yn eu cylch gan Adnoddau Dynol].
4.2
O dderbyn cwyn ysgrifenedig, bydd y Pennaeth y Deon Gweithredol/enwebai [os na roddir ymgais ar gyfryngu yn unol â pharagraff 4.5 isod] yn gofyn am ganiatâd yr achwynydd i ddangos copi o’r gwyn ysgrifenedig i’r myfyriwr neu’r aelod o staff y gwneir y gwyn yn eu herbyn er mwyn iddynt hwy fedru datgan eu hachos ac ymateb.
Ni fydd yn bosibl mynd ag unrhyw gwyn drwy’r gweithdrefnau ffurfiol pan nad yw’r achwynydd yn fodlon i’r enwebai ddangos copi o’u cwyn ysgrifenedig i’r aflonyddydd honedig, oni bai drwy gyfryngu [yn unol â pharagraff 4.5 isod].
4.3
Dylai’r gwyn ysgrifenedig fod yn adroddiad ffeithiol o’r digwyddiad, gan nodi:
- Natur yr honiad;
- Beth sydd wedi digwydd;
- Pwy oedd yn rhan;
- Pryd y digwyddodd (rhowch y dyddiadau a’r amseroedd os oes modd);
- A oedd unrhyw lygad-dyst i’r digwyddiad(au) (ac os oedd, eu henwau a’r manylion cysylltu os gwyddys hwy);
- Y datrysiad y ceisiwyd ei gael.
4.4
Awgrymir yn gryf fod achwynydd yn cael cyfarfod cyfrinachol ag un o Gynghorwyr Aflonyddu y Brifysgol a enwir yn Atodiad 1 cyn gwneud cwyn swyddogol. Gall achwynydd cael cwmni cydweithiwr/ffrind (sy’n aelod o Brifysgol Abertawe) neu gynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr mewn cyfarfod o’r fath. Pwrpas y cyfarfod fydd trafod natur y broblem, awgrymu sut i’w datrys ac/neu roi cyngor ynghylch camau gweithredu priodol.
4.5
Yn dilyn derbyn cwyn ysgrifenedig, gall y Pennaeth y Deon Gweithredol/enwebai, fel y gwêl yn ddoeth ac o gael cytundeb y ddwy ochr a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg (pan fo’r gwyn yn erbyn myfyriwr) neu’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol (pan fo’r gwyn yn erbyn aelod o staff), gyfeirio’r achwynydd a’r aflonyddydd honedig i gyfryngu (mediation). Mewn amgylchiadau o’r fath, caiff y Gweithdrefnau Ffurfiol eu gohirio am y tro (ac ni fydd yr enwebai yn gweithredu ymhellach) tra bod y cyfryngu’n digwydd. Ni ddatgelir copi o’r gwyn ysgrifenedig i’r aflonyddydd honedig oni cheir caniatâd y cyfryngwr o flaen llaw.
Os caiff y gwyn ei datrys drwy gyfryngu, bydd y cyfryngwr yn cynorthwyo’r ddwy ochr i ddrafftio cytundeb ysgrifenedig. Mae’r cytundeb hwn i’w lofnodi gan y ddwy ochr i ddangos eu bod yn derbyn ei delerau.
Os na ellir cael datrysiad derbyniol i’r naill a’r llall drwy’r broses gyfryngu, yna bydd y Deon Gweithredol/enwebai yn prosesu’r gwyn o dan y Gweithdrefnau Ffurfiol ar ôl derbyn caniatâd ysgrifenedig i wneud hynny gan yr achwynydd cyn dyddiad cau penodedig.
4.6
Dim ond yn gyffredinol y gellir rhoi sylw i gwynion dienw ac maent yn llai tebygol o arwain at newid mewn ymddygiad penodol fel y dymunir.
4.7
Ni fydd achwynyddion yn dioddef unrhyw anfantais neu wrthgyhuddiad o ganlyniad i wneud cwyn gyda phob ewyllys da. Dim ond os bernir bod cwyn wedi’i gwneud yn ddisylwedd, yn flinderus neu’n faleisus, y gallai materion disgyblu godi mewn perthynas â’r achwynydd.
4.8
Gall achwynyddion nad ydynt yn fodlon â chanlyniad eu cwyn (h.y. y canlyniad a benderfynir arno yn unol â 4.1 uchod) ofyn am adolygiad terfynol o’r penderfyniad mewn ysgrifen drwy gyflwyno Ffurflen Adolygiad Terfynol i’r Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Addysg o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr atynt yn cadarnhau’r penderfyniad.
Am wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am adolygiad terfynol a’r seiliau perthnasol ar gyfer adolygiadau gweler Gweithdrefnau Adolygiadau Terfynol Prifysgol Abertawe.
5. Beth Ddylwn i’w Wneud os ydw i wedi Cael fy Nghyhuddo o Aflonyddu ar Aelod Arall o’r Brifysgol?
5.1
Mae cyfrifoldeb personol a chyfreithiol ar bob myfyriwr ac aelod o staff i beidio ag aflonyddu neu fwlio pobl eraill, ar y campws neu oddi arno. Os yw ymddygiad o’r math hwn yn digwydd, anogir pob myfyriwr i wneud hyn yn hysbys drwy gwyno.
5.2
Sut y byddwch yn gwybod os cewch eich cyhuddo o aflonyddu?
- Efallai y bydd rhywun yn dweud wrthych fod agweddau penodol ar eich ymddygiad wedi’u tramgwyddo neu wedi peri gofid iddynt, a byddant yn gofyn i chi beidio ag ymddwyn tuag atynt mewn rhyw fodd arbennig. Rhoddwyd gwybod i’r holl fyfyrwyr fod ganddynt hawl i ofyn i unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff i beidio ag ymddwyn mewn modd sy’n sarhaus neu’n dramgwyddus iddynt.
- Ni fydd pawb yn teimlo’n ddigon hyderus i wneud hyn a bydd hyn hefyd yn amhriodol mewn rhai amgylchiadau. Efallai y bydd cydweithiwr neu ffrind neu gynghorydd aflonyddu yn dod atoch ar ran yr unigolyn, neu efallai y bydd yr unigolyn yn dod atoch gyda’i gydweithiwr neu ffrind neu gynghorydd aflonyddu. Yn aml, gall hyn fod yr un mor anodd i’r unigolyn a gyhuddir o aflonyddu ag y mae i’r unigolyn sy’n cwyno. Os caiff problem ei chanfod, mae gwahanol gamau’r weithdrefn yn rhoi modd ymdrin â phroblemau mewn modd anffurfiol neu ffurfiol, yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.
5.3
Gall unrhyw Gynghorydd Aflonyddu eich cynghori ynglŷn â ffynonellau cymorth megis cynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr, cynghorwyr y Brifysgol ac ati. Ni fydd y ffaith eich bod yn defnyddio’r rhwydweithiau cynorthwyo hyn yn cael ei ddehongli fel arwydd o euogrwydd nac fel unrhyw gyfaddefiad ar eich rhan - eu bwriad yw eich cynorthwyo i ymdrin ag unrhyw honiadau a wneir yn eich erbyn.
5.4
Fel aflonyddydd honedig, cewch gyfle i gael eich cynrychioli gan gydweithiwr/ffrind (sy’n aelod o Brifysgol Abertawe) neu gynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr) neu (os ydych yn aelod o staff) cynrychiolydd Undeb lle bo hynny’n berthnasol yn ystod cam priodol y weithdrefn. Os dilynir gweithdrefnau ffurfiol, cewch hefyd adroddiad ysgrifenedig am yr honiad fel eich bod yn medru datgan eich achos ac ymateb.
- Mae’r Brifysgol yn cydnabod fod dyletswydd arni i amddiffyn ei gweithwyr a’i myfyrwyr rhag cwynion maleisus neu ddisylwedd. Felly, gellir cymryd camau gweithredu priodol pan fo modd profi fod cwyn ddisylwedd, annifyr neu faleisus yn cael ei gwneud yn fwriadol.
- Rhoddir gwybod i chi am y weithdrefn y dylid ei dilyn os gwneir cwyn ffurfiol. Nodir y weithdrefn ffurfiol yn rhif 4 uchod.
6. Gwasanaethau Cynghori
Os oes rhywun yn aflonyddu arnoch neu os ydych yn wynebu cyhuddiadau o aflonyddu, mae’r cyfleusterau cynghori canlynol ar gael i chi yn rhad ac am ddim.
Cyfleusterau Myfyrwyr
Mae’r Gwasanaethau Lles yn darparu gwasanaeth cynghori personol i unrhyw fyfyriwr sydd â phroblemau. Darperir y gwasanaeth yn bennaf drwy gyfrwng cyswllt un i un. Mae gan y cynghorwyr gymwysterau proffesiynol ac maent yn gweithio yn unol â Chod Ymarfer Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain. Mae’r Gwasanaeth ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm dydd Llun i ddydd Gwener.
Gellir cysylltu â nhw ar 01792 295592 neu 01792 295942 (ffacs) neu drwy ebost ar wellbeing. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan y Gwasanaeth (gan gynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill) ac mae’r wefan i’w chael yn www.swansea.ac.uk/cy/lles/.
7. Aflonyddu Gan Rywrai Eraill
Gall aflonyddu trydydd parti ddigwydd os yw aelod o’r Brifysgol yn gwneud cwyn am fod person nad yw’n aelod o staff nac yn fyfyriwr yn y Brifysgol yn aflonyddu arno. Er enghraifft, gallent fod yn gwsmeriaid, yn ymwelwyr neu’n berthnasau i staff neu fyfyrwyr ac ati. Er nad oes modd i unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr nac yn weithwyr yn y Brifysgol gael eu disgyblu yn unol â phrosesau mewnol y Brifysgol, cynghorir yr achwynydd i gael cyngor a chymorth gan gyrff priodol (megis yr heddlu ac/neu gyfreithwyr) yn unol â gweithdrefnau eraill megis ‘’Deddf Gwarchod rhag Aflonyddu 1997’’. Dylid cyfeirio pob cwyn o’r math hwn yn y lle cyntaf at un o gynghorwyr aflonyddu’r Brifysgol, a fydd wedyn yn rhoi cyngor a chymorth addas.
NI FYDD DIM O FEWN Y COD HWN YN RHWYSTRO MYFYRWYR RHAG ARFER EU HAWLIAU CYFREITHIOL.
8. Monitro
Yn unol â Chod Ymarfer Cyfle Cyfartal y Brifysgol a’r Datganiad Polisi Cydraddoldeb Hiliol, mae’r Brifysgol yn cadarnhau ei hymrwymiad i bolisi cynhwysfawr o ran cyfle cyfartal, lle caiff unigolion eu trin ar sail eu teilyngdod a’u galluoedd perthnasol ac y cânt gyfle cyfartal o fewn y Brifysgol. Drwy fonitro gwybodaeth sy’n gysylltiedig â phob cwyn am aflonyddu, byddwn yn medru gweld a ydym yn cynnig triniaeth gydradd i bawb. Drwy ddadansoddi’r data byddwn yn medru gweld ymhle rydym yn methu gwireddu’r ddelfryd hon a chanolbwyntio wedyn ar ddod o hyd i atebion a gwneud newidiadau. Bydd yr holl wybodaeth a gesglir mewn fformat a fydd yn caniatáu i bawb fod yn anhysbys. Gellir dod o hyd i’r ffurflenni y dylid eu defnyddio i ddibenion monitro yn atodiadau’r polisi llawn. Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei rhyddhau i gyrff eraill megis Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Brifysgol a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, a hynny ond ar ffurf ystadegau sy’n rhoi modd i bawb fod yn anhysbys.
Anogir unrhyw un sy’n teimlo ei fod wedi dioddef aflonyddwch o unrhyw fath, neu unrhyw un sydd wedi gweld aflonyddwch o ryw fath yn digwydd, i lenwi a dychwelyd y ffurflen gofnodi/monitro briodol sydd i’w chael isod yn Atodiad II y polisi hwn.
Ni ofynnir yn ffurfiol i bobl lenwi’r ffurflen hon, ond pan gaiff ei llenwi a’i dychwelyd bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i ddiben monitro’n unig, a bydd yn ein helpu i greu darlun cywir o aflonyddu yn y Brifysgol ac yn galluogi camau gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.
9. Adrodd, Monitro, Gwerthuso ac Adolygu
9.1
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn adrodd yn ôl yn flynyddol i’r Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau wybodaeth ystadegol sy’n berthnasol i gwynion swyddogol a gychwynnwyd o dan y Polisi hwn. Cyfrifoldeb y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau bydd monitro’r data a rhoi argymhellion i’r Byrddau Academaidd neu’r Cyfadrannau/Ysgolion fel bo’n briodol.
9.2
Cyfrifoldeb y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau hefyd fydd adolygu’r Polisi hwn a’i heffeithiolrwydd gan wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’w hystyried gan y Senedd, fel bo’n briodol.
Atodiadau
Atodiad 1: Cynghorwyr Aflonyddu
Harassment & Whistleblowing Advisor List
Rhestr o'r Cynghorwyr Aflonyddu
Atodiad 2: Ffurflen Fonitro/Hysbysu
Lluniwyd y ffurflen hon er mwyn inni gael data ynghylch nifer y digwyddiadau aflonyddu sy’n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n bwysig rhoi gwybod am bob ffurf ar aflonyddu gan y bydd hyn yn rhoi modd i weld a oes unrhyw grwpiau penodol dan fwy o berygl o aflonyddu nag eraill. Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn ein helpu i bwyso a mesur a yw ein polisïau a’n gweithdrefnau yn gweithio’n effeithiol neu a ydynt yn andwyol i unrhyw grwpiau lleiafrifol.
A fyddech gystal â llenwi’r ffurflen os teimlwch eich bod wedi dioddef aflonyddu, neu os ydych wedi bod yn llygad-dyst i’r hyn a deimlwch oedd yn ddigwyddiad o aflonyddu. Ni fydd yr wybodaeth a gesglir o’r ffurflen yn gallu eich adnabod chi fel unigolyn a chaiff yr holl wybodaeth ei thrin yn hollol gyfrinachol.
Er na fydd adroddiadau o’r math hwn yn debygol o arwain at unrhyw newidiadau o bwys i achosion penodol, maent yn bwysig i gynorthwyo wrth greu darlun realistig o’r graddau y mae aflonyddu yn digwydd yn y sefydliad. Pe dymunech fynd â’r digwyddiad ymhellach, cysylltwch ag unrhyw un o’r Cynghorwyr Aflonyddu a restrir yn Atodiad I a byddant hwy yn rhoi cyngor i chi.
Gwnewch yn siŵr bod y ffurflen wedi’i selio mewn amlen wedi’i farcio â “Preifat a Chyfrinachol” a’i bod yn cael ei hanfon at: Swyddog Cyfle Cyfartal, Adran Adnoddau Dynol, Abaty Singleton, Parc Singleton, Abertawe.
Atodiad 2 - Ffurflen Adrodd Am Aflonyddu / Bwlio 2019
Atodiad 3: Moesau Ebost
Wrth ddefnyddio ebost, cofiwch ddefnyddio’r pwyntiau syml hyn o arfer da:
- Byddwch yn gwrtais, cadwch at yr un safonau â phe Byddech yn ysgrifennu llythyr. Ni ddylech ddefnyddio geiriau rheg, hyd yn oed pe byddech yn defnyddio geiriau o’r fath wrth sgwrsio â’r person yr ydych yn anfon yr ebost ato.
- Defnyddiwch hiwmor yn ofalus, nid pawb fydd yn ei werthfawrogi a heb oslef llais ac iaith y corff, gellir yn hawdd gamddehongli negeseuon ebost.
- Cofiwch bob amser ei bod yn anodd cyfleu goslef llais, eironi neu goegni drwy e-bost a’i bod felly yn llawer haws tramgwyddo pobl.
- Ystyriwch bob tro ai e-bost yw’r cyfrwng mwyaf addas i’r neges yr ydych am ei dweud. Mae’n well cyfathrebu rhai negeseuon mewn person neu dros y ffôn; yn enwedig rhai sensitif neu rai sydd â photensial gwrthdaro.
- Peidiwch â byth ddweud unrhyw beth na fyddech yn ei ddweud i wyneb y derbynwyr.
- Peidiwch â defnyddio prif lythrennau yn ddigyswllt. Caiff geiriau sydd mewn priflythrennau i gyd EU HYSTYRIED YN WEIDDI, ac felly cânt eu hystyried yn anfoesgar.
- Peidiwch â thanlinellu i roi pwyslais. Mewn unrhyw gyfathrebu sy’n seiliedig ar y we, mae tanlinellu yn golygu hypergyswllt ac ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddiben arall.