Rhwymedigaethau’r Myfyrwyr
1.
Rhaid i fyfyrwyr ymddwyn yn drefnus. Maent hefyd o dan rwymedigaeth, a rennir gyda holl aelodau eraill y Brifysgol, i helpu i atal ymddygiad anhrefnus neu amhriodol neu unrhyw achos sy’n codi yn y Brifysgol a/neu ei chyffiniau o dorri’r Rheoliadau. Os oes gan unrhyw aelod awdurdodedig o staff y Brifysgol reswm da, gall ofyn i unrhyw fyfyriwr adael rhan benodol o dir neu adeiladau’r Brifysgol; os methir â chydymffurfio â’r cais hwnnw, bydd y myfyriwr yn agored i’w ddisgyblu.
2.
Gall unrhyw fyfyriwr sy’n cyflawni trosedd yn y Brifysgol wynebu camau disgyblu a/neu achos troseddol.
3.
Bydd myfyrwyr sy’n ceisio rhwystro addysgu, astudio, ymchwil, neu weinyddiaeth y Brifysgol, neu sy’n mynd ati i rwystro unrhyw aelod o’r Brifysgol rhag cyflawni ei ddyletswyddau, yn agored i’w disgyblu.
4.
Gallai fod angen i fyfyriwr sy’n absennol o’r Brifysgol heb achos priodol dynnu nôl o’r Brifysgol.
Nodiadau
Dehonglir y termau canlynol fel y nodir isod:
- Bydd Is-Ganghellor yn golygu’r Is-ganghellor, Dirprwy Is-ganghellor neu enwebai priodol.
- Bydd Deon Gweithredol yn golygu'r Deon Gweithredol neu enwebai (megis Cyfarwyddwr Rhaglen).
- Bydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg yn golygu'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg neu gydweithiwr gweinyddol yn y Gwasanaethau Addysg.
- Mae Pwyllgor Ymchwilio yn golygu un o Uwch-bwyllgorau’r Brifysgol, sy’n annibynnol ar y Cyfadrannau/Ysgolion, a fydd yn adolygu penderfyniadau a, phan fo’n briodol, yn gosod cosbau.
- Mae Pwyllgor Apeliadau Terfynol yn un o Uwch-bwyllgorau’r Brifysgol, sy’n annibynnol ar y Cyfadrannau/Ysgolion, y gellir ei alw ynghyd i ystyried apeliadau sydd wedi cyrraedd y cam terfynol.
Gweler hefyd Datganiad y Brifysgol ar Ymgysylltu.