Delwedd o bawd ar sgrin
apps cyfryngau cymdeithasol ar sgrin ffôn symudol

Rheoli eich Presenoldeb ar y We

Pan fyddwn yn postio rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol, rydym yn gadael ôl troed digidol, y gall eraill ei weld a llunio tybiaethau amdanom. Nid yw hyn yn broblem pan fyddwn yn rhannu pethau’n breifat â ffrindiau a theulu, ond pan fyddwch yn chwilio am swydd bydd unrhyw beth sydd wedi’i rannu’n gyhoeddus amdanoch chi, gennych chi neu gan eraill yn cael ei weld gan gyflogwyr y dyfodol. Felly, mae’r ffordd rydym yn defnyddio ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu cael effaith ar ein cyflogadwyedd.

Darllenwch y canllaw hwn i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn chwilio am swydd. Dysgwch am y sgiliau digidol angenrheidiol ar gyfer rheoli eich presenoldeb ar-lein i sicrhau bod eich proffil yn broffesiynol a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn adnodd i ddenu sylw am y rhesymau cywir

Cadw Eich Data Personol yn Ddiogel  

Mae’n bwysig eich bod chi’n deall sut y caiff data digidol ei gasglu a’i ddefnyddio gan systemau gwahanol a sut i gadw eich data personol yn ddiogel. Fel myfyriwr yn Abertawe, rhaid i chi lynu wrth y Polisi Defnydd o Dechnoleg Ddigidol wrth ddefnyddio cyfrifiaduron y brifysgol neu wrth fewngofnodi i’r rhwydwaith ac offer y systemau. Darllenwch y canllaw ar ddiogelwch gwybodaeth, i gael cyngor ar ddiogelwch cyfrinair, pwysigrwydd cadw eich gwaith, cadw meddalwedd yn gyfoes ac awgrymiadau i osgoi ymosodiadau maleiswedd ar eich dyfais. Bydd dysgu’r sgiliau digidol allweddol hyn yn rhywbeth a fydd yn cadw eich data’n ddiogel yn y brifysgol ond maen nhw’n sgiliau y gallwch chi eu defnyddio yn eich bywyd personol ac yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol hefyd. 

Ymddwyn yn Ddiogel ac yn Barchus Ar-lein

Wrth i lawer o addysgu gael ei gynnal trwy weminarau ar-lein bellach, mae’n bwysig eich bod chi’n deall yr hyn a ddisgwylir gennych chi yn ystod gweminar a sut gallwch chi sicrhau eich bod chi a’ch cymheiriaid yn cael y budd mwyaf o’r sesiwn. Bydd y canllaw i ymddygiad yn ystod gweminarau hwn yn eich helpu chi i gael y budd mwyaf o’r math hwn o gyfarwyddyd a chydweithredu.  

 

Ysgrifennu CV

Peidiwch ag aros tan eich bod yn cyflwyno cais am eich swydd gyntaf i greu CV – dechreuwch heddiw. Drwy greu CV digidol, byddwch yn gallu ei ddiweddaru’n gyflym ac yn hawdd wrth i chi ychwanegu at eich cymwysterau a’ch profiadau. Gweler pa wybodaeth dylech chi ei chynnwys yn eich CV a sut i lunio’r ddogfen ddigidol yng nghanllaw Academi Cyflogadwyedd Abertawe i greu CV

Logo LinkedIn

LinkedIn

Rhwydwaith cymdeithasol ar-lein yw LinkedIn sydd wedi’i ddylunio i gysylltu pobl mewn ffordd broffesiynol. Mae’n gweithredu fel CV ar-lein gweithredol sy’n eich galluogi i rannu’ch sgiliau a’ch profiadau â phobl eraill. Os hoffech chi ddysgu rhagor, mae gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe ganllaw ar greu proffil LinkedIn a fydd yn ddefnyddiol i chi.

Shortlist.me

Caiff cyfweliadau dros fideo eu defnyddio bellach gan gyflogwyr ar draws ystod o sectorau gan ei fod yn gwella hyblygrwydd ar gyfer yr ymgeisydd a’r recriwtiwr. Mae Shortlist.me yn blatfform paratoi ar gyfer cyfweliad sy’n galluogi myfyrwyr i ymarfer cyfweliadau ar fformat fideo a chael adborth drwy ddeallusrwydd artiffisial a hunan-fyfyrio. Mae’r cyfweliadau hyn a achredir gan gyflogwyr yn rhoi ymdeimlad i fyfyrwyr o‘r hyn y mae cwmnïau’n chwilio amdano a’r hyn y gallant ei wynebu wrth gyflwyno cais am interniaethau neu rolau i raddedigion.

Cwrs Datblygu Gyrfa Academi Cyflogadwyedd Abertawe

Mae gradd yn bwysig iawn i gael swydd wych, ond mae cyflogwyr yn chwilio'n fwyfwy am sgiliau digidol wrth ddewis pa raddedigion maent am gynnig swyddi iddynt.Bydd Cwrs Datblygu Gyrfa Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn dy helpu i ddarparu tystiolaeth o dy sgiliau a dy brofiad, a chaiff ei gydnabod yn ffurfiol yn dy Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR).Gelli di gael y sgiliau angenrheidiol er mwyn i ti feithrin dy rwydwaith yn ddigidol a chael dy hyrwyddo drwy ddulliau fel LinkedIn, darganfod y dulliau i dy helpu i gynllunio dy yrfa, o chwilio am interniaeth am y tro cyntaf i symud i fyny yn dy yrfa wedi graddio, gyda'r cwrs hwn ar Canvas dan arweiniad arbenigwyr. Cofrestra ar Canvas drwy'r ddolen hon a dechreua heddiw!

Lleihau Straen Llygaid

Mae’n anochel bod defnyddio sgrîn ar gyfer gwaith ac adloniant yn dod yn fwyfwy cyffredin, ac ar ôl defnyddio cyfrifiaduron am gyfnod hir, mae effaith straen ar y llygaid yn cynyddu. Mae’n bwysig felly i chi wybod sut i ofalu am eich llygaid wrth i chi weithio. Gallwch ddarllen rhagor am sut i wneud hyn drwy ddarllen y postiad blog hwn.