Tiwtora Personol
Fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig a addysgir, neilltuir tiwtor personol i chi. Dyma aelod o staff addysgu yn eich Cyfadran neu'ch Ysgol sy'n gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe.
Dylech gael cyfarfod unigol gyda'ch Tiwtor Personol o leiaf unwaith bob Semester. Efallai y cewch eich gwahodd i gyfarfodydd grŵp neu weithiau â'ch Tiwtor Personol hefyd.
Bydd eich Tiwtor Personol yn eich tywys ac yn eich cefnogi drwy'ch datblygiad academaidd, proffesiynol a phersonol. Gallant eich helpu drwy:
- Arweiniad a chefnogaeth gyda datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol
- Cyrchu cymorth academaidd a phersonol, e.e. problemau lles
- Ateb cwestiynau eraill sydd gennych neu argymell ble sydd orau i gael cyngor
- Adolygu'ch cynnydd academaid
- Deall y system arholiadau ac asesu
- Geirdaon academaidd ar gyfer lleoliadau/ceisiadau swydd
Mae gan Tiwtor 'oriau swyddfa' hefyd, er mwyn i chi allu eu gweld. Gallwch hefyd e-bostio eich tiwtor os oes rhywbeth yr hoffech eich ei drafod a/neu drefnu cyfarfod.