Tîm Cyflogadwyedd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Mae Tîm Cyflogadwyedd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg wedi ymrwymo i gefnogi'r holl fyfyrwyr yn y gyfadran i gyflawni eu huchelgeisiau gyrfaol drwy ddarparu arweiniad un-i-un ar gyfer CVs a chyfweliadau, cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau Cyflogadwyedd, tra hefyd yn hyrwyddo ystod o gyfleoedd yn uniongyrchol i fyfyrwyr.
Mae'r tîm yn cydweithio ag ystod eang o gyflogwyr, o fusnesau bach i gwmnïau amlwladol, er mwyn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ryngweithio â darpar gyflogwyr. Mae'r amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir gan y Tîm Cyflogadwyedd yn cynnwys:
- Sgyrsiau gan Gyflogwyr - cyfle i glywed gan weithwyr proffesiynol yn eich maes diddordeb er mwyn archwilio cyfleoedd gyrfa, derbyn cyngor ar broses cyflwyno cais a gofyn cwestiynau.
- Cyflogwr yn y Cyntedd - sgwrs anffurfiol gyda chynrychiolwyr o sefydliadau amrywiol. Gofynnwch gwestiynau ynghylch y cyfleoedd a allai fod ar gael i chi a dysgwch fwy am yr hyn y mae sefydliad yn ei wneud.
- Canolfannau Asesu Ffug - bydd cyflwyno cais i gymryd rhan mewn Canolfan Asesu Ffug yn rhoi'r cyfle i chi gael y profiad o fod ynghlwm â'r rhan hon o'r broses recriwtio, a hynny mewn amgylchedd heb risgiau.
- Ffeiriau Gyrfaoedd a Diwrnod Sgiliau Cyflogadwyedd - mae'r tîm yn trefnu digwyddiadau Cyflogadwyedd mwy o faint a fydd yn cynnig y cyfle i chi ddatblygu sgiliau proffesiynol megis rhwydweithio, cymryd rhan mewn ffug gyfweliadau, a darganfod llwybrau gyrfa efallai nad ydych wedi eu hystyried o'r blaen.
Mae'r tîm Cyflogadwyedd hefyd yn trefnu'r broses weinyddol ar gyfer lleoliadau Blwyddyn mewn Diwydiant yn y gyfadran a gallant roi cyngor a chymorth drwy gydol y rhaglen er mwyn sicrhau eich bod yn medru gwneud y gorau o'r cyfle profiad gwaith gwerthfawr hwn.