Croeso'n ôl gan y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Rydym yn gobeithio dy fod ti wedi cael egwyl hyfryd dros yr haf a dy fod ti'n edrych ymlaen at ddychwelyd i Abertawe!
Rydyn ni, sef staff y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn llawn cyffro i'th groesawu'n ôl.
Dyma rai camau y gelli di eu cwblhau i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
- Dilyna ni ar Instagram! Ymuna â'r gymuned @scienceengineering_community i weld sut rydyn ni'n paratoi i'th groesawu!
- Mynediad at Canvas: Mae HYB Cymuned y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ar dy Ddangosfwrdd Canvas yn llawn adnoddau defnyddiol.
- Cymryd rhan: Edrycha ar y dudalen Digwyddiadau (swansea-union.co.uk) i weld gweithgareddau a phethau i fyfyrwyr newydd eu gwneud!
Rho nod tudalen ar gyfer ein tudalennau: Archwilia tudalennau gwe Myfyrwyr ein Cyfadran i weld pa gymorth ac opsiynau sydd ar gael i ti drwy gydol dy astudiaethau gyda ni.