27th September 2024
09:00 - 10:00 - Croeso gan Arweinwyr Addysg eich Ysgol - B001, Adeliad Canolog Peirianneg Bydd Arweinwyr Addysg eich Ysgol, yr Athro Cris Arnold, yn rhoi cyflwyniad byr i'r Gyfadran.
10:00 - 11:00 - Sgwrs Groeso, MSc Realiti Rhithwir - B014, Adeliad Canolog Peirianneg
Bydd staff academaidd allweddol yn arwain y sesiwn ragarweiniol hon ar gyfer eich rhaglen ac yn rhoi gwybodaeth allweddol y mae angen i chi ei gwybod am eich astudiaethau."
11:00 - 12:00 - Taith o'r Labordai a Sefydlu, MSc Realiti Rhithwir - A123, Adeliad Dwyreiniol Peirianneg
Bydd eich adran yn mynd â chi ar daith ragarweiniol o'r prif labordai ar gyfer yr MSc mewn Realiti Rhithwir
12:00 - 13:00 - Ymgysylltu â Chymorth - Rolau, adnoddau a chyfrifoldebau fel Myfyriwr Ôl-raddedig a Addysgir - B001, Adeliad Canolog Peirianneg Yn y sesiwn hon byddwn yn esbonio eich cyfrifoldebau fel myfyriwr ac yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau.
13:00 - 14:00 - Cinio a Rhwydweithio - B001, Adeliad Canolog Peirianneg Cyfle i rwydweithio â staff a'ch cyd-fyfyrwyr. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon.
14:00 - 17:00 - "Eich Sgiliau MSc" - Gweithdy gyda'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd - B001, Adeliad Canolog Peirianneg Bydd y Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnal gweithdy pwrpasol ar gyfer Myfyrwyr Peirianneg, i helpu i amlygu a gwella'r sgiliau meddal y bydd eu hangen arnoch drwy gydol eich gradd ôl-raddedig. Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar gyfathrebu, adeiladu tîm a thrafod. Argymhellir eich bod yn dod â'ch gliniadur chi os byddai'n well gennych ddefnyddio'ch offer eich hun.
17:00 - 17:30 - Sgwrs MSc gyda Blwyddyn mewn Diwydiant - Rhaglenni Peirianneg - B001, Adeliad Canolog Peirianneg I'r rhai sy'n dechrau MSc gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, dewch i'r sesiwn hon gyda Dr Vasileios Samaras a fydd yn rhoi trosolwg o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol eich rhaglen.
|