Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Blwyddyn 0 (Sylfaen).
23 Medi 2024
11:00 - 13:00 - Sgwrs Groeso, Blwyddyn 0 - 037, Y Neuadd Fawr
Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol Blwyddyn Sylfaen y rhaglen Cyfrifiadureg.
13:00 - 16:00 - Twrnamaint Gemau gyda Chymdeithas Gemio ac E-Chwaraeon Abertawe - A019, Adeliad Canolog Peirianneg Ymunwch â Chymdeithas Gemau Abertawe a chymryd rhan mewn twrnamaint gemau am gystadleuaeth gyfeillgar! Ceir nifer cyfyngedig o leoedd yn y sesiwn hon, felly cofrestrwch i osgoi colli'r cyfle.
14:00 - 15:00 - Sesiwn Galw Heibio, Blwyddyn 0 ac 1 - 102 , Y Ffowndri Gyfrifiadol Bydd llawe o wybodaeth newydd ar eich diwrnod cyntaf. Os oes gennych gwestiynau, bydd eich Cydlynwyr Blwyddyn yn gallu helpu i ateb unrhyw beth yr hoffech ei wybod am eich rhaglen.
|
24 Medi 2024
12:00 - 13:00 - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - B004, Adeliad Canolog Peirianneg Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn y brifysgol.
14:00 – 17:00 - Digwyddiad Cymdeithasol Croeso, Blwyddyn 0 ac 1 (Sesiwn 1) - 002, Y Twyni Ymunwch â'ch cyd-fyfyrwyr am ddigwyddiad cymdeithasol i groesawu'r holl fyfyrwyr Blwyddyn 0 a Blwyddyn 1 newydd i'r Adran Gyfrifiadureg. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon.
|
25 Medi 2024
Neilltuwyd y diwrnod hwn i roi cyfle i ti fynd i Ffair y Glas, Undeb y Myfyrwyr. Sylwer, cynhelir y ffair hon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar Lôn Sgeti ac nid ar Gampws y Bae.
Cadwa dy le drwy dudalennau Digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr.
|
26 Medi 2024
11:30 - 13:30 - Amrywio Lleisiau - B001, Adeliad Canolog Peirianneg Ymunwch â thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran ar gyfer pizza a gweithgareddau wrth i chi gael cyflwyniad i'r gymuned amrywiol rydych chi'n ymuno â hi yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
13:00 - 16:00 - Ffair Groeso'r Holl Gyfadrannau - Atriwm, Peirianneg Gogledd Byddwch yn clywed rhagor am ffyrdd o gymryd rhan, sut i ddod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi a sicrhau bod popeth yn barod gennych ar gyfer eich wythnos addysgu gyntaf. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chael pethau am ddim.
|
Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!