Pam mae eich llais fel myfyriwr yn bwysig?

Fel myfyriwr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, mae gennych rôl bwysig iawn: i sicrhau y caiff eich llais ei glywed.

Eich man cychwyn

teithiwr, cwmpawd

Rydych wedi dechrau ar daith gyda ni. Ein nod yw darparu'r adnoddau cywir sydd eu hangen arnoch i symud yn llwyddiannus drwy eich cwrs, yn aml yn eich cyfeirio at adnoddau a chymorth ychwanegol pan fydd eu hangen.

Eich rôl

YMENNYDD, LIGHTBULB

Byddwn yn gwneud ein gorau i greu amgylchedd dysgu ymgysylltiol i chi ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol. Ond, nid oes modd i ni wneud hyn heb eich syniadau a'ch sylwadau chi.

Helpwch i lywio'r ffordd

SAETHAU

Er ein bod yn cynnig cyfeiriad i chi, gall eich adborth ein helpu i greu ffyrdd amgen efallai na fyddem wedi'u hystyried. Gall hyn arwain at newidiadau a gwelliannau cadarnhaol ar draws y Brifysgol.

Mae eich adborth wedi arwain at...

  • Welliannau i fannau astudio: mae'r BASE (A006) wedi cael ei ailwampio, o ganlyniad i'ch awgrymiadau ar gyfer mwy o gyfleusterau ar gyfer cydweithio a gwaith grŵp.
  • Newidiadau i strwythurau rhaglenni: Modiwlau 20 credyd newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer rhai rhaglenni - gan gynnig mwy o gyfleoedd i ddod â gwybodaeth a syniadau o bynciau gwahanol ynghyd.
  • Gwelliannau i asesiadau: Rydym wedi cynyddu'r cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymarferol, gan sicrhau bod gennych chi'r cyfle i arddangos eich dysgu wrth i chi fynd rhagddi.
  • Parhad Cymorth Academaidd Allweddol: Rydym yn parhau i gynnig ystod o Gymorth Academaidd eleni, gan gynnwys y Caffis Cymorth, a gweithdai ar feysydd allweddol megis cymorth ar gyfer traethawd hir MSc.

Lle i rannu

Oes gennych rywbeth i'w ddweud?
Cemegau

Nid ydym yn disgwyl i chi ddod i'r Brifysgol â dealltwriaeth lawn o'r prosesau a’r gweithdrefnau, ond byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod:

  • Arweiniad yn glir.
  • Gennych fynediad at yr adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnoch.
  • Gennych y cyfleoedd cywir i roi adborth ar eich profiad.

Cliciwch drwy'r grŵp hwn i ddod o hyd i'r ffyrdd y gallwch gysylltu ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau.

Staff Academaidd Byrddau Ysgol a Phrifysgol MyUniVoice Cynrychiolwyr Pwnc Grwpiau Ffocws Arolygon

Ymunwch â'r drafodaeth

Helpwch ni i barhau i esblygu drwy ymuno â'r drafodaeth ar MyUniVoice. Yn ogystal â chlywed yr hyn mae eraill yn ei feddwl, gallwch gymryd rhan yn ein trafodaethau pynciau misol. Drwy glywed mwy gennych chi, mae’n haws i ni sicrhau bod gennych fynediad at bopeth sydd ei angen arnoch.

Dywedwch wrthym am yr hyn yr hoffech drwy'r bwrdd ar gyfer eich ysgol nawr!

Ewch i MyUniVoice
swigen leferydd, gliniadur

Lleisiwch eich barn

Edrychwch ar ein hawgrymiadau gwych ar gyfer adborth effeithiol.

Byddwch yn Amserol

Profion deunyddiau

Codwch unrhyw faterion neu sylwadau wrth iddynt godi - mae hyn yn ein galluogi ni fel staff i ymchwilio a gweithio gyda chi a phrofi datrysiadau a fydd yn cryfhau eich profiad.

Rhowch Fanylion

dolen adborth

Ceisiwch ddarparu cynifer o fanylion â phosib. Mae hyn yn ein helpu i gyfeirio'r adborth a’i archwilio'n effeithlon. Os oes angen i ni wybod mwy, efallai byddwn yn cysylltu â chi â chwestiynau i gael gwybodaeth bellach i ni weithio gyda'n gilydd ar ddatrysiad priodol.

Cynigiwch Ddatrsyiadau

Arwydd perygl

Rydym eisiau clywed am broblemau, ond rydym hefyd eisiau clywed sut y byddech yn eu datrys. Cofiwch, dylai datrysiadau fod yn gytbwys, gan wella'r profiad i bawb.

Cyfleoedd adborth eraill

Mae llawer o ffyrdd i gynnig adborth ar bob maes o'ch profiad. Edrychwch ar ffyrdd eraill o gymryd rhan isod.