Darllena ein tudalen newydd sef A-Y o Gymorth i Fyfyrwyr! Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu myfyrwyr i gael mynediad rhwydd at wybodaeth, dolenni ac adnoddau i'w helpu yn ystod eu hastudiaethau. 

Os oes gennych chi gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm am arweiniad.

A-Y o Gymorth i Fyfyrwyr

Cwestiynau Cyffredin ar yr adeg hon o'r flwyddyn

Rwy'n cael problemau wrth gael mynediad i'r system EC. Â phwy galla i gysylltu?

Dylid rhoi gwybod am unrhyw faterion TG mewn perthynas ag E:vision trwy'r Porth Desg Gwasanaeth TG

Mae gen i dystiolaeth EC yn ddyledus ond ni allaf uwchlwytho i'm cais presennol. Beth dylwn i wneud?

E-bostiwch hwn yn uniongyrchol i StudentSupport-ScienceEngineering@abertawe.ac.uk. Byddwn yn uwchlwytho hwn i'ch cais wrth ddychwelyd.

Rwy'n cael problem gyda fy mhwynt cyflwyno ar Canvas. Beth dylwn i wneud?

E-bostiwch eich gwaith yn uniongyrchol at eich Cydlynydd Modiwl, gan gopïo StudentSupport-ScienceEngineering@abertawe.ac.uk.

Nid wyf wedi cael canlyniad ar gyfer fy nghais am Amgylchiadau Lliniarol eto. Beth dylwn i wneud?

Nod ein tîm yw ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith, a allai gael ei amharu dros Gyfnod Cau’r Brifysgol. Rydym yn cynghori myfyrwyr yn gryf i gyflwyno'r gwaith sydd wedi'i gwblhau cyn y dyddiad cau. Yna, os caiff eich cais ei gymeradwyo, caniateir i chi ailgyflwyno eich gwaith.

Oes modd parhau i gael mynediad at gefnogaeth o’r gwasanaeth llesiant?

Bydd ein Gwasanaeth Lles ac Anabledd hefyd ar gau dros Ŵyl y Banc. Os oes angen cymorth brys arnoch, cyfeiriwch at ein  tudalen Derbyn gymorth mewn Argyfwng.

Pa gymorth adolygu sydd ar gael i mi?

Cyfeiriwch at ein  gwefan Cymorth Academaidd yn ogystal â'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd i gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi.

 

Y lle i fynd ar gyfer popeth sy'n ymwneud â Abertawe!

Mae FyAbertawe yn rhoi mynediad uniongyrchol at lawer o nodweddion y mae myfyrwyr yn eu defnyddio bob dydd, megis e-byst, amserlenni a Canvas.

Mae'r nodweddion eraill yn cynnwys mapiau o'r campysau, amserlenni bysiau, ap Uni Food Hub, ap SafeZone a llawer mwy!