Mae'r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn unig. Os ydych chi'n fyfyriwr mewn Cyfadran wahanol ewch i ganllawiau ar gyfer eich cwrs yma.

Rydym yn deall y gall ffactorau gwahanol, gan gynnwys amgylchiadau esgusodol, effeithio ar eich astudiaethau a'ch paratoadau ar gyfer asesiadau. Os bydd unrhyw amgylchiadau'n effeithio ar eich gallu i gwblhau neu gyflwyno asesiad, yna mae gennych yr opsiwn i gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol. Gall hyn ymwneud ag asesiadau parhaus a/neu arholiadau terfynol. Edrychwch ar yr wybodaeth isod. 

Sut i gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol ar gyfer ...

 

HAPUS PECYN CYMORTH BYWYD MYFYRWYR

Mae Hapus yn gwrs ar-lein sy'n dy baratoi am yr heriau meddyliol, emosiynol ac ymarferol yn y brifysgol. Bydd yn rhoi ti'r wybodeath a'r adnoddau i allu mynd i'r afael â materion fel gorbryder cymdeithasol, rheoli dy arian a hwyliau isel. 

Gelli di gyrchu'r cwrs drwy dy gyfrif Canvas, ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.