Rhaid i dystiolaeth ategol:
- Nodi sut mae'r amgylchiadau wedi effeithio ar berfformiad myfyriwr a/neu wedi effeithio ar allu myfyriwr i fynd i asesiad, ei gwblhau neu ei gyflwyno ar amser.
- Cael ei dyddio o fewn mis i ddyddiad yr asesiad dan sylw.
- Cael ei darparu gan drydydd parti a’i chyflwyno gan y myfyriwr.
- Esbonio'r amgylchiadau'n glir.
- Cadarnhau'r cyfnod amser yr oedd yr amgylchiadau'n effeithio arno.
- Cael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl.
- Yn achos dogfennaeth a ysgrifennwyd mewn iaith arall, rhaid darparu cyfieithiad swyddogol.
- Cael ei chyflwyno fel dogfen Word, JPEG neu PDF (nid yw systemau'r Brifysgol yn gallu darllen dogfennau ategol mewn fformat HEIC).
Mae enghreifftiau o dystiolaeth briodol yn cynnwys y canlynol:
Amgylchiadau Posib | Enghreifftiau o dystiolaeth briodol |
Problemau technegol (h.y. tarfu ar Wi-Fi/gysylltiad, problemau mynediad, etc) |
- Sgrinluniau o negeseuon gwall, gan gynnwys dyddiad/amser.
- Hysbysiad o darfu ar wasanaeth wedi'i ddyddio.
- Diweddariad gan dudalen darparwr rhwydwaith.
- Cyfathrebiad sy'n nodi'r tarfiad, gan gynnwys negeseuon e-bost neu gyfryngau cymdeithasol.
- Gohebiaeth â darparwr gwasanaeth neu dîm technegol i nodi'r broblem, y dyddiad/amser a'r ymgais i ddatrys y broblem.
|
Amgylchiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu les/iechyd meddwl |
- Nodyn gan eich meddyg, eich meddyg teulu neu ganolfan iechyd sy'n nodi'r amgylchiadau a'r dyddiadau dan sylw.
- Llythyr yn cadarnhau cyfnod yn yr ysbyty neu ddyddiad rhyddhau.
- Nodyn gan dimau lles neu lesiant canolog y Brifysgol os ydych yn cael cymorth gan y gwasanaethau hyn.
- Yn achos myfyrwyr â chyflyrau iechyd/anableddau newidiol sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Gwasanaethau Lles ac Anabledd, dylid ystyried bod y ffurflen addasiad yn dystiolaeth os yw'r amgylchiadau a nodir ar y cais am amgylchiadau esgusodol yn ymwneud â'r cyflwr iechyd a nodwyd.
|
Yn achos profedigaeth |
Rydym yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd i bawb a gall fod yn anodd cael tystiolaeth. Mae'r mathau o dystiolaeth y gallwn eu hystyried yn cynnwys, ymysg eraill:
- Copi o'r dystysgrif marwolaeth (os bydd ar gael)
- Copi o drefn gwasanaeth angladd neu hysbysiad am yr angladd
- Copi o lythyr Trefnydd Angladdau
- Os yw'r brofedigaeth yn golygu eich bod yn cael problemau o ran eich lles/iechyd meddwl, gallwch ddarparu tystiolaeth o hyn (gweler yr arweiniad uchod ar dystiolaeth briodol)
Mae'r uchod yn enghreifftiau'n unig. Os ydych yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar dystiolaeth, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm am arweiniad a chymorth.
|
Os ydych yn ddioddefwr trosedd |
- Adroddiad gan yr heddlu – ni fydd rhif cyfeirnod y drosedd ar ei ben ei hun yn ddigonol.
|
Os ydych yn cael prawf positif am Covid-19 |
Rhaid i'r dystiolaeth am yr amgylchiadau hyn gynnwys:
- Llun o'ch prawf positif â rhif y prawf i’w weld yn amlwg.
- Dylid gosod eich prawf positif wrth ochr nodyn sy'n cynnwys eich rhif myfyriwr, eich enw llawn, y dyddiad a llofnod sy'n ardystio mai eich prawf chi ydyw.
|
Cyfrifoldebau gofalu |
- Yn achos cyfrifoldebau gofalu ac anawsterau domestig tymor byr sy'n effeithio ar allu myfyriwr i baratoi ar gyfer asesiadau neu gynnal asesiadau, datganiad gan aelod o'r teulu/ffrind.
- Yn achos cyfrifoldebau gofal tymor hir, Pasbort Gofalwr.
|
Yn achos amgylchiadau eraill sy'n gymwys |
Ceisiwch ddisgrifio'r amgylchiadau mewn modd mor fanwl â phosib a darparu cymaint o dystiolaeth ag y gallwch, a bydd y Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o dystiolaeth. |
Bydd absenoldeb dogfennau ategol yn arwain at wrthod y cais oni bai bod y myfyriwr yn gallu rhoi esboniad digonol yn ei gais am ei reswm dros fethu darparu tystiolaeth fel hynny. Mae'r Brifysgol yn cydnabod y bydd hi'n anodd i rai myfyrwyr gasglu tystiolaeth yn y sefyllfa bresennol, a bydd yn ystyried ceisiadau â chydymdeimlad os darperir esboniad priodol.