Amgylchiadau sy'n gymwys:
Ceir Darpariaethau Dros Dro sy'n berthnasol i fyfyrwyr â chyflyrau byrdymor sydyn sy'n digwydd yn ystod cyfnod yr arholiadau ac sy’n amharu ar eich arholiadau. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau meddygol sy'n dechrau'n sydyn (torri asgwrn, beichiogrwydd, nam ar y golwg, etc).
Sylwer, os cytunwyd ar ddarpariaethau dros dro ar gyfer naill ai arholiadau ar-lein neu ar y campws, byddant yn berthnasol ar gyfer y cyfnod arholiadau dan sylw YN UNIG, ac ar gyfer asesiadau sy'n para am 24 awr neu lai YN UNIG.Os oes gennych gyflyrau hirdymor parhaus a allai effeithio arnoch mewn arholiadau yn y dyfodol, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd neu'r Gwasanaethau Lles er mwyn trafod darpariaethau hirdymor i'ch cefnogi yn y dyfodol.
Camau i gwblhau cais am Ddarpariaeth Dros Dro ar gyfer arholiadau AR Y SAFLE, WYNEB YN WYNEB:
1. I gyflwyno cais am Ddarpariaethau Dros Dro, e-bostiwch dîm MyUniHub am arweiniad yn myunihub@abertawe.ac.uk
2. Darparu tystiolaeth ategol: Bydd angen tystiolaeth ategol allanol os ydych chi'n cyflwyno cais am Ddarpariaethau Dros Dro ac ni fydd eich cais yn cael ei adolygu nes eich bod chi wedi darparu'r dystiolaeth ategol. Wrth gyflwyno cais am Ddarpariaethau Dros Dro, a wnewch chi hefyd lanlwytho'r dystiolaeth ategol sydd gennych i gadarnhau eich amgylchiadau.
Os nad ydych yn gallu cyflwyno eich tystiolaeth ar yr un pryd â'ch cais, anfonwch eich tystiolaeth drwy e-bostio tîm MyUniHub yn myunihub@abertawe.ac.uk cyn gynted â phosibl.
3. Cadarnhau darpariaethau: Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd tîm MyUniHub yn trafod y darpariaethau a fydd yn bosibl ar gyfer eich arholiadau ar y safle.
Camau i gwblhau cais am Ddarpariaeth Dros Dro ar gyfer arholiadau AR-LEIN:
- I gyflwyno cais am ddarpariaethau dros dro, cwblha'r ffurflen Darpariaethau Dros dro ar gyfer Arholiadau, darparu tystiolaeth ategol drwy dy ffurflen.Bydd angen tystiolaeth ategol allanol os wyt ti'n cyflwyno cais am ddarpariaethau dros dro, ac ni fyddwn yn gallu adolygu dy gais nes ein bod wedi cael y dystiolaeth ategol.
- Darparu tystiolaeth ategol: Rhaid darparu tystiolaeth ategol allanol os wyt ti'n cyflwyno cais am ddarpariaethau dros dro, ac ni fyddwn yn gallu adolygu dy gais nes ein bod wedi cael y dystiolaeth ategol.Wrth gyflwyno cais am Ddarpariaethau Dros Dro, a wnei di lanlwytho tystiolaeth ategol sydd gen ti sy'n cadarnhau dy amgylchiadau. Os nad wyt ti'n gallu cyflwyno dy dystiolaeth ar yr un pryd â'th gais, e-bostia dîm Cymorth Myfyrwyr y gyfadran StudentSupport-ScienceEngineering@abertawe.ac.uk gyda'th dystiolaeth cyn gynted â phosib.
- Cadarnhau darpariaethau: Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd y gyfadran yn trafod pa ddarpariaethau fydd yn briodol (naill ai 25% o amser ychwanegol a/neu'r posibilrwydd o archebu mannau cyfrifiadur personol yn y Llyfrgell ymlaen llaw yn ystod y cyfnod asesu os ydynt ar gael). Os cytunir ar roi mwy o amser, bydd y dyddiad a'r amser rhyddhau ar gyfer pob asesiad cymwys yn aros yr un peth â'r amserlen wreiddiol, ond bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dy asesiad yn cael ei addasu er mwyn cynnwys yr amser ychwanegol.
Ystyriaethau ac amseru pwysig:
- Sylwer efallai na fydd amser ychwanegol yn bosib ar fyr rybudd, a bydd angen o leiaf 2 ddiwrnod gwaith o rybudd arnom i roi darpariaethau yn eu lle unwaith bydd y cais wedi'i brosesu a'i gymeradwyo. Byddwn yn e-bostio eich cyfrif e-bost myfyriwr i gadarnhau pa asesiadau fydd yn cynnwys darpariaethau.
- Sylwer hefyd ar gyfer darpariaethau ar-lein, efallai na fydd mannau ar y cyfrifiaduron yn y Llyfrgell ar gael, ac eto bydd angen i ni ymgynghori â thîm y Llyfrgell ynghylch hyn.
- Os na fydd y darpariaethau y mae eu hangen arnoch ar gael, neu os ydych chi'n meddwl na fydd y darpariaethau hyn yn ddigonol, bydd angen i chi ystyried gohirio.