Os oes arnoch angen cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol ar gyfer asesiad parhaus (megis prawf dosbarth, aseiniadau gwaith cwrs neu weithgareddau addysgu gorfodol), darllenwch yr wybodaeth isod yn ofalus.

Os yw eich amgylchiadau'n effeithio ar eich gallu i gwblhau neu gyflwyno aseiniad, bydd angen i chi gyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol.

Os caiff eich cais ei dderbyn, mae’n bosib y byddwch yn cael dyddiad cau estynedig neu eithriad, fel y bo’n briodol. Cynhelir y broses gyfan ar-lein a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad drwy e-bost.

Cewch arweiniad ynghylch sut i gyrchu'r system newydd a sut i gyflwyno cais amgylchiadau esgusodol yma. Gellir hefyd cael mynediad at E:Vision drwy'r ap FyAbertawe.

Dyddiadau Cau Allweddol

  • Rhaid cyflwyno ceisiadau am amgylchiadau esgusodol o fewn y 10 niwrnod gwaith cyn dyddiad cau'r aseiniad yr effeithir arno, neu o fewn 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau ar gyfer yr aseiniad yr effeithir arno.
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn dyddiad cau'r asesiad perthnasol. Gall ceisiadau gael eu gwrthod os byddant yn cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad cau heb reswm dilys dros yr oedi.
  • Dylid lanlwytho tystiolaeth ategol i'r system ar-lein ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol ar adeg y cais os yw'n bosib, ond gallwch gyflwyno eich Ffurflen Amgylchiadau Esgusodol ac yna atodi unrhyw ddogfennau/dystiolaeth ategol yn nes ymlaen.
  • Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ategol o fewn 10 niwrnod gwaith i'r dyddiad pan fyddwch yn cyflwyno eich cais am Amgylchiadau Esgusodol.
  • Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu darparu dogfennau/tystiolaeth i ategu eich cais o fewn y terfyn amser o 10 niwrnod gwaith, cysylltwch â'n tîm ar frys am arweiniad.

 

Cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr

Os nad ydych chi'n siŵr ynghylch rhywbeth isod, cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr.

Am fanylion pellach, darllenwch ganllawiau'r Brifysgol ar Polisi ar Amgylchiadau Esgusodolhefyd.

CWESTIYNAU CYFFREDIN YNGHYLCH AMGYLCHIADAU ESGUSODOL