Gobeithiwn y bydd yr wybodaeth ar y tudalennau gwe hyn yn ddefnyddiol i fyfyrwyr yn ogystal â rhieni a thrydydd partïon sydd â diddordeb mewn lles myfyrwyr. Rydym yn ymroddedig i gefnogi ein holl fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau.
Oherwydd Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), nid ydym yn gallu datgelu gwybodaeth am ein myfyrwyr heb eu caniatâd ysgrifenedig hwy. Golyga hyn nad ydym yn gallu cadarnhau a yw myfyriwr wedi cofrestru gyda Phrifysgol Abertawe hyd yn oed. Fodd bynnag, rydym bob amser yn hapus i siarad â rhieni a thrydydd partïon eraill i roi gwybodaeth gyffredinol am y gefnogaeth sydd ar gael.
Mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr os oes gennych bryderon yr ydych am eu trafod, neu os ydych yn poeni am eich plentyn neu berthynas. Er mwyn sicrhau bod myfyriwr yn derbyn cyngor a chymorth yn gyflym, ceisiwch annog y myfyriwr i gysylltu â ni'n uniongyrchol. Gallwn hefyd esbonio sut y gall ef/hi roi caniatâd i siarad â thrydydd parti a enwir, megis rhiant, os yw'n dymuno gwneud hynny.
Gall yr adnoddau canlynol fod o gymorth: