Caffi Mathemateg y Gyfadran: Mae’r Caffi Mathemateg yn arbenigo mewn cefnogi myfyrwyr Peirianneg a’r Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, ac rydych yn cael eich annog i ddod â chwestiynau a phroblemau mewn fformat ‘yn barod i’w rhannu’, e.e. llun o’r gwaith gweithio allan, sgrinluniau, nodiadau darlith etc fel y gallwn weithio drwy enghreifftiau penodol gyda chi. Bydd y gweithgarwch hwn yn ailddechrau ym mlwyddyn academaidd 2024/25. Cadwch lygad am fanylion yn agosach at ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf.
Ar agor i bob myfyriwr, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnig ystod o adnoddau ar-lein, gweithdai grŵp a thiwtora personol ar-lein drwy apwyntiad hefyd, ar gyfer pynciau mathemateg ac ystadegau. Gweler tudalen we y Ganolfan Llwyddiant Academaidd am ragor o wybodaeth ac er mwyn trefnu apwyntiad: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/llwyddiant-academaidd/mathemateg-ac-ystadegau/
Yn benodol ar gyfer y Biowyddorau, ceir adnoddau mathemateg ac ystadegau ar yr HYB: Israddedigion yn y Biowyddorau.
Yn benodol ar gyfer myfyrwyr Peirianneg, ceir nifer o adnoddau ar-lein ar y dudalen Canvas HYB: Adnoddau Peirianneg, gan gynnwys:
- Llyfrau gwaith HELM - Helping Engineers Learn Mathematics
- Academi Khan
- Math Centre
- Math Tutor
- Nodiadau darlith - ar gyfer y modiwlau dadansoddi peirianyddol
- Dolenni i wefannau allanol
- Mae MathCentre yn cynnwys ystod o gymorth, taflenni gwaith y gallwch weithio drwyddyn nhw i’ch addysgu eich hun neu eu defnyddio fel cymorth. Ewch i'w gwefan am ragor o wybodaeth: http://www.mathcentre.ac.uk/courses/