Y Gyfadran yn cydnabod y gall fod rhaid i fyfyriwr gael seibiant o'i raglen oherwydd salwch, amgylchiadau personol eithriadol, rhesymau ariannol neu pan fydd y myfyriwr yn bwriadu trosglwyddo i raglen arall. 'Gohirio' yw'r term a ddefnyddir am hyn a bydd yn golygu rhoi eich astudiaethau academaidd o'r neilltu am weddill y flwyddyn academaidd.

Gallwch wneud cais i ohirio'ch astudiaethau tan ddiwrnod cyntaf Tymor yr Gwanwyn. Cliciwch yma i weld dyddiadau tymhorau'r Brifysgol. Rhaid i unrhyw gais i ohirio sy’n cael ei wneud ar ôl yr adeg hon fod yn seiliedig ar iechyd neu resymau anorchfygol eraill a rhaid cyflwyno dogfennaeth ategol.

Edrychwch ar y camau isod y bydd rhaid eu dilyn os ydych yn ystyried gohirio'ch astudiaethau.

 Cyflwyno Cais I Ohirio'ch Astudiaethau
Cam 1

Cysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni, y Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr, i drafod eich sefyllfa oherwydd efallai y bydd gennych fwy o opsiynau na gohirio eich astudiaethau. Gallwn hefyd eich rhoi ar y trywydd iawn i gael cymorth a chyngor a allai fod ar gael.

Cam 2

Goblygiadau Ariannol

  • Cyllid Myfyrwyr - Os ydych yn derbyn grant/benthyciad ffioedd dysgu a/neu Gynhaliaeth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, mae'n hollbwysig eich bod yn siarad ag Arian@BywydCampws cyn cyflwyno cais i ohirio. Mae ganddynt dudalen cyngor ddefnyddiol iawn a allai ateb rhai o'ch cwestiynau.
  • Ffioedd Dysgu: Ar gyfer Myfyrwyr Israddedig, os ydych yn gohirio'ch astudiaethau, bydd swm y ffioedd dysgu y byddwch yn eu talu am y flwyddyn yn dibynnu ar ddiwrnod olaf eich presenoldeb ar y cwrs. Yn gyffredinol, rhennir y swm taladwy fel a ganlyn. Ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig, caiff eich ffioedd dysgu eu cyfrifo ar sail pro rata. Mae rhagor o arweiniad ynghylch rhwymedigaeth ac ad-daliadau ffioedd dysgu ar gael yma. 
  • Llety - Mae'n werth ystyried hefyd a fydd gohirio astudiaethau'n effeithio ar unrhyw gontract llety sydd gennych. Os ydych yn aros mewn llety sy'n eiddo i Brifysgol Abertawe, cysylltwch â'r Tîm Llety am gyngor: accommodation@abertawe.ac.uk
  • Myfyrwyr sy'n cael eu noddi - os ydych chi'n fyfyriwr a noddir, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymgynghori â'ch noddwr cyn cyflwyno eich cais.
Cam 3

Gwirio Fisas Myfyrwyr Rhyngwladol a’r UE (os yw’n briodol)

  • Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol neu o’r UE sy’n astudio ar fisa Llwybr Myfyriwr, bydd angen i chi gysylltu â Thîm Rhyngwladol@BywydCampws  i drafod y goblygiadau ar gyfer CAS a’ch fisa sydd ynghlwm wrth newid eich cwrs.
Cam 4

Cyflwyno Ffurflenni

Os penderfynwch fwrw ymlaen â chais i ohirio'ch astudiaethau, bydd angen:

Ar ôl cyflwyno ffurflen Gohirio Astudiaethau
  • Gadw lygad ar eich cyfrif e-bost myfyriwr. Pan fydd eich cais i ohirio wedi'i gymeradwyo, byddwch yn derbyn e-bost gan Gofnodion Myfyrwyr i gadarnhau eich bod yn gohirio, eich dyddiad dychwelyd disgwyliedig ac unrhyw amodau sy’n gysylltiedig â dychwelyd i astudio.
  • Os nad ydych wedi derbyn e-bost cymeradwyo o fewn wythnos i gyflwyno eich ffurflen a'ch dogfennaeth ategol, cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr.
Ddychwelyd I Astudio

Fel arfer, disgwylir i fyfyrwyr amser llawn ddychwelyd i astudio ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ddilynol ac ailddechrau'r lefel astudio.

  • Bydd Cofnodion Myfyrwyr yn cysylltu â chi yn agos at eich dyddiad dychwelyd i gadarnhau unrhyw gamau gweithredu bydd angen i chi eu cymryd cyn cofrestru am y flwyddyn academaidd. Os ydych chi wedi gohirio oherwydd rhesymau iechyd, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol gyfoes i gadarnhau eich bod chi'n ddigon iach i ailgydio yn eich astudiaethau.
  • Os yw amgylchiadau gwreiddiol eich cais i ohirio yn parhau ac os ydych yn teimlo na allwch ddychwelyd, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib i drafod hyn.
  • Os nad ydych chi'n ailgofrestru ar gyfer eich rhaglen astudio, bydd y Brifysgol yn rhagdybio eich bod chi wedi tynnu'n ôl o'r Brifysgol. Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich bod chi wedi tynnu'n ôl a chaiff eich cofnod ei ddiwygio.