Sylwer, bod y dudalen hon ar gyfer myfyrwyr y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheiriannegyn unig; rhaid cyfeirio ceisiadau i newid modiwl myfyrwyr mewn Colegau eraill i’r timau priodol isod.

Gan ddibynnu ar eich cwrs a'r flwyddyn, efallai y bydd gennych gyfle i ddewis modiwlau opsiynol.

Pan fyddwch wedi gwirio hyn yn Llawlyfr Rhan 2 eich cwrs a'r flwyddyn, gallwch wneud hynny nawr drwy ddefnyddio'r Ffurflen Gais Newid Modiwlau ar-lein.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn ystod pythefnos cyntaf yr addysgu. Yna bydd Tîm Ansawdd y Gyfadran yn ystyried eich cais a rhoir gwybod i chi am y canlyniad. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl ail wythnos yr addysgu, bydd yn ofynnol cael cymeradwyaeth academaidd er mwyn ei brosesu. 
  • Ar gyfer modiwlau a gynhelir ar draws y ddau floc addysgu, bydd gennych bedair wythnos i gyflwyno cais am newid. Sylwer bod yn rhaid gwneud hyn yn Semester 1.
  • Gall eich cais gael ei wrthod os yw'r modiwl yn llawn eisoes. Os felly, gallwn eich rhoi ar restr aros a chysylltu â chi os bydd lle ar gael.

 

Cysylltiadau Eraill mewn Colegau

Os oes gennych ymholiadau ynghylch modiwl mewn Cyfadran wahanol, defnyddiwch y manylion cyswllt isod i gysylltu â'r Tîm Cymorth Myfyrwyr priodol.

Cyfadran/YsgolE-bost

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

studentsupport-medicinehealthlifescience@abertawe.ac.uk

Ysgol Diwylliant A Chyfathrebu

studentsupport-cultureandcom@abertawe.ac.uk 

Yr Ysgol Reolaeth

studentsupport-management@abertawe.ac.uk 

Ysgol Y Gyfraith 

studentsupport-law@abertawe.ac.uk 

Ysgol Y Gwyddorau Cymdeithasol

studentsupport-socialsciences@abertawe.ac.uk