OPSIYNAU AR GYFER AIL-WNEUD MODIWLAU / AIL- WNEUD LEFEL

Rhoddir penderfyniadau ail-wneud lefel astudio i fyfyrwyr Sylfaen, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 sydd wedi methu bodloni'r meini prawf dilyniant ar gyfer eu rhaglen. Os ydych yn derbyn penderfyniad i Ail-wneud Lefel Astudio pan ryddheir y canlyniadau naill ai ym mis Gorffennaf neu ym mis Medi, ystyriwch y ddau opsiwn isod. 

Bwysig nodi

Mae’n bwysig nodi nad yw’n bosibl ail-wneud modiwlau a fethwyd neu ail-wneud lefel a fethwyd ar yr un pryd ag astudio ar y lefel nesaf. Rhaid i chi basio eich lefel astudio bresennol cyn y gallwch symud ymlaen i'r lefel nesaf h.y. ni allwch ailadrodd modiwl/modiwlau a fethwyd ochr yn ochr â'r flwyddyn astudio nesaf. Ni fyddwch yn cael symud i'r lefel astudio nesaf tan i chi basio'r lefel astudio bresennol.

Opsiwn 1: Ail-wneud Lefel Astudio

Mae penderfyniad Ail-wneud Lefel Astudio yn golygu y byddwch yn ail-wneud pob modiwl ac ni fydd cap ar eich marciau. Gall ail-wneud pob modiwl eich helpu i ehangu a dyfnhau eich dealltwriaeth a chadw cynnwys yn fyw yn eich cof, i'ch helpu i wneud eich gorau ar y lefel astudio nesaf.

Ni fyddwch yn cario marciau ymlaen o’r flwyddyn flaenorol, a bydd eich marciau wrth Ail-wneud Lefel yn cyfrif tuag at eich canlyniadau hyd yn oed os byddant yn is na'ch ymdrech gyntaf ar y lefel.

Caiff myfyrwyr ail-wneud lefel astudio dim ond unwaith. Os nad ydych chi’n pasio’r flwyddyn ar yr ail ymdrech, cewch eich tynnu’n ôl o’ch astudiaethau.

Y CAMAU NESAF: Os ydych chi’n dymuno ail-wneud y lefel astudio (h.y. pob modiwl), nid oes angen ichi weithredu ymhellach dim ond cofrestru am y flwyddyn academaidd nesaf; cewch eich cofrestru ar gyfer ail-wneud y flwyddyn gyfan yn awtomatig.

Opsiwn 2: Ail-wneud Modiwlau a Fethwyd Yn Unig

Os cymeradwyir Cais am Ail-wneud Modiwlau a Fethwyd yn Unig, byddwch yn ail-wneud dim ond y modiwlau rydych chi wedi eu methu, a chario’r marciau ymlaen ar gyfer y modiwlau rydych chi wedi eu pasio. Gyda’r opsiwn hwn, mae angen ichi dalu am y modiwlau rydych chi’n eu hail-wneud yn unig. Sylwer y caiff marciau modiwlau sy’n cael eu hail-wneud eu capio ar 40% ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 2. Ni chaiff marciau eu capio ar gyfer myfyrwyr yn y Flwyddyn Sylfaen ac ym Mlwyddyn 1.

Y CAMAU NESAF: Os ydych yn dymuno ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig, cwblhewch Ffurflen Cais i Ail-wneud Modiwlau a Fethwyd.

Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno’ch cais cyn gynted â phosib, oherwydd efallai na fydd yn bosibl ystyried ceisiadau a gyflwynir ar ôl dechrau’r addysgu yn sesiwn academaidd 2024-25.

PA BYNNAG OPSIWN RYDYCH CHI’N EI DDEWIS, YSTYRIWCH Y PWYNTIAU PWYSIG ISOD:

  • I bob myfyriwr, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trafod yr opsiynau â naill ai Cyfarwyddwr y Rhaglen neu Bennaeth y Flwyddyn yn eich adran cyn gwneud penderfyniad terfynol. Yn ogystal â siarad â staff academaidd, mae Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr ar gael os oes gennych gwestiynau.

  • Ydy Cyllid Myfyrwyr yn eich ariannu? Mae ail-wneud astudiaethau yn gallu effeithio ar Gyllid Myfyrwyr.Am gyngor, cysylltwch â Arian@BywydCampws. Heb ystyried pa opsiwn rydych yn ei ddewis, rydym yn argymell eich bod yn darllen yr wybodaeth am Ailadrodd Lefel a Modiwlau yn y canllaw Amgylchiadau Esgusodol a Goblygiadau Ariannol.
  • Oes gennych chi fisa Haen 4? Os ydych chi’n Fyfyriwr Myfyriwr Rhyngwladol, mae’n rhaid ichi ofyn am gyngor gan dîm Rhyngwladol@BywydCampws ynghylch sut bydd ail-wneud blwyddyn astudio yn effeithio ar eich fisa.
  • Ydych chi’n fyfyriwr noddedig? Os ydych chi’n fyfyriwr noddedig, argymhellir yn gryf eich bod yn trafod eich opsiynau gyda’ch Noddwr cyn cyflwyno cais i ail-wneud eich modiwlau a fethwyd yn unig.Os ydych chi’n cyflwyno cais i ail-wneud eich modiwlau a fethwyd yn unig, caiff hwn ei anfon at eich noddwr i’w gymeradwyo.Gallai gymryd ychydig o ddyddiau i gadarnhau canlyniad eich cais, tra ein bod yn aros am ymateb oddi wrth eich noddwr.

CWESTIYNAU CYFFREDIN