Gallwch weld eich canlyniadau drwy fewngofnodi i'ch cyfrif MyUni a mynd i fewnrwyd y Brifysgol. Yna cliciwch ar yr adran ‘Manylion y Cwrs’ ar ochr chwith y ddewislen a dewiswch ‘Modiwlau 2024’ ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25.
Yn achos rhaglenni a addysgir a ddechreuodd ym mis Medi 2024
Byddwch yn gweld y marciau ar gyfer pob modiwl gyda'r canlyniadau sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gallwch ehangu pob modiwl er mwyn gweld marciau'r cydrannau asesu.
Sylwer mai rhai dros dro yw'r marciau tan iddynt gael eu cadarnhau gan fyrddau Asesu Diwedd y Flwyddyn ym mis Gorffennaf 2025.
Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir a ddechreuodd ym mis Ionawr 2024
Yn achos myfyrwyr a ddechreuodd ym mis Ionawr 2024, y canlyniadau a rhyddheir ym mis Chwefror 2025 fydd eich canlyniadau terfynol wedi'u cadarnhau ar gyfer eich rhaglen. Pan gaiff y canlyniadau eu rhyddhau, byddwch chi'n gweld:
- Eich penderfyniad diwedd lefel h.y. canlyniad terfynol eich blwyddyn academaidd.
- Dogfen canlyniadau atodedig a fydd yn agor mewn ffenestr arall.Bydd y ddogfen hon yn rhoi eglurhad manylach i chi ynghylch eich canlyniadau a'ch dewisiadau.