RHEOLIADAU ASESU AR GYFER RHAGLENNI PEIRIANNEG
Gallwch gael arweiniad ynghylch y rheolau asesu a dilyniant ar gyfer eich cwrs isod. Am ragor o wybodaeth, gweler Rheoliadau Asesu'r Brifysgol a'n Cwestiynau Cyffredin am Ganlyniadau.
Gallwch gael arweiniad ynghylch y rheolau asesu a dilyniant ar gyfer eich cwrs isod. Am ragor o wybodaeth, gweler Rheoliadau Asesu'r Brifysgol a'n Cwestiynau Cyffredin am Ganlyniadau.
Lefel Astudio | Yr hyn y mae angen i chi ei gyflawni | Gwybodaeth bwysig |
---|---|---|
Blwyddyn 0 (Myfyrwyr Lefel Sylfaen) |
Er mwyn pasio'r lefel hon, rhaid i chi gyflawni’r canlynol:
|
|
Myfyrwyr Blwyddyn 1, 2 a 3 sy'n Symud Ymlaen |
Er mwyn pasio'r lefel hon, rhaid i chi gyflawni’r canlynol:
|
Ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf:
Ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 3 ar gwrs MEng pedair blynedd:
|
Blwyddyn 3 (Myfyrwyr yn eu Blwyddyn Olaf) |
Er mwyn pasio’r lefel astudio, rhaid i chi gyflawni’r canlynol:
|
Ar gyfer myfyrwyr BEng ac MEng yn eu Blwyddyn Olaf:
Sylwer os ydych yn astudio BSc Peirianneg Meddalwedd, rydych yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau Asesu Gwyddoniaeth. |
Blwyddyn 4 (myfyrwyr MEng) |
Rhaid i chi gyflawni'r isod er mwyn ennill eich gradd MEng achrededig.
|
|
Sylwer: Er mwyn bod yn gymwys i ddilyn rhaglenni Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor, a pharhau ar y rhaglenni hyn, mae meini prawf ychwanegol y mae angen i chi eu bodloni. Cysylltwch â Thîm Cyflogadwyedd y Gyfadran os oes gennych ymholiadau penodol.
Rhaglenni MSc a Addysgir | Yr hyn y mae angen i chi ei gyflawni | Gwybodaeth bwysig |
---|---|---|
Rhaglenni a ddechreuodd ym mis Medi 2023 |
Rhennir y rhaglenni hyn yn ddwy ran:
|
Caiff myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni MSc a Addysgir a ddechreuodd ym mis Medi eu hasesu'n unol â'r rheoliadau anhyblyg. Bydd uchafswm marc o 50% ar gyfer pob ymgais atodol, oni bai bod Amgylchiadau Esgusodol wedi'u cymeradwyo. |
Rhaglenni gyda Blwyddyn mewn Diwydiant sy'n dechrau ym mis Medi |
Caiff y rhaglenni hyn eu cwblhau dros ddwy flynedd. Yn ystod Blwyddyn 1, caiff modiwlau a addysgir gwerth 120 o gredydau eu cwblhau o fis Medi tan fis Mehefin. Yn ystod Blwyddyn 2, bydd angen i chi gwblhau Rhan A (prosiect/traethawd hir gwerth 60 o gredydau) a Rhan 2 (modiwl Profiad Diwydiannol a gwblheir yn ystod y flwyddyn). Mae angen i chi ennill 120 o gredydau drwy basio modiwlau (gyda marc o 50% neu fwy) yn ystod Blwyddyn 1 er mwyn symud ymlaen i Flwyddyn 2. Cewch gyfle i wneud iawn am fodiwlau a fethwyd yn ystod cyfnod Arholiadau Atodol mis Awst ym Mlwyddyn 1. |
Bydd uchafswm marc o 50% ar gyfer pob ymgais atodol, oni bai bod Amgylchiadau Esgusodol wedi'u cymeradwyo. Os byddwch yn methu pasio Blwyddyn 1, yn dilyn cyfnod Arholiadau Atodol mis Awst, yna cewch eich trosglwyddo i garfan y rhaglen MSc berthnasol nad yw’n cynnwys lleoliad gwaith. Darllenwch eich Llawlyfr Cwrs am ragor o wybodaeth. |
Rhaglenni a ddechreuodd ym mis Ionawr 2024 |
Bydd angen i chi gwblhau a phasio (gyda marc o 50% neu fwy):
Cewch gyfle wneud iawn am fodiwlau a fethwyd yn ystod Cyfnod Arholiadau Atodol mis Awst 2024 (ar gyfer modiwlau Ionawr - Mehefin) a Chyfnod Arholiadau Atodol mis Mawrth 2025 (ar gyfer modiwlau Medi - Ionawr). |
Caiff myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni MSc a Addysgir a ddechreuodd ym mis Ionawr eu hasesu'n unol â'r rheoliadau hyblyg. Golyga hyn y gallwch weithio ar eich traethawd hir ochr yn ochr â'ch modiwlau a addysgir. Bydd uchafswm marc o 50% ar gyfer pob ymgais atodol, oni bai bod Amgylchiadau Esgusodol wedi'u cymeradwyo. |
Sylwer – nid yw'r arweiniad uchod yn berthnasol i'r rhaglenni canlynol:
Er bod y rhaglenni hyn yn dilyn rheoliadau hyblyg, mae ganddynt reoliadau penodol ac ni fydd yr wybodaeth uchod yn berthnasol iddynt. Os ydych ar y naill un o'r rhaglenni hyn, cysylltwch â Chydlynydd eich MSc am arweiniad.
Gofynion Pasio Penodol | Arweiniad |
---|---|
Os ydych wedi methu modiwl ac yn gweld EX wrth ochr marc cydran yn eich canlyniadau |
|
Os gwelwch QF wrth ochr canlyniad eich modiwl |
|
Ar gyfer y radd BEng, rhoddir pwysoliad o 1 i'ch cyfartaledd Blwyddyn 2 a phwysoliad o 2 i'ch cyfartaledd Blwyddyn 3 i gyfrifo cyfartaledd cyffredinol eich gradd wedi'i bwysoli.
Enghraifft |
---|
|
Ffiniau Dosbarthiadau: Gweler yr arweiniad ynghylch Dosbarthiadau Graddau Anrhydedd am ddadansoddiad o ffiniau dosbarthiadau graddau a gwybodaeth fanwl amdanynt.
Ar gyfer y radd MEng, rhoddir pwysoliad o 1 i'ch cyfartaledd ym Mlwyddyn 2, rhoddir pwysoliad o 2 i'ch cyfartaledd ym Mlwyddyn 3 a phwysoliad o 2 i'ch cyfartaledd ym Mlwyddyn 4 i gyfrifo cyfartaledd cyffredinol eich gradd wedi'i bwysoli.
Enghraifft |
---|
|
Ffiniau Dosbarthiadau: Gweler yr arweiniad ynghylch Dosbarthiadau Graddau Anrhydedd am ddadansoddiad o ffiniau dosbarthiadau graddau a gwybodaeth fanwl amdanynt.
Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwlau, a gaiff eu pwysoli yn unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.
Am ragor o wybodaeth, gweler Rheoliadau Asesu Ôl-raddedig y Brifysgol.
Os yw cyfartaledd eich gradd wedi'i bwysoli o fewn 2% i ffin y dosbarthiad gradd nesaf (sy'n cael ei alw'n 'Ffenestr Cyfle'), defnyddir yr egwyddorion mwyafrif (preponderance) a chyfradd welliant wrth ymadael (exit velocity). Mae hyn yn golygu y gallech ennill dosbarthiad uwch am eich gradd os ydych yn bodloni'r naill neu'r llall o'r egwyddorion hyn.
Darllenwch yr arweiniad canlynol ynghylch yr egwyddorion hyn.
Egwyddor | Arweiniad | Enghraifft |
---|---|---|
Yr Egwyddor Mwyafrif | Yn ôl yr egwyddor hon, rhaid bod hanner y credydau sy'n cyfrif tuag at eich gradd mewn dosbarthiad gradd uwch na chyfartaledd eich gradd wedi'i bwysoli.
Yn achos gradd BEng, byddai hyn yn golygu ennill 120 o gredydau mewn dosbarthiad gradd uwch ar draws Blynyddoedd 2 a 3. Yn achos y radd MEng, byddai hyn yn golygu ennill 180 o gredydau ar draws Blynyddoedd 2, 3 a 4 mewn dosbarthiad gradd uwch. |
Mae'r enghraifft hon yn berthnasol i'r radd BEng:
|
Yr Egwyddor Cyfradd Welliant wrth Ymadael | Rhaid i chi gyflawni cyfartaledd yn eich blwyddyn olaf sydd mewn dosbarthiad gradd uwch na chyfartaledd eich gradd wedi'i bwysoli. |
|
Mae blwyddyn y radd MEng yn atgyfnerthu ac yn estyn y gwaith rydych yn ei wneud yng nghynllun y radd BEng, ac yn cyflawni'r holl ofynion academaidd sy'n orfodol i'r rhai hynny sydd am gyrraedd statws Peiriannydd Siartredig (CEng).
Myfyrwyr o'r DU a myfyrwyr heb Fisa Llwybr Myfyrwyr | Myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o'r UE â Fisa Llwybr Myfyrwyr | |
---|---|---|
Trosglwyddo i'r MEng ym Mlwyddyn 2 | I fod yn gymwys i drosglwyddo, bydd angen i chi ennill cyfartaledd o 55% ym Mlwyddyn 2. |
I fod yn gymwys i drosglwyddo, bydd angen i chi ennill cyfartaledd o 55% ym Mlwyddyn 2. Dylech gyflwyno cais i drosglwyddo cyn mis Ebrill fel y gellir gwneud yr ymholiadau angenrheidiol ynghylch ceisiadau am Gadarnhad Derbyn i Astudio a fisa. Gweler arweiniad Trosglwyddo Graddau Meistr Integredig Tîm MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws am ragor o wybodaeth. |
Trosglwyddo i'r MEng ym Mlwyddyn 3 |
Os gwnaethoch ennill cyfartaledd o 55% ym Mlwyddyn 2, gallwch gyflwyno cais i drosglwyddo i'r radd MEng. Os na wnaethoch ennill cyfartaledd o 55% ym Mlwyddyn 2, gallwch ofyn i gael trosglwyddo i'r radd MEng ar ôl i'ch canlyniadau yn Semester 1 Blwyddyn 3 gael eu rhyddhau. Ystyrir canlyniadau fesul achos ac mae'n rhaid cael cymeradwyaeth academaidd. |
Ni all myfyrwyr â fisa Llwybr Myfyrwyr sydd eisoes ym Mlwyddyn 3 drosglwyddo i'r MEng ar yr adeg honno. Fodd bynnag, bydd yr opsiwn i gyflwyno cais i drosglwyddo i gwrs MSc ar gael i chi o hyd. |
Os ydych am gyflwyno cais i drosglwyddo i'r radd MEng, a wnewch chi ddilyn y camau ar ein tudalen Trosglwyddo i Gwrs Arall.
Ym mlwyddyn academaidd 2024/25, y dyddiad cau i fyfyrwyr Blwyddyn 3 drosglwyddo I'R rhaglen MEng neu ODDI ARNI fydd 6 Mai 2025.
Mae pob croeso i chi gysylltu â'n Tîm os hoffech drafod rheoliadau asesu eich cwrs a'r hyn y mae angen i chi ei gyflawni i basio yn y flwyddyn. Rydym ar gael wyneb yn wyneb, dros e-bost, ar y ffôn ac ar Zoom. Mae ein manylion cyswllt ar gael yma.