RHEOLIADAU ASESU AR GYFER RHAGLENNI GWYDDONIAETH
Gallwch gael arweiniad ynghylch y rheolau asesu a dilyniant ar gyfer eich cwrs isod. Am ragor o wybodaeth, gweler Rheoliadau Asesu'r Brifysgol a'n Cwestiynau Cyffredin am Ganlyniadau.
Gallwch gael arweiniad ynghylch y rheolau asesu a dilyniant ar gyfer eich cwrs isod. Am ragor o wybodaeth, gweler Rheoliadau Asesu'r Brifysgol a'n Cwestiynau Cyffredin am Ganlyniadau.
Lefel Astudio | Yr Hyn y Mae Angen i Chi ei Gyflawni | Gwybodaeth Bwysig |
---|---|---|
Myfyrwyr Blwyddyn 0, 1 a 2 |
Er mwyn pasio’r flwyddyn, mae'n rhaid i chi gyflawni'r canlynol:
|
Sylwer bod holl fodiwlau Blwyddyn 1 Ffiseg bellach yn fodiwlau CRAIDD ac felly nid yw'n bosibl digolledu modiwlau a fethwyd. Ar gyfer ymholiadau ynghylch Methiannau Cymwys (QF), gweler ein Cwestiynau Cyffredin am Ganlyniadau. |
Blwyddyn 3 (Myfyrwyr nad ydynt yn eu Blwyddyn Olaf) |
Er mwyn symud ymlaen i Flwyddyn 4 Gradd Gychwynnol Uwch, mae'n rhaid i chi gyflawni’r canlynol:
|
Sylwer bod prosiectau Blwyddyn 3 ac Ôl-raddedig a Addysgir ar gyfer Ffiseg bellach yn rhai craidd ac felly nid yw digolledu yn bosibl. |
Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 (Myfyrwyr Blwyddyn Olaf) |
Er mwyn ennill gradd, rhaid i chi gyflawni'r canlynol yn eich blwyddyn olaf:
|
|
Sylwer: Er mwyn bod yn gymwys i ddilyn rhaglenni Meistr Integredig a'r rhaglenni Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor, a pharhau ar y rhaglenni hyn, ceir meini prawf cymhwysedd ychwanegol. Ceir canllawiau ar y meini prawf yma.
Os oes gennych ymholiadau penodol am y meini prawf ar gyfer y cyrsiau Meistr Integredig, cysylltwch â'r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr.
Os oes gennych ymholiadau penodol am y meini prawf ar gyfer y rhaglenni Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor, cysylltwch â Thîm Cyflogadwyedd y Gyfadran.
Rhaglenni MSc a Addysgir | Yr Hyn y Mae Angen i Chi ei Gyflawni | Gwybodaeth Bwysig |
---|---|---|
Rhaglenni a ddechreuodd ym mis Medi 2024 |
Rhennir y rhaglenni hyn yn ddwy ran:
|
Caiff myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni MSc a Addysgir a ddechreuodd ym mis Medi eu hasesu'n unol â'r rheoliadau anhyblyg. Bydd uchafswm marc o 50% ar gyfer pob ymgais atodol, oni bai bod Amgylchiadau Esgusodol wedi'u cymeradwyo. Caniateir digolledu i fyfyrwyr sy'n methu hyd at 30 o gredydau dan yr amodau canlynol:
Sylwer - ni fydd hawl awtomatig i ddigolledu ac os yw myfyriwr yn gymwys, bydd angen iddo gyflwyno Cais am Ddigolledu o fewn 10 niwrnod gwaith i gyhoeddi ei ganlyniadau. Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin am Ddigolledu am ragor o wybodaeth. |
Rhaglenni a ddechreuodd ym mis Ionawr 2024 |
Bydd angen i chi gwblhau a phasio (gyda marc o 50% neu fwy):
Caniateir un cyfle i chi wneud iawn am fodiwlau a fethwyd yn ystod Cyfnod Arholiadau Atodol mis Awst 2024 (ar gyfer modiwlau Ionawr-Mehefin) a Chyfnod Arholiadau Atodol mis Mawrth 2025 (ar gyfer modiwlau Medi-Ionawr). Sylwer, efallai na fydd modd gwneud iawn am fethu mewn rhai modiwlau, sy'n golygu nad oes mecanwaith ailsefyll ar gyfer y modiwl. Os nad oes modd gwneud iawn am fethu modiwl, caiff hyn ei nodi yn llawlyfr eich cwrs. |
Caiff myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni MSc a Addysgir a ddechreuodd ym mis Ionawr eu hasesu'n unol â'r rheoliadau hyblyg. Golyga hyn y gallwch weithio ar eich prosiect/traethawd hir ochr yn ochr â'ch modiwlau a addysgir. Bydd uchafswm marc o 50% ar gyfer pob ymgais atodol, oni bai bod Amgylchiadau Esgusodol wedi'u cymeradwyo. Caniateir digolledu i fyfyrwyr sy'n methu hyd at 30 o gredydau dan yr amodau canlynol:
Sylwer - nid oes gan fyfyrwyr hawl awtomatig i ddigolledu ac os yw myfyriwr yn gymwys, mae'n rhaid iddo gyflwyno cais am Ddigolledu o fewn 10 niwrnod gwaith i’w ganlyniadau gael eu cyhoeddi. Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin am Ddigolledu am ragor o wybodaeth. |
Cyfrifir cyfartaledd wedi'i bwysoli cyffredinol eich gradd gan ddefnyddio'r fformiwlâu pwysoli canlynol:
Yna caiff y cydrannau hyn eu hadio i roi cyfartaledd wedi'i bwysoli eich gradd.
Enghraifft |
---|
|
Ffiniau Dosbarthiad: Gweler yr arweiniad ynghylch Dosbarthiad Graddau Anrhydedd am wybodaeth fanylach a thrylwyr am ffiniau dosbarthiad.
I fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar Radd Gychwynnol Uwch (4 Blynedd), cyfrifir cyfartaledd cyffredinol eich gradd gan ddefnyddio'r fformiwlâu pwysoli canlynol:
Yna caiff y cydrannau hyn eu hadio a'u rhannu â 10 er mwyn cyrraedd cyfartaledd cyffredinol eich gradd wedi'i bwysoli.
Ffiniau Dosbarthiad: Gweler yr arweiniad ynghylch Dosbarthiad Graddau Anrhydedd am wybodaeth fanylach a thrylwyr am ffiniau dosbarthiad.
Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwlau, a gaiff eu pwysoli yn unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.
Am ragor o wybodaeth, gweler Rheoliadau Asesu Ôl-raddedig y Brifysgol.
Os yw'ch cyfartaledd gradd wedi'i bwysoli o fewn 2% i ffin y dosbarthiad gradd nesaf (sy'n cael ei alw'n 'Ffenestr Cyfle'), defnyddir yr Egwyddorion Mwyafrif (preponderance) a Chyfradd Welliant wrth Ymadael (exit velocity). Mae hyn yn golygu y gallech ennill dosbarthiad uwch am eich gradd os ydych yn bodloni'r naill neu'r llall o'r egwyddorion hyn.
Darllenwch yr arweiniad canlynol ynghylch yr egwyddorion hyn.
Egwyddor | Canllawiau | Enghraifft |
---|---|---|
Yr Egwyddor Mwyafrif |
Ar gyfer yr egwyddor hon, rhaid i hanner y credydau sy'n cyfrif tuag at eich gradd fod mewn dosbarthiad uwch na'ch cyfartaledd gradd wedi'i bwysoli. Ar gyfer Gradd Gychwynnol 3 blynedd, byddai hyn yn golygu ennill 120 neu fwy o gredydau ar ffin y dosbarthiad uwch. Ar gyfer Gradd Gychwynnol Uwch 4 blynedd, byddai hyn yn golygu ennill 180 neu fwy o gredydau ar ffin y dosbarthiad uwch. |
|
Yr Egwyddor Cyfradd Welliant wrth Ymadael | Rhaid i chi gyflawni cyfartaledd yn eich blwyddyn olaf sydd mewn dosbarthiad gradd uwch na chyfartaledd wedi'i bwysoli eich gradd. |
|
Gall fod opsiwn i chi drosglwyddo i fersiwn o'ch cwrs sydd â gradd Meistr Integredig. Gall hyn gynnwys trosglwyddo o gwrs BSc i gwrs MChem, MMaths, MPhys neu MSci. Gweler y gofynion canlynol ar gyfer trosglwyddo i gwrs Meistr Integredig, neu barhau i'w astudio.
Cwrs | Cyfartaledd gofynnol ar gyfer y lefel | Modiwlau gorfodol | Dyddiad cau er mwyn trosglwyddo |
---|---|---|---|
MChem | Pasio'r flwyddyn gyntaf, 55% ar gyfartaledd ym mlwyddyn 2 a dim asesiadau atodol | CH-343, dim CH-344 | Ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 3, 13 Rhagfyr 2024 |
MMaths | Pasio'r Flwyddyn Gyntaf, 55% ar gyfartaledd ym Mlwyddyn 2 a dim asesiadau atodol | MA-252 | Dechrau Blwyddyn 3 (h.y. 1 Medi 2024) |
MPhys | Pasio'r Flwyddyn Gyntaf, 65% ar gyfartaledd ym Mlwyddyn 2 a dim asesiadau atodol | Ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 3, 11 Hydref 2024 | |
MSci | 55% ar gyfartaledd yn y Flwyddyn Gyntaf | Ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 3, 7 Ebrill 2025 |
Os ydych am gyflwyno cais i drosglwyddo, a wnewch chi ddilyn y camau ar ein tudalen Trosglwyddo i Gwrs Arall.
Mae pob croeso i chi gysylltu â'n Tîm os hoffech drafod rheoliadau asesu eich cwrs a'r hyn y mae angen i chi ei gyflawni i lwyddo yn y flwyddyn. Rydym ar gael wyneb yn wyneb, dros e-bost, ar y ffôn ac ar Zoom. Mae ein manylion cyswllt yma.