Mae gan Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd bolisi amgylchiadau esgusodol cadarn. Gwyliwch y fideo byr isod i ddarganfod y broses ar wneud cais am amgylchiadau esgusodol. Mae hwn hefyd ar gael yn yr Hwb CHHS (ar Canvas).
https://myuni.swansea.ac.uk/human-and-health-sciences/student-update/
Os oes gennych amgylchiadau esgusodol, cymrwch gip olwg ar y fideo byr isod sy’n egluro proses esgusodi'r Coleg. Gallwch weld polisi esgusodi’r Coleg ar ‘Hwb Gwybodaeth Myfyrwyr gyda Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd’ ar Canvas, yn ogystal â phob Cwestiwn Cyffredinol am esgusodi. Gallwch hefyd weld polisi'r Brifysgol yma: https://myuni.swansea.ac.uk/academic-life/academic-regulations/aqs-policies/policy-on-extenuating-circumstances/.
Gallwch wneud cais am estyniad o hyd at 7 diwrnod o'r dyddiad asesu gwreiddiol, neu, am ohiriad i'r ail ddyddiad cyflwyno (heb ei gapio) ar unrhyw asesiadau (gan gynnwys arholiadau, OSCEs, cyflwyniadau a gwaith cwrs).
I wneud cais am estyniad neu ohiriad, lawrlwythwch y ffurflen gais o Hwb Canvas y soniwyd amdano uchod ac anfonwch e-bost at Extenuation-medicinehealthlifescience@swansea.ac.uk heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod ar ôl dyddiad yr asesiad gwreiddiol, neu cyn bod yr asesiad yn ddyledus. Bydd angen tystiolaeth arnoch i wneud cais am esgusodi, cysylltwch â'r tîm os oes angen mwy o arweiniad arnoch ar hyn.
Ysgol Seicoleg- unig
Annwyl Fyfyriwr
Mewn ymateb i adborth myfyrwyr am amgylchiadau esgusodol (ECs) mae'r Brifysgol wedi bod yn gweithio ar ddatblygu un datrysiad digidol ar gyfer ECs sydd â'r bwriad o ddarparu profiad cyson i'n holl fyfyrwyr.
Mae’r Brifysgol yn lansio cyfres o gynlluniau peilot yn semester 2 i sicrhau bod y broses newydd yn diwallu anghenion myfyrwyr a nod yr e-bost hwn yw eich hysbysu bod eich rhaglen wedi’i chynnwys yn y peilot sy’n dechrau heddiw. Sylwch, ar gyfer y rhai sydd ar y flwyddyn sylfaen, parhewch i gysylltu â'r Coleg, ni fydd yn ofynnol i chi ddefnyddio'r system newydd hon.
I gael gwybodaeth am y broses newydd a sut mae cyflwyno cais EC, cliciwch ar y dolenni a ddarperir isod.
Cwestiynau Cyffredin - Amgylchiadau esgusodol https://myuni.swansea.ac.uk/academic-life/extenuating-circumstances/
Sut mae cyflwyno cais amgylchiadau esgusodol https://evision.swansea.ac.uk/ Fy Nghyfrif – Prifysgol Abertawe
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r tîm Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth drwy ein gwasanaeth Sgwrs Fyw. Hwb yr Ysgol Seicoleg – Prifysgol Abertawe
Dymuniadau gorau
Tîm Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth