Myfyrwyr Ysbrydoledig...
Gallwch bob amser gysylltu â'ch tîm Profiad Myfyrwyr i roi adborth, ond gallwch hefyd gysylltu â'ch Cynrychiolydd Coleg, sy'n cynrychioli myfyrwyr ar draws pob rhaglen yn y Coleg. Os oes gennych ddiddordeb bod yn gynrychiolydd ar gyfer eich rhaglen, rhowch wybod i ni fesul e-bost mychhshub@swansea.ac.uk Byddwn yn anfon fwy o wybodaeth am hyn yn hwyrach yn ystod y Semester.
Nawr am y rhan bwysig...cwrdd â'ch cynrychiolwyr Coleg; Megan Griffiths ac Emma Courtney-Owen. Maent wedi darparu trosolwg o'u rôl fel cynrychiolwyr Coleg ac maent yn estyn croeso isod. Rydym hefyd wedi cynnwys rhai awgrymiadau defnyddiol gan gynrychiolydd blaenorol y Coleg, Rinal Gudka, sydd bellach wedi graddio.
wgrymiadau Rinal ar gyfer myfyrwyr newydd...
“Gall y broses o wneud cais i Brifysgol ac o’r diwedd astudio mewn Prifysgol o gysur eich cartref fod yn gyfnod llawn pryder! Ond un peth rydw i wedi'i ddysgu o fy mhrofiad yw bod y bobl ym Mhrifysgol Abertawe yn eithaf cyfeillgar, ac os ydych am gyngor, ond gofyn sydd yn rhaid!
Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth! Gall hyn fod gan diwtoriaid, cyfoedion, neu aelodau eraill o staff rydych chi'n eu gweld yn cerdded o amgylch y lle. Ni fydd unrhyw un yn eich anwybyddu, ac os na allant eich cynorthwyo, byddant yn dweud wrthych ble i fynd am gymorth.
Ceisiwch gymryd rhan mewn pethau rydych chi wrth eich bodd yn eu gwneud ar wahân i'ch cwrs! Bydd hyn nid yn unig yn caniatáu i chi wneud mwy o ffrindiau ond bydd hefyd yn rhoi'r amser hwnnw i ffwrdd o astudio yn unig a bydd yn seibiant da.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymweld ag ystafelloedd dosbarth cyn i chi ddechrau neu o leiaf ychydig oriau cyn eich darlith gyntaf! Yn enwedig os nad ydych erioed wedi bod o'r blaen ... Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod chi'n gwybod ble mae’ch ystafelloedd darlithio a pha mor hir y byddai'n cymryd i chi gyrraedd yno. Peidiwch â gwneud y camgymeriad wnes i ar fy niwrnod cyntaf gan gyrraedd i'm darlith sefydlu gyntaf erioed 40 munud yn hwyr!
Yn olaf,... mwynhewch y traeth! Ewch i gael barbeciws gyda'ch ffrindiau, mynd am dro, archwilio ac yn bwysicaf oll cael hwyl!"
Megan Griffiths- Blwyddyn 3 Iechyd & Gofal Cymdeithasol…
"Croeso i Brifysgol Abertawe! Mae bod yn Gynrychiolydd Coleg wedi bod yn brofiad hyfryd. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi cael cyfle i gynrychioli myfyrwyr ac i allu cyfleu adborth rhwng myfyrwyr a staff y Brifysgol. Mae bod yn gynrychiolydd wedi caniatáu i mi ddylanwadu ar fy mhrofiad Prifysgol trwy fynychu cyfarfodydd i roi adborth ar faterion a gwneud newidiadau. Rwyf wedi gallu trefnu newidiadau yn y dyddiadau cyflwyno a sefydlu gyriadau rhoddion, ymhlith nifer o bethau eraill!
Rwy'n teimlo'n freintiedig fy mod wedi gallu helpu i leddfu straen asesu yn ystod Cymorth Astudio.
Hefyd, rydw i wedi mwynhau cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau’n fawr!
Rwy'n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael cyfle i fod yn Gynrychiolydd Coleg! Mae wedi caniatáu i mi dyfu fel person a datblygu sgiliau bywyd hanfodol."
Emma Courtney-Owen- Blwyddyn 3 Addysg & Seicoleg…
"Fy enw i yw Emma, rwy'n 21 mlwydd oed ac ar hyn o bryd yn fy 2il flwyddyn yn astudio Seicoleg ac Addysg ym Mhrifysgol Abertawe.
Rwyf wedi mwynhau astudio yn Abertawe yn fawr a chael ymgolli ym mhrofiad y myfyriwr. Rwy’n mwynhau fy nghwrs yn fawr iawn ac rwyf wedi cael cefnogaeth wych gan staff a darlithwyr ac wedi cael cyfleoedd na fyddwn wedi eu cael mewn unrhyw fan arall. Mae Abertawe yn lle gwych i fod yn fyfyriwr ac rydw i wedi cwrdd â rhai ffrindiau oes yma!
Mae llais y myfyriwr yn bwysig oherwydd mae'n rhoi cyfle i chi fel myfyriwr drafod pethau sy'n cael effaith arnoch chi. Mae'n rhoi llais i chi gyfathrebu unrhyw faterion, syniadau, awgrymiadau neu ganmoliaeth a allai fod gennych a chael canlyniad cadarnhaol i chi a myfyrwyr eraill.
Fy awgrymiadau fyddai cymryd rhan cymaint ag y gallwch mewn amryw o weithgareddau, megis chwaraeon / cymdeithasau, dod yn gynrychiolydd / llysgennad myfyrwyr neu wirfoddoli. Peidiwch â bod ofn siarad â phobl newydd a chofiwch fod pawb yn yr un cwch â chi! (Cofiwch gael hwyl a hefyd cofiwch gael eich nodiadau a'ch gwaith wedi'u gwneud cyn gynted â phosib a pheidiwch â'u gadael i'r funud olaf)!"