Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn cyflogaeth yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i bob myfyriwr israddedig sy’n astudio yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae credydau ynghlwm wrth y cynllun lleoliadau 12 mis (sy'n werth 120 o gredydau), a chaiff ei asesu fel rhan o raglen radd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y caiff eich perfformiad yn yr asesiad ac wrth gwblhau'r lleoliad effaith ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel blwyddyn o fodiwlau wedi'u haddysgu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith ond nid ydych chi am wneud lleoliad mewn diwydiant am flwyddyn, ewch i'n tudalen Chyflogadwyedd.
A HOFFECH CHI SIARAD GYDA YMGYNGHORYDD GYRFAOEDD?
Gall aelod o’r tîm helpu gyda chwestiynau am:
- Cyfleoedd Lleoliad a'r rolau cyffrous sydd ar gael.
- Cwestiynau am sut brofiad yw gwneud 'Blwyddyn mewn Diwydiant'.
- Cwestiynau gan fyfyriwr presennol ar Flwyddyn Mewn Diwydiant.
Bydd y Sgwrs Fyw ar gyfer Blwyddyn mewn Diwydiant yn ailagor ddydd Llun 10 Mehefin rhwng 2pm - 4pm a bydd ar gael bob yn ail wythnos o'r dyddiad hwn.
Beth yw manteision blwyddyn mewn diwydiant?
Gyda mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am raddedigion â phrofiad gwaith yn ogystal â chyflawniad academaidd, mae lleoliadau gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig i fyfyrwyr, ac maent hefyd yn cynnig manteision sylweddol.