Ar hyn o bryd rydym yn datblygu rhaglen gyffrous o weithgareddau ar gyfer eich Croeso a'ch Cynefino!

Yn y cyfamser, gwnewch nodyn o'r dyddiadau allweddol isod, edrychwch ar neges groeso gan eich Pennaeth Ysgol, a dilynwch ni ar Instagram i gael blas ar yr holl bethau cyffrous y byddwch chi'n gallu cymryd rhan ynddynt yn ein cymuned Ysgol a'r Gyfadran.

TAR Gynradd ac Uwchradd

Ar gyfer myfyrwyr TAR Cynradd ac Uwchradd, nodwch fod dyddiadau ar gyfer Wythnos Croeso ac addysgu yn wahanol i'n rhaglenni prif ffrwd. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld manylion eich rhaglen: TAR Cynradd ac Uwchradd

Pob rhaglen arall

Ar gyfer pob rhaglen arall, cynhelir eich Wythnos Croeso ac Ymsefydlu yn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 23 Medi. Bydd amserlenni'ch Wythnos Croeso ar gael ar y dudalen hon o 14 Medi 2024.

Croeso cynnes i fyfyrwyr newydd

Ar ran yr holl staff, mae'n bleser gennyf eich croesawu i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Rydym yn hyderus y byddwch yn cytuno a ni bod yr Ysgol yn amgylchedd croesawgar sy'n cyfoethogi bywydau myfyrwyr, lle byddwch yn ffynnu wrth i chi symud ymlaen drwy eich astudiaethau. Mae eich rhaglen wedi cael ei llunio'n ofalus i'ch herio chi ond hefyd i’ch arfogi â sgiliau a gwybodaeth gydol oes a fydd yn eich paratoi ar gyfer y cyfleoedd o'ch blaenau yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddwch yn ymuno â chymuned fywiog o wyddonwyr cymdeithasol ac rydym wir yn gobeithio, beth bynnag fydd disgyblaeth eich pwnc, y byddwch yn gwneud ffrindiau a chysylltiadau gydol oes sy'n dangos yr effaith y gall y gwyddorau cymdeithasol ei chael ar gymdeithas. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi i gyd yn yr Wythnos Groeso a'ch cyflwyno i'r staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol gwych a fydd yn eich cefnogi yn ystod eich astudiaethau. 

Prof Debbie Jones - Pennaeth yr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Llun proffil o Debbie Jones