CYMERWCH RAN YN Y PROSESAU SICRHAU ANSAWDD LEDLED Y BRIFYSGOL

Rydym ni wedi cymryd camau mawrion yn ystod y blynyddoedd diwethaf ym maes partneriaeth myfyrwyr ac ymgysylltu â myfyrwyr. Mae’r system Cynrychiolwyr Myfyrwyr, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, wedi blodeuo’n rhwydwaith ffyniannus sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo llais y myfyrwyr ar draws ein cymuned.

Bellach, mae’n bleser gan ein tîm Gwasanaethau Addysg, eto mewn partneriaeth â’r Undeb a chymorth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, gyhoeddi cyfnod nesaf ein menter partneriaeth myfyrwyr sef Cymuned Adolygu Myfyrwyr.

Rydym ni bob amser yn barod i groesawu myfyrwyr fel adolygwyr newydd i ymuno â’r tîm. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth ac ennill profiad proffesiynol gwerthfawr, parhewch i ddarllen.

Four students sitting around a computer.

Dywedodd un Adolygwr Myfyrwyr: "Rwyf wedi mwynhau bod yn aelod o’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn fawr iawn. Rhoddir cyfle i chi ddysgu gan aelodau pwyllgor profiadol a chael mewnwelediad ardderchog o ran sut y mae’r Brifysgol yn adolygu ei rhaglenni. Mae’n brofiad diddorol a gwobrwyol a gall fod yn hynod o werthfawr ar gyfer myfyrwyr sy’n bwriadu gweithio mewn amgylchedd academaidd yn y dyfodol”.