Cael eich cefnogi i gychwyn busnes
Founders Fund
Mae dechrau busnes yn haws nag ydych chi'n meddwl a gall fod yn hynod werthfawr. Mae hefyd yn un o'r ffyrdd gorau i ddatblygu sgiliau busnes – gallech chi ddysgu mwy drwy gynnal eich busnes eich hun am 6 mis nag y byddech chi wrth weithio am ychydig flynyddoedd mewn cwmni. Felly hyd yn oed os nad yw'ch syniad cyntaf yn gweithio, byddwch yn ennyn profiad a fydd yn eich gwneud chi’n llawer mwy cyflogadwy
Mae'r Founders Funds yn gyfleoedd cyllid sydd ar gael i entrepreneuriaid sy’n fyfyrwyr ac yn raddedigion (o fewn 2 flynedd ar ôl graddio) Prifysgol Abertawe i helpu i ddatblygu, lansio a thyfu eu busnes, eu gyrfa lawrydd neu fenter gymdeithasol.
Hysbysiad Pwysig
- Caniateir i'r rhai hynny sydd â diddordeb yn y cronfeydd gyflwyno cais am un opsiwn cyllid ar y tro. Darllenwch yr wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y gronfa o’ch dewis i sicrhau eich bod yn cyflwyno cais am yr opsiwn cywir.
- Mae cystadleuaeth frwd am y cyllid hwn a swm cyfyngedig sydd gennym i'w ddyrannu bob blwyddyn. Mae'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yn cadw'r hawl i dynnu'r cyfle cyllid ar unrhyw adeg.
- Caiff ceisiadau eu hadolygu ar ddiwedd pob mis. Dylech ganiatáu hyd at 6 wythnos i gael eich hysbysu ynghylch canlyniad eich cais.
- Y swm uchaf y gall myfyrwyr a graddedigion ei dderbyn gan y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yw £3,000. Er enghraifft, os byddwch chi'n llwyddiannus wrth ymgeisio am Founders Fund 1,000 a 3,000, y cyfanswm y gallech ei dderbyn fyddai £3,000.
- Ni chaniateir i fyfyrwyr neu raddedigion sydd hefyd wedi derbyn £3,000 o gystadlaethau Big Pitch blaenorol gyflwyno cais gan eu bod eisoes wedi cyrraedd y cyfanswm sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion.
Hyd at £500 am syniadau busnesau newydd
Nod Founders Fund 500 yw helpu myfyrwyr a graddedigion i gymryd y cam cyntaf at ddechrau eu busnes eu hunain, i gael gyrfa ar eu liwt eu hunain neu ddechrau menter gymdeithasol. Bydd y cyllid grant yn helpu i droi eich syniad entrepreneuraidd yn realiti drwy estyn llaw i entrepreneuriaid y dyfodol sydd angen hwb ariannol.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy a gwneud cais.
Hyd at £1,000 ar gyfer busnesau newydd
Mae Founders Fund 1,000 yn helpu myfyrwyr a graddedigion sydd wedi cofrestru fel unig fasnachwr neu gwmni cyfyngedig ac sydd o fewn 12 mis ar ôl lansio eu busnes, gyrfa llawrydd neu fenter gymdeithasol.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy a gwneud cais.
Hyd at £3,000 ar gyfer tyfu busnesau presennol
Mae Founders Fund 3,000 yn darparu cyllid grant i fyfyrwyr a graddedigion i helpu i dyfu eu busnesau presennol ar raddfa fwy. Mae ar gyfer y rhai hynny sydd wedi bod yn masnachu ers dros 12 mis ac sydd angen arian ychwanegol i helpu i symud eu busnes i'r lefel nesaf.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy a gwneud cais.
Y Launchpad
Mae'r Launchpad yn fan deori ar ei newydd wedd ar gyfer darpar entrepreneuriaid a pherchnogion busnes i'w ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd, ymchwil i’r farchnad a chysylltu â chyd-entrepreneuriaid.
Wedi’i leoli yn adeilad Talbot, mae’r gofod hwn yn cynnig bwth cyfarfod caeëdig, fel y gallwch gwrdd â darpar gleientiaid neu fentoriaid yn breifat. Mae ganddo hefyd fan cyfarfod mawr os oes gennych chi dîm i gefnogi eich busnes, yn ogystal ag ardal i gynnal sgyrsiau mwy anffurfiol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r gofod hwn, anfonwch e-bost at enterprise@swansea.ac.uk.
Cymorth busnes
Mae’r Tîm Mentergarwch wrth law i gynnig cymorth busnes un-i-un pwrpasol i’n myfyrwyr a’n graddedigion. Boed hyn drwy gwrdd ag un o’r tîm, neu eich cael chi mewn parau gyda mentor o blith ein cyn-fyfyrwyr rhagorol sy’n gweithio ochr yn ochr â ni.
Gallwn eich helpu i ddechrau llunio cynlluniau busnes, wrth ddatrys elfennau ariannol ac ymarferol fel ble i fasnachu a'ch cysylltu ag entrepreneuriaid lleol yn eich maes.
Os hoffech chi gael cyfarfod am ddechrau busnes gydag un o’r tîm, e-bostiwch enterprise@swansea.ac.uk.
Mentora
Mae gan y Tîm Menter gysylltiadau helaeth â chyn-fyfyrwyr, entrepreneuriaid lleol a rhwydweithiau ar draws de Cymru i gefnogi eich taith cychwyn busnes. Ar ôl cwrdd â ni, byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a fydd yn ein tyb ni yn gallu eich arwain a'ch mentora ar eich taith i gychwyn busnes.
Entrepreneur Preswyl
Mae ein Entrepreneur Preswyl yn ymuno â ni unwaith y mis i gynnig cyfarfodydd un-i-un gyda'n myfyrwyr a’n graddedigion sy’n berchnogion busnes. Yn y cyfarfodydd hyn, gallwch ofyn cwestiynau iddynt am bopeth ynglŷn â rheoli busnes!
Mae Chris yn entrepreneur profiadol iawn sydd wedi sefydlu 8 busnes ac wedi bod yn gyfarwyddwr mewn 14 cwmni cyfyngedig. Mae Chris wedi cynnal cwmnïau technoleg, manwerthu, meddalwedd, gwasanaethau proffesiynol, trydydd sector a marchnata. Mae wedi gweithio mewn 4 gwlad Ewropeaidd ac wedi ymgymryd â phrosiectau ac wedi cyflwyno hyfforddiant yn Bahrain, Twrci, Yr Aifft ac UDA. Yn ystod ei 35 o flynyddoedd o brofiad ymgynghorol, mae Chris wedi gweithio ar y cyd â sefydliadau academaidd, asiantaethau datblygu ac ystod eang o gwmnïau gan gynnwys mwy na 400 o brosiectau gwella busnes i fusnesau bach a chanolig. Mae Chris yn fedrus iawn wrth fentora ar sail un i un a chyflwyno i grŵp. Yn fwy diweddar mae hyn wedi cynnwys cynnig cymorth mentora ar y cyd â Menter a Busnes, Rhaglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru yn ogystal â chyflwyno gweithdai marchnata digidol ar y cyd â Chyflymu Cymru i Fusnesau. Mae Chris wedi dylunio a chyflwyno rhaglenni datblygu sgiliau a rôl tîm ar gyfer y byd academaidd a'r byd busnes, gan gynnwys rhaglenni hyfforddiant rheoli mewn sefydliadau fferyllol a thechnegol rhyngwladol. Mae wedi dylunio rhaglenni megis rhaglen Pontio Arloesedd a ariennir gan yr EPSRC sydd â'r nod o fasnacheiddio ymchwil academaidd ac mae wedi gweithio ar raglen LEAD Cymru a'r Rhaglen Sbarduno ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ddiweddar cafodd Chris ei gomisiynu i ddylunio a chyflwyno gweithdai ar ran BUCANIER (bwyd a diod, y gwyddorau bywyd ac ynni) yng Nghymru ac ar ran CALIN (sefydliadau’r gwyddorau bywyd a meddygol yng Nghymru ac Iwerddon). Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel ymgynghorydd i'r Comisiwn Ewropeaidd ar gyflwyniadau grant EISMEA-I3.
Masnachu ar y Campws
Mae masnachu prawf yn ffordd wych o gael blas ar y farchnad rydych chi'n cychwyn ynddi. Drwy’r Tîm Mentergarwch, gallwch fasnachu ar draws Campws Singleton a Champws y Bae gyda’n stondinau masnachu pwrpasol.
Gyda chymuned lewyrchus o fyfyrwyr, bydd gennych gynulleidfa frwd a fydd yn galluogi eich busnes i ennyn momentwm a dilynwyr, yn ogystal ag adborth ar gynnyrch newydd neu lansiadau.
Siop Pop-Up y Undeb Myfyrwyr
Ar hyn o bryd mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe siop dros dro ar gael yn Nhŷ Fulton. Mae'r lle ar gael rhwng 10am a 4pm. Ar hyn o bryd ni chaniateir i werthwyr bwyd na chwmnïau arlwyo ddefnyddio'r lle.
Llenwch ein ffurflen masnachu ar y campws, gan ddewis y Siop Dros Dro fel y lleoliad masnachu o'ch dewis i ddefnyddio'r lle. Os oes gennych ddiddordeb mewn masnachu ar y campws, cliciwch yma i gwblhau'r ffurflen ymholiad.