Gwybodaeth am Gynllun Myfyrwyr Llysgennad Prifysgol Abertawe:
Mae'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn meddu ar gronfa o oddeutu 500 o fyfyrwyr llysgennad mewn blwyddyn academaidd arferol, gyda chymysgedd o fyfyrwyr llysgennad sy'n dychwelyd a rhai sydd newydd gael eu recriwtio o bob pwnc a lefel astudio.
Ein nod yw ‘Creu Diwylliant o Gymuned ac Ymrwymiad’ sy'n galluogi ac yn grymuso myfyrwyr llysgennad i ffynnu a chyfrannu at y Brifysgol yn ehangach a'i heffaith yn fyd-eang.
Mae myfyrwyr llysgennad yn gwneud cyfraniad anferth at ein digwyddiadau ac maent yn gyfrifol am sicrhau bod ymwelwyr â'r Brifysgol yn cael profiad pleserus o safon uchel. Maent yn cynrychioli'r Brifysgol mewn amrywiaeth o rolau'n fewnol ac yn allanol, ac yn tywys darpar fyfyrwyr a'u rhieni o gwmpas campysau'r Brifysgol ar deithiau a drefnwyd.
Mae myfyrwyr llysgennad yn cyflawni rôl hollbwysig wrth gynorthwyo rhanddeiliaid a chleientiaid y cynllun gyda phob agwedd ar eu hymweliad, yn ogystal â chyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i weithio gyda cholegau ac adrannau ym mhob rhan o'r Brifysgol. Yn ogystal â bod yn gaffaeliad i'r Brifysgol, gall myfyrwyr llysgennad hefyd fagu profiad gwerthfawr iddynt hwy eu hunain a'u Hynt Graddedigion. Mae'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n hybu eich datblygiad personol a'ch sgiliau cyflogadwyedd, er mwyn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith ar ôl i chi raddio o Abertawe.
Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau a chyfleoedd i fyfyrwyr llysgennad yn cynnwys diwrnodau agored, ymgyrchoedd galw, ymweliadau ysgolion, cynorthwyo adrannau gyda gwaith gweinyddu, ac ateb llinellau ffôn yn ystod y cyfnod Clirio, ymysg pethau eraill. Mae cyfadrannau ac adrannau'n tueddu i fod yn gyfrifol am gyfleoedd eraill, megis gweminarau, grwpiau ffocws, cynorthwyo pobl sy'n ymweld â'r Brifysgol a digwyddiadau eraill ar y campws ac oddi arno.