Cwestiynau Cyffredin
Dechrau arni
Pwy fydd yn cysylltu â mi gyda gwybodaeth am fy nghontract?
Ar ôl i chi dderbyn cadarnhad gan Reolwr y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad eich bod wedi cael cynnig swydd Myfyriwr Llysgennad, bydd Tîm AD Prifysgol Abertawe yn cysylltu â chi i ddechrau eich gwaith papur ar gyfer cynefino.
Gan eu bod yn cynefino hyd at 200 o Fyfyrwyr Llysgennad newydd, efallai y bydd yn cymryd ychydig wythnosau i hyn gael ei brosesu. Ymatebwch yn brydlon i e-byst oddi wrthynt er mwyn dechrau eich contract cyn gynted â phosibl.
Pa ddogfennau y bydd angen i mi eu darparu yn ystod fy nghyfnod cynefino?
Bydd aelod o'r tîm Adnoddau Dynol yn cysylltu â chi er mwyn cwblhau Gwiriad Hawl i Weithio. Bydd angen eich pasbort arnoch, yn ogystal â Cherdyn Hawlen Breswylio Biometrig (BRP) ar gyfer Myfyrwyr Haen 4.
Pa ffurflenni bydd angen i mi eu llenwi?
Ar ôl i chi gael eich cynefino gan yr adran AD, llenwch Ffurflen Casglu Gwybodaeth Cronfa Ddata'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad. Bydd hyn yn ein galluogi i deilwra cyfleoedd gwaith i chi.
Sut galla i gael mynediad at fy manylion i staff?
Cysylltwch â'r Gwasanaethau Cwsmeriaid, sydd yn Llyfrgell Singleton a Llyfrgell y Bae. Maen nhw ar gael o ddydd Llun i Ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm ar 01792 295500 a gallan nhw roi eich e-bost, eich rhif adnabod a chyfrinair dros dro i chi.
Pam mae angen manylion i staff arna i?
Er nad yw'n hanfodol cael eich manylion i staff, gellir eu defnyddio i fewngofnodi i'r porth staff ar-lein, sef ABW, lle gallwch weld eich slipiau cyflog. Efallai bydd yn ofynnol hefyd ar gyfer rhai cyfleoedd gwaith i chi fewngofnodi fel aelod staff i systemau penodol gan ddefnyddio manylion mewngofnodi aelod staff, yn hytrach na mewngofnodi fel myfyriwr, e.e. mewngofnodi i Microsoft Teams yn ystod ymgyrchoedd ffonio.
Beth sy'n digwydd ar ôl i fy nghytundeb gael ei gadarnhau?
Ar ôl i'ch contract gael ei lofnodi a'i ddychwelyd i'r adran AD, rydych yn barod i ddechrau gweithio fel Myfyriwr Llysgennad. Bydd eich gwybodaeth o'r Ffurflen Casglu Gwybodaeth i'r Gronfa Ddata yn eich galluogi i ddechrau derbyn cyfleoedd gwaith drwy e-bost.
Cyflog Myfyrwyr Llysgennad
Sut mae'r system dalu yn gweithio?
Cewch eich talu am y mis ar ddiwrnod gwaith olaf y mis canlynol. Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio ar Ddiwrnod Agored ym mis Hydref, byddwch yn cael eich talu am y gwaith hwn ar ddiwrnod gwaith olaf mis Tachwedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi ac yn allgofnodi ym mhob digwyddiad er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich cyfrif.
Nid yw fy nghyflog yn edrych yn gywir?
Mae cyflog Myfyrwyr Llysgennad yn gweithredu un mis mewn ôl-ddyledion. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael eich talu ar ddiwrnod gwaith olaf y mis hwn am oriau a weithiwyd y mis diwethaf. Os ydych chi'n teimlo nad yw eich cyflog yn edrych yn gywir am eich oriau gwaith y mis diwethaf, cysylltwch â'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad drwy e-bostio studentambassadors@abertawe.ac.uk
Bwrsariaeth Cyflogadwyedd
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i'ch helpu i feithrin eich sgiliau cyflogadwyedd.
Ni ddylech fod ar eich colled os ydych chi'n gwneud gwaith gwirfoddol neu ddi-dâl, os ydych chi'n mynd i gyfweliad ym mhen draw'r wlad, neu os oes angen i chi brynu cyfarpar arbenigol ar gyfer swydd. Ar gyfer unrhyw gost fel hyn, gallwch gyflwyno cais am hyd at £100 i helpu eich gyrfa.
Gallwch ddysgu rhagor ar hafan y Parth Cyflogaeth
Am fanylion llawn am yr hyn sydd wedi'i gynnwys, cliciwch yma: Arweiniad ynghylch y Fwrsariaeth Cyflogadwyedd.
Rydw i wedi cael fy nhrethu
Cysylltwch ag HMRC am ad-daliad treth ac i newid eich côd treth.
Ymholiadau am y Côd Treth – Treth Incwm (HMRC)
Rhif Yswiriant Gwladol a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol – (HMRC)
A fydd fy nghostau teithio'n cael eu talu?
Gan amlaf, cyfrifoldeb y Myfyriwr Llysgennad yw cyrraedd ei weithle ar amser.
Haen 4 a Gweithio
Sawl awr y caf i weithio yn ystod y tymor?
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sydd â Fisa Myfyriwr/Haen 4, caniateir i chi weithio neu wirfoddoli:
- Am uchafswm o 20 awr yr wythnos o ran gwaith â thâl neu waith di-dâl yn eich holl swyddi yn ystod y tymor i fyfyrwyr gradd; neu
- am uchafswm o 20 awr yr wythnos drwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr ôl-raddedig, oherwydd ystyrir nad yw myfyrwyr ymchwil yn dilyn tymhorau; neu
- am uchafswm o 10 awr yr wythnos o ran gwaith â thâl neu waith di-dâl yn eich holl swyddi yn ystod y tymor i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau ar lefel sy'n is na gradd (yn is na lefel 6 NVQ).
Mae hyn yn cynnwys pob swydd sydd gennych yn y Brifysgol a'r tu allan iddi. Er enghraifft, os oes gennych swydd yn y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad a swydd yn Tesco, bydd yn rhaid i chi rannu 20 awr rhwng y ddwy swydd hyn er mwyn cydymffurfio â chyfyngiadau eich fisa. Pan wnaeth yr adran AD eich cynefino, byddent wedi rhoi gwybod i dîm y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad faint o oriau mae eich fisa yn caniatáu i chi eu gweithio ac unrhyw ymrwymiadau eraill sydd gennych.
Eich cyfrifoldeb chi fel deiliad fisa Myfyriwr/Haen 4 yw rheoli'r oriau rydych chi'n eu gweithio a sicrhau nad ydych chi'n mynd y tu hwnt i'r terfyn cyfreithiol o ran nifer yr oriau y mae eich fisa yn caniatáu i chi eu gweithio.
Sawl awr y caf i weithio y tu allan i'r tymor?
Caniateir i fyfyrwyr sydd â Fisa Myfyriwr/Haen 4 weithio mwy nag 20 awr yr wythnos y tu allan i'r tymor (yn ystod gwyliau'r haf yn unig, yn unol ag arweiniad adran AD y Brifysgol). Fodd bynnag, mae angen cadarnhau gwyliau'n ffurfiol gyda'r adran AD/y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad cyn i'r gwaith gael ei ddyrannu/cyn ymgymryd ag ef. Bydd uchafswm o 20 awr yr wythnos o hyd ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd â fisa Haen 4 yn ystod gwyliau'r haf oherwydd ystyrir y bydd yn amser tymor iddyn nhw o hyd wrth iddynt gwblhau eu traethodau hir/prosiectau ymchwil (oni bai eu bod yn cymryd cyfnod ffurfiol o wyliau blynyddol, wedi'i gadarnhau’n ffurfiol gyda'r adran AD/y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad cyn i'r gwaith gael ei ddyrannu/cyn ymgymryd ag ef).
Mae Rhyngwladol@BywydCampws wedi llunio taflen arweiniad i fyfyrwyr rhyngwladol sydd â chyflogaeth neu sy'n chwilio amdani. Ewch i'w tudalen we ynghylch Gweithio yn ystod eich astudiaethau ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol er mwyn cyrchu'r daflen arweiniad.
Mae gen i swydd ran-amser arall; sawl awr y caf i weithio fel Myfyriwr Llysgennad?
Er mwyn rhannu eich oriau Haen 4 rhwng sawl contract, mae angen i chi roi gwybod i'ch dau reolwr llinell a'r adran AD. Eich dewis chi yw faint o oriau sy'n cael eu dyrannu i bob contract, ond mae'n rhaid i chi gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad a'r adran AD os bydd hyn yn debygol o newid bob wythnos.
Cyfleoedd Gwaith
Sut rydw i'n canslo cyfle gwaith?
E-bostiwch studentambassadors@abertawe.ac.uk gan roi o leiaf 48 awr o rybudd os oes rhaid i chi ganslo cyfle gwaith (os ydych chi'n canslo ar gyfer dydd Llun, rhaid rhoi rhybudd erbyn 4pm ddydd Gwener). Byddwch yn wynebu camau disgyblu os nad ydych yn rhoi rhybudd yn unol â'r amserau uchod.
A gaf i gyfnewid sifftiau â Myfyriwr Llysgennad arall?
Peidiwch â chyfnewid sifft â Myfyriwr Llysgennad arall heb ganiatâd gan aelod o’r staff. Ar ôl i chi ganslo cyfle gwaith, bydd y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn ei ail-hysbysebu i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf.
Beth sy'n digwydd pan fydd adran yn canslo sifft roeddwn i’n disgwyl ei gweithio?
Disgwylir i adrannau roi 48 awr o rybudd ar gyfer y gwaith y maent wedi'i drefnu hefyd. Os caiff eich sifft ei chanslo â llai na 48 awr o rybudd, cewch eich talu o hyd.
Sut y dyrennir sifftiau?
Yr Adran a gyflwynodd y cyfle gwaith sy’n penderfynu ar hyn. Gellir dyrannu sifftiau ar sail y cyntaf i'r felin, neu gellir eu dyrannu ar sail sgiliau neu brofiad blaenorol Myfyriwr Llysgennad.
Oes enghreifftiau o waith y gallwn fod yn rhan ohono?
Mae amrywiaeth eang o waith ar gael i chi fel Myfyriwr Llysgennad. Gall hyn amrywio o gyfleoedd untro, gwaith hirdymor neu interniaethau. Dyma rai enghreifftiau:
- Diwrnodau Agored
- Ymweliadau a theithiau o'r campws
- Digwyddiadau’r Glas a seremonïau Graddio
- Ffair Yrfaoedd
- Cymorth Gweinyddol
- Anfon llythyrau
- Creu Cynnwys ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol
- Unibuddy
Rhagor o gyfleoedd gwaith i'w gweld yma
Uwch-fyfyrwyr Llysgennad a Phwyllgor yr Uwch-fyfyrwyr Llysgennad
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Myfyriwr Llysgennad ac Uwch-fyfyriwr Llysgennad?
Caiff Uwch-fyfyrwyr Llysgennad eu talu ar radd uwch na Myfyrwyr Llysgennad i adlewyrchu'r lefel uwch o gyfrifoldeb. Bydd Uwch-lysgenhadon yn rheoli eu tîm eu hunain yn ystod Diwrnodau Agored ac yn aml bydd ganddynt fynediad at gyfleoedd gwaith mwy arbennig, megis teithio yn y DU i ymweld â Ffeiriau UCAS.
Pryd caf i gyflwyno cais i fod yn Uwch-fyfyriwr Llysgennad?
I gyflwyno cais i fod yn Uwch-fyfyriwr Llysgennad, rhaid bod gennych o leiaf flwyddyn o brofiad fel Myfyriwr Llysgennad. Fel arfer bydd modd cyflwyno cais ar ôl y Pasg, ond gall hyn amrywio.
Pa rolau sydd ar gael ar Bwyllgor yr Uwch-fyfyrwyr Llysgennad?
- Ysgrifennydd Cymdeithasol - sy'n trefnu digwyddiadau cymdeithasol i'r Myfyrwyr Llysgennad
- Ysgrifennydd y Cyfryngau Cymdeithasol - sy'n rheoli cyfrifon Facebook, Instagram a Twitter y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad
- Ysgrifennydd - sy'n trefnu cyfarfodydd y Pwyllgor
- Swyddog Cyswllt Cyfathrebu - sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau Myfyrwyr Llysgennad Mae'n cyfleu gwybodaeth am ddigwyddiadau a chodi arian
- Swyddog Codi Arian - sy'n trefnu digwyddiadau i godi arian at elusennau lleol
Caiff rhagor o wybodaeth am y rolau a'u cyfrifoldebau ei hysbysebu i'r Uwch-fyfyrwyr Llysgennad ar ddechrau'r Flwyddyn Academaidd