Am Gyfleoedd Gwaith
Yn ystod y blynyddoedd ers sefydlu'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad, mae rôl y Myfyriwr Llysgennad wedi ehangu y tu hwnt i'r bwriad gwreiddiol.
Sefydlwyd y Cynllun yn 2010 i gefnogi Recriwtio Myfyrwyr a'u digwyddiadau yn unig. Dros y blynyddoedd, mae'r Cynllun wedi datblygu i fod yn adnodd amhrisiadwy i'r Brifysgol. Mae Myfyrwyr Llysgennad wedi cefnogi'r gwaith o gyflwyno nifer o ddiwrnodau agored, wedi darparu amrywiaeth o gymorth i wahanol adrannau, wedi ymddangos mewn deunydd marchnata, wedi cefnogi'r gwaith o ddarparu'r Canolfannau Profi Covid ar y safle, wedi cymryd rhan mewn ymgyrchoedd galw cenedlaethol a rhyngwladol a llawer mwy.
Mae Myfyrwyr Llysgennad yn chwarae rôl enfawr yn ein digwyddiadau; maent yn gyfrifol am sicrhau bod ymwelwyr â'r Brifysgol yn derbyn profiad hwylus o safon, gan gynrychioli'r Brifysgol mewn amrywiaeth o rolau a dangos darpar fyfyrwyr a rhieni o gwmpas y Brifysgol ar deithiau a drefnir o amgylch y campws.
Isod ceir rhestr o gyfleoedd gwaith gwahanol y gall Myfyrwyr Llysgennad gymryd rhan ynddynt.