Mae Techneg STAR yn ddull profedig o helpu ymgeiswyr i strwythuro eu hatebion mewn ceisiadau a chyfweliadau. Mae'n helpu i wneud atebion yn fwy cryno a strwythuredig mewn ffordd y gall yr asesydd ei deall yn hawdd. Mae hefyd yn ei gwneud yn haws teilwra'r atebion i'r rôl y cyflwynir cais amdani.
- Sefyllfa 10% – Disgrifiwch y digwyddiad neu'r sefyllfa a oedd yn eich wynebu (e.e. gweithio ar ddiwrnod agored i israddedigion pan oedd cyfyngiadau Covid-19 ar waith).
- Tasg 10% – Esboniwch y dasg/cyfrifoldeb a roddwyd i chi neu'r broblem roedd yn rhaid i chi ei goresgyn (e.e. bod yn gyfrifol am reoli ymweliadau gan ymgeiswyr â llety pan oedd amserau aros hir oherwydd cyfyngiadau Covid-19).
- Cam gweithredu 70% – Esboniwch sut gwnaethoch gyflawni'r dasg/cyfrifoldeb dan sylw neu oresgyn y broblem (e.e. drwy asesu'r sefyllfa a rhoi adborth i'r cynhorthwy-ydd goruchwylio. Gweithio gyda'r tîm gwasanaethau preswyl i agor llety arall i edrych arno a chydymffurfio â'r cyfyngiadau presennol).
- Canlyniad 10% – Esboniwch ganlyniad eich cam gweithredu a'i effaith ar y sefyllfa (e.e. drwy weithio gyda thimau amrywiol ac agor llety arall, llwyddais i leihau amserau aros yr ymgeiswyr, gan roi profiad mwy cadarnhaol iddynt a dangos gwasanaeth da i gwsmeriaid).
D.S. - Defnyddiwch y canrannau yn y pwyntiau uchod er mwyn helpu i lywio i ba raddau y dylai eich ateb ganolbwyntio ar agweddau gwahanol Techneg STAR.