Rhagoriaeth ac Arloesi
Rydym yn dîm medrus a phroffesiynol sy'n datblygu ac yn darparu gwasanaethau arloesol o safon sy'n canolbwyntio ar ddysgu, dyheadau a photensial myfyrwyr unigol. Er mwyn hyrwyddo hynny, rydym yn cefnogi datblygiad a lles ein staff ac yn annog creadigrwydd ac arloesi yn y gweithle.
Amrywiaeth, Cynwysoldeb a Pharch
Rydym yn grŵp amrywiol o unigolion sy'n gweithio i gefnogi'r holl fyfyrwyr, i oresgyn rhwystrau canfyddedig ac i hyrwyddo ethos cymunedol cryf yn seiliedig ar urddas, parch a thegwch. Rydym yn rhoi cefnogaeth ragweithiol i ehangu mynediad a chydlyniad cymunedol.
Gonestrwydd
Ein prif bryder yw buddion y myfyrwyr. Rydym yn rhoi gwybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael ac yn cynnig cyngor cyfrinachol o fewn ffiniau proffesiynol priodol i gefnogi myfyrwyr i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae ein prosesau penderfynu'n agored ac yn dryloyw.
Partneriaeth a Gwaith Tîm
Rydym yn gweithio fel un tîm, o fewn ffiniau cyfrinachedd priodol, gyda myfyrwyr, gwasanaethau proffesiynol eraill y Brifysgol, Colegau, Undeb y Myfyrwyr, sefydliadau partner ac asiantaethau allanol i sicrhau ymagwedd gyfannol at ddarparu profiad rhagorol i bob myfyriwr.
Cynaliadwyedd
Rydym yn sefyll ochr yn ochr â'n myfyrwyr, gan roi'r gefnogaeth unigol sy'n angenrheidiol i'w hannog a'u galluogi i gynnal eu hunain fel dinasyddion â meddylfryd byd-eang ac i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy. Ceisiwn ddefnyddio adnoddau mewn modd cynaliadwy.