Gwneud y mwyaf o'ch incwm
Cyllid
Sicrhewch eich bod yn derbyn yr holl gyllid y mae gennych hawl iddo.
- Mae cyllid atodol ar gael i'r sawl sy'n derbyn y pecyn cymorth llawn sydd ag amgylchiadau penodol megis bod yn rhiant neu'n ofalwr neu bod ag anabledd. Rhaid bodloni meini prawf ac mae rhywfaint o'r cyllid yn seiliedig ar brawf modd. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefannau Cyllid Myfyrwyr Cymru a Student Finance England. Os ydych yn fyfyriwr sy'n derbyn cyllid o ffynonellau eraill, cysylltwch â darparwr eich cyllid am wybodaeth ynghylch cyllid atodol.
- Os ydych yn derbyn cyllid y GIG, byddwch efallai yn gallu derbyn benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr nad yw'n seiliedig ar brawf modd. Mae faint byddwch yn ei dderbyn yn ddibynnol ar ble rydych yn byw fel arfer. Ceir mwy o wybodaeth ar ein tudalen we Cyllid y GIG.
- Gallwch wneud cais i ddarparwr eich cyllid am asesiad incwm ar gyfer y flwyddyn hon os ydych yn meddwl y bydd incwm eich aelwyd eleni o leiaf 15% yn is na'r flwyddyn y gofynnwyd ichi roi gwybodaeth amdani. Gallwch gysylltu â darparwr eich cyllid neu Arian@BywydCampws am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn meddwl bod eich cyllid yn anghywir neu os yw eich amgylchiadau'n newid yn sylweddol, cysylltwch ag Arian@BywydCampws am gyngor ac arweiniad.
Bwrsariaethau a thaliadau arbennig gan Arian@BywydCampws
Mae Arian@BywydCampws yn gyfrifol am fwrsariaethau a thaliadau arbennig ar gyfer y grwpiau canlynol:
- Ymadawyr Gofal
- Myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd
- Gofalwyr
- Myfyrwyr beichiog
Rhaid bodloni'r meini prawf ym mhob achos Gallwch ddarllen mwy ar ein tudalen we arbennig
Ysgoloriaethau Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau academaidd, adrannol a rhagoriaeth i fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a rhyngwladol. Rhaid bodloni'r meini prawf ym mhob achos.
Budd-daliadau gan y Llywodraeth
Os ydych fel arfer yn byw yn y DU gallwch efallai hawlio rhai budd-daliadau. Bydd rhai myfyrwyr amser llawn o’r DU, a phob myfyriwr rhan-amser o’r DU, efallai yn gallu derbyn budd-daliadau y Wladwriaeth megis Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Gofalwr, Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Llywodraeth.
Gwaith Rhan-amser
Mae swydd ran-amser yn ffordd dda o ychwanegu at eich incwm yn ystod eich astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn trefnu digwyddiadau cyflogadwyedd cyson er mwyn helpu myfyrwyr i chwilio am waith rhan-amser, a pharatoi ar ei gyfer a chyflwyno cais.
Mae hefyd gyfleoedd i weithio yn y Brifysgol fel rhan o'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad ac yn Undeb y Myfyrwyr.
Gwerthu pethau nad ydych wedi'u defnyddio neu nad oes eu hangen arnoch
Os oes gennych bethau nad ydych chi eu heisiau nac/neu yn eu defnyddio mwyach, gallech efallai ystyried eu gwerthu er mwyn ennill ychydig o arian parod. Byddwch hefyd yn cael gwared ar annibendod ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i gynaliadwyedd.
Cyn i chi roi cynnig arni, mae gwybodaeth ar gael ar y platfformau amrywiol megis yr erthygl hon am werthu dillad ar-lein.