awgrymiadau arian
Fel myfyriwr, byddwch yn gwybod bod arian yn aml yn brin. Rydyn ni wedi casglu rhai o’r canllawiau ariannol gorau yn ein barn ni i’w rhannu â chi. Gobeithio y byddwch yn rhoi cynnig arnynt ac yn arbed arian.
- Mae cyllidebu’n hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod digon o arian gennych. Mae’n bosib y byddwch yn ei chael hi’n anodd cadw at gyllideb i ddechrau ond byddwch yn dod i arfer â hyn a byddwch yn siŵr o weld y buddion. Edrychwch ar ein modiwlau am ragor o wybodaeth am gyllidebu.
- Os oes angen prynu rhywbeth arnoch ar gyfer achlysur ond rydych yn gwybod na fyddwch byth yn ei ddefnyddio eto, beth am logi yn lle prynu? Erbyn hyn gallwch logi gwisgoedd a dillad ffurfiol, offer chwaraeon ac offer gwersylla.
- Mae siopau’n hoffi anfon e-byst di-ri gyda disgowntiau i geisio denu cwsmeriaid i mewn i brynu pethau. Tynnwch eich hun oddi ar restrau post siopau i osgoi’r temtasiwn, mae wir yn gweithio!
- Mae bob amser yn syniad da cael cronfa wrth gefn fel bod rhywfaint o arian gennych wrth gefn i leddfu’r straen os oes angen i chi dalu bil annisgwyl.
- Un canllaw sy’n bwysig iawn yn ein barn ni yw adolygu eich cyfriflenni banc bob mis. Nid yw’n anghyffredin gweld costau annisgwyl yn ymddangos ar eich cyfrif.
- Ewch drwy'r holl gostau mae’n rhaid i chi eu talu – byddwch siŵr o fod yn sylweddoli bod modd i chi dorri ambell beth allan. Eisiau gwybod beth i’w wneud? Ysgrifennwch bob cost sydd gennych i lawr, edrychwch am y costau y gallwch eu torri allan yn llawn ac edrychwch am ffyrdd o arbed arian ar y costau sy’n weddill.
- Os oes gennych eich llygad ar rywbeth ond dydych chi ddim yn siŵr a ddylech ei brynu, beth am ddefnyddio’r rheol 30 diwrnod? Os ydych yn dal i eisiau’r eitem gymaint ar ôl 30 diwrnod, ystyriwch ei phrynu. Byddwch fel arfer yn sylweddoli nad ydych eisiau’r eitem bellach unwaith y mae 30 diwrnod wedi dod i ben.
- Wrth i gost bwyd gynyddu a gwasanaethau dosbarthu bwyd barhau i fod yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr, mae cost bwyta’n dod yn ddrutach byth. Drwy fod yn drefnus a pharatoi prydau o fwyd, bydd gennych chi brydau o fwyd wrth law bob dydd sy’n gallu eich helpu i beidio â dibynnu ar gludfwyd o gwbl, gan olygu y byddwch chi’n arbed arian yn ogystal â bwyta bwyd maethlon bob dydd.
- Gallwch chi arbed arian drwy ddefnyddio peiriannau cyflenwi dŵr, tapiau dŵr poeth a microdonnau ar y campws, gweler y ddolen isod am ragor o wybodaeth:-Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol - Mannau Myfyrwyr a Chyfleusterau Cymunedol - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)