Os ydych yn tynnu'n ôl o'ch cwrs Meistr ac rydych wedi derbyn Cyllid ar gyfer Astudio Ôl-raddedig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn cyllid ar gyfer Cwrs Meistr Ôl-raddedig yn y dyfodol, hyd yn oed os nad ydych wedi derbyn yr uchafswm eto (gweler y tabl isod). Fodd bynnag, os ydych yn tynnu'n ôl o'r cwrs oherwydd Rhesymau Personol Anorchfygol, gallwch gyflwyno cais am gyllid dewisol ar gyfer y cwrs newydd, fel y nodir isod.
Os ydych yn penderfynu tynnu'n ôl o'ch cwrs, mae'n bosib y byddwch wedi derbyn gordaliad. Gweler isod am ragor o wybodaeth.
Rhesymau Personol Anorchfygol
Os teimlwch fod rhywbeth y tu hwnt i'ch rheolaeth wedi cael effaith niweidiol sylweddol ar eich perfformiad academaidd neu eich gallu i astudio a bu'n rhaid i chi dynnu'n ôl o'ch astudiaethau o ganlyniad, mae'n bosib y byddwch yn gymwys am gyllid dewisol ar sail Rhesymau Personol Anorchfygol.
Gall y rhain gynnwys materion sy'n ymwneud ag iechyd, anabledd, problemau teuluol neu brofedigaeth, ond nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Os ydych yn meddwl bod hyn yn berthnasol i chi, ffoniwch ein swyddfa ar 01792 606699 neu e-bostiwch money.campuslife@abertawe.ac.uk
Does dim sicrwydd y byddwch yn derbyn cyllid ychwanegol gan mai penderfyniad eich darparwr cyllid fydd hyn.
Gordaliadau
Gan ddibynnu ar y dyddiad olaf y buoch yn bresennol ar eich cwrs, bydd y cyllid rydych wedi'i dderbyn yn cael ei ail-gyfrifo ar sail pro rata. Os ydych wedi derbyn gordaliad, bydd angen i chi ad-dalu'r swm hwnnw i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar unwaith neu drwy lunio cynllun talu.