Angen Ail-wneud Elfen neu Drosglwyddo

Os oes angen i chi ail-wneud elfen neu drosglwyddo o gwrs israddedig, gwelwch yr holl wybodaeth angenrheidiol yn y cwymplenni isod. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen POB pennawd - rydym wedi'u rhannu fel eu bod yn haws eu darllen, ond mae pob un yn berthnasol.

Gall ail-wneud neu drosglwyddo effeithio ar eich cyllid.

Sylwch fod y wybodaeth hon yn gywir ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn cael eu hariannu gan y GIG. Os ydych chi'n cael eich ariannu gan fwrsariaeth y GIG ar gyfer eich gradd mae'n bwysig eich bod chi'n gwirio'ch cymhwysedd i gael cyllid cyn newid eich statws cofrestru. Fe'ch cynghorir i drafod eich amgylchiadau gyda thîm Swyddfa Bwrsari'r GIG trwy e-bostio: chhs-bursary@swansea.ac.uk ac i gysylltu â swyddfa Arian@BywydCampws i gael cefnogaeth bellach: money.campuslife@abertawe.ac.uk Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu e-bost myfyriwr wrth gysylltu ag unrhyw un o e-byst neu staff Arian@BywydCampws