Cwestiynnau Cyffredin- Cynnydd Mewn Ffioedd Dysgu

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r uchafswm ffïoedd dysgu yng Nghymru o £9,000 i £9,250, sydd bellach yn gyson â'r ffïoedd yng nghenhedloedd eraill y DU. Mae'r penderfyniad hwn yn ymateb i bwysau chwyddiant parhaus sydd wedi effeithio ar brifysgolion ledled y DU. Mae lefelau ffïoedd dysgu yng Nghymru wedi bod yn ddigyfnewid am fwy na degawd, ond mae'r treuliau sy'n gysylltiedig â chynnal addysg a chyfleusterau campws o safon wedi parhau i gynyddu.

O fis Medi 2024, bydd ffioedd dysgu’r myfyrwyr a restrir isod yn cael eu haddasu o £9,000 i £9,250 yn flynyddol2, gan ddod â ni yn unol â phrifysgolion eraill Cymru:

  • Myfyrwyr israddedig presennol (gan gynnwys myfyrwyr sydd wedi atal neu’n ailadrodd)
  • Myfyrwyr israddedig presennol gyda blwyddyn mewn diwylliant
  • Myfyrwyr israddedig presennol sydd wedi treulio blwyddyn tramor

Ni fydd y cynnyd mewn ffioedd dysgu yn effeithio ar:

  • Myfyrwyr ôl-raddedig
  • Myfyrwyr rhyngwladol
  • Myfyrwyr TAR
  • Darpar fyfyrwyr/ myfyrwyr Newydd
  • Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni israddedig 1 flwyddyn yn unig (Tystystgrif Addysg Uwch)
  • Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni Gradd Syflaen neu Radd Brentisiaeth

Rydym wedi llunio rhestr o Gwestiynnau Cyffredin I egluro pryd, sut a pham y bydd y newidiadau hyn yn digwydd. Ymhelaethwch ar yr adrannau isod.

Cwestiynau Cyffredin ynghylch yr Addasiadau i Ffïoedd Dysgu