YSWIRIANT TEITHIO AR GYFER MYFYRYWR PRIFYSGOL ABERTAWE
Os ydych chi'n fyfyriwr cofrestredig y Brifysgol bydd polisi yswiriant teithio Prifysgol Abertawe yn gymwys ar gyfer teithio at ddibenion busnes yn y Brifysgol (ar ôl i'r gweithgaredd gael ei gymeradwyo gan Oruchwyliwr eich Coleg a Phennaeth y Coleg/Uned Gwasanaethau Proffesiynol).
Mae'r polisi'n cynnwys ond heb ei gyfyngu i flwyddyn gyfnewid dramor, lleoliadau gwaith a chyrsiau dewisol.
Noder na fydd polisi'r Brifysgol yn ddilys ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy'n teithio yn groes i gyngor meddygol.
MAE'R YSWIRIANT TEITHIO AR GAEL YN BERTHNASOL I -
a) Y tu allan i Wlad Gartref y myfyriwr neu
b) Y tu fewn i Wlad Gartref y myfyriwr ond mewn achosion lle y gofynnir i fyfyriwr drefnu llety dros nos nad yw'n cynnwys y man arferol yn unig, neu
c) Mewn achosion lle y bydd angen ehediad mewnol ar gyfer taith a chafodd yr ehediad ei drefnu cyn y daith.
SYLWER: Bydd costau meddygol yn ddilys ar gyfer a) uchod yn unig.
Mae'r yswiriant ar gyfer hyd yr amser y byddwch chi i ffwrdd at ddibenion busnes perthnasol y Brifysgol yn unig. Dylech chi drefnu eich yswiriant eich hun ar gyfer unrhyw wyliau neu weithgareddau y tu allan i'r cyfnod hwn
Dylai pob teithiwr gyfeirio at Grynodeb o Wybodaeth ar gyfer Yswiriant Teithio (Summary of Travel Cover) a dylid mynd â chopi o'r ffurflen hon gydag e.