Mae'r tudalennau canlynol wedi'u creu gan dîm Llesiant@BywydCampws. Rydym yn darparu cyngor ymarferol, arweiniad a chyfeiriadau ynghyd â goruchwylio cymorth camymddygiad rhywiol i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae camymddygiad rhywiol yn ymdrin ag ystod eang o ymddygiad amhriodol ac annymunol o natur rywiol. Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi bod yn destun unrhyw fath o gamymddygiad rhywiol, gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud neu sut i deimlo. Mae'r Brifysgol yma i'ch cefnogi chi. Nid oes angen i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun.