Mae angen cydsyniad ar gyfer nifer o bethau yn ein bywyd pob dydd.
Yn gyffredinol, cydsyniad yw cael caniatâd neu gymeradwyaeth ar gyfer rhywbeth cyn i chi fynd ati i'w wneud. Ar y dudalen hon, byddwn ni'n edrych ar sut mae cydsyniad yn berthnasol i berthnasoedd rhywiol, sut olwg sydd arno ac, yn bwysicaf oll, yr hyn nad yw cydsyniad.
Mae rhywun yn cydsynio i weithred rywiol os yw'n cytuno drwy ddewis ac os oes gan yr unigolyn y rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw.