Mae Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol (SVLOs) yn staff y brifysgol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, penodol i'w galluogi i gefnogi myfyrwyr a brofodd gamymddygiad rhywiol ar unrhyw adeg yn eu bywydau.
Bydd SVLOs yn gwrando heb farnu. Byddan nhw'n rhoi gwybod i chi am y cymorth sydd ar gael ac yn trafod opsiynau ar gyfer adrodd am gamymddygiad. Gall SVLOs gysylltu â sefydliadau allanol a staff eraill y Brifysgol ar eich rhan.
Aelodau staff sy'n SVLOs hyfforddedig o amrywiaeth o adrannau ar draws y Brifysgol.
Sut gallaf gysylltu â nhw? Cyflwynwch adroddiad drwy'r dudalen Rhoi Gwybod + Chymorth gyda'ch manylion cyswllt a bydd un o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.