Gofyn am Asesiad fel Myfyriwr sydd wedi'i ddieithrio o'i deulu
Ystyrir bod myfyrwyr wedi'u dieithrio o'u teuluoedd os yw'r berthynas â'u rhieni wedi methu ac nid oes modd rhagweld cyfle i gymodi. Os ydych wedi ymddieithrio o'ch rhieni, gallwch ofyn i'ch darparwr cyllid eich asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich ymddieithriad; fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd eich cais yn cael ei dderbyn.
Er mwyn cyflwyno cais i gael eich asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich ymddieithriad, bydd angen i chi roi tystiolaeth addas i'ch darparwr cyllid ar ffurf llythyr(au) neu adroddiad(au) gan weithwyr proffesiynol a phobl uchel eu parch yn y gymuned e.e. yr heddlu, meddygon, gweithwyr cymdeithasol etc sy'n dangos eich ymddieithriad parhaus. Bydd un llythyr neu adroddiad ansawdd sylfaenol yn dderbyniol, ond mae croeso i chi gyflwyno pecyn o dystiolaeth, gan gynnwys tystiolaeth eilradd os dymunwch.
Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'ch ymddieithriad a'r dystiolaeth a ddarparwyd, os derbynnir eich cais, gallech gael eich asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich ymddieithriad ar gyfer y flwyddyn academaidd neu hyd eich cwrs.
Ni allwch ofyn i gael eich asesu fel myfyriwr annibynnol yn sgîl ymddieithrio o'ch teulu oherwydd:
- Nad yw eich rhieni yn eich cefnogi'n ariannol
- Nid ydych yn cyd-dynnu â'ch rhieni ond rydych yn dal i fod mewn cysylltiad
- Nid ydych chi'n byw gyda'ch rhieni
Os ydych yn cael eich asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich ymddieithriad, byddwch yn gallu cael mynediad at gyllid myfyrwyr ar y gyfradd annibynnol ac ni fyddwch yn cael prawf modd yn seiliedig ar incwm aelwydydd rhieni.