Pethau i Fod ar eich Gwyliadwriaeth Amdanynt
Symud Ymlaen yn Rhy Gyflym
Ar ôl i berthynas chwalu, gall rhai pobl deimlo mor unig y byddant yn rhuthro i mewn i berthynas arall, yn rhannol oherwydd eu hofn o fod ar eu pennau eu hunain. Mae hwn yn ymateb cyffredin sy'n gallu creu problemau nes ymlaen yn y berthynas newydd. Os ydych yn dechrau perthynas â rhywun yn rhy gyflym, gallech ddewis rhywun na fyddech wedi'i ystyried fel arfer. O ganlyniad, efallai na fyddwch yn cyd-fynd cystal â'ch partner newydd ar ôl i chi ddod dros ddiwedd y berthynas wreiddiol ac yn dechrau teimlo fel chi eto.
Colli Hyder
Pan fydd perthynas yn chwalu mewn ffordd anniben, gall ddinistrio'ch balchder a'ch hunan-barch, yn enwedig os oedd anffyddlondeb yn un o'r rhesymau pam chwalodd y berthynas. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi dderbyn, yn yr un modd y gall rhywun gwympo mewn cariad, gall hefyd gwympo allan o gariad. Efallai nad oedd unrhyw beth y gallech fod wedi'i wneud i'w atal. Cofiwch, os oedd un ohonoch neu'r ddau ohonoch yn anhapus yn y berthynas, drwy ddod â'r berthynas i ben nawr, bydd gennych gyfle i gwrdd â phartneriaid newydd a allai wneud y ddau ohonoch chi'n fwy hapus yn y dyfodol.
Edrych ar yr Ochr Orau
Mae'n well caru a cholli na pheidio â charu o gwbl. Os cawsoch amserau hapus gyda'ch cyn-gariad, meddyliwch am yr atgofion cadarnhaol hyn a gwerthfawrogwch fod rhai pobl heb gael profiadau o'r fath gyda pherson arall hyd yn oed. Os cawsoch amserau da gyda'ch cyn-gariad, gallwch edrych ymlaen at gael amserau gwell yn y dyfodol gyda rhywun sy'n fwy addas i chi.
Dysgu o'r Profiad Hwn
Gall fod yn ddefnyddiol edrych yn ôl ar y berthynas a cheisio gweld pethau o safbwynt gwrthrychol. Efallai y gallwch weld elfennau o'r berthynas y gallwch ddysgu ohonynt. Gellir defnyddio profiadau i'ch gwneud chi'n bartner cefnogol a chariadus yn y dyfodol. Cofiwch beidio â meddwl gormod am y gorffennol; ni allwch newid eich gweithredoedd. Gallwch ddefnyddio'ch safbwynt newydd i'ch helpu unwaith y byddwch wedi symud ymlaen.
Gofalu Amdanoch Chi Eich Hun
Ar ôl i berthynas ddod i ben, mae rhai pobl yn ei chael hi'n ddefnyddiol defnyddio'u hamser rhydd i gymryd pleser mewn sbwylio eu hun. Ewch ati i gael y steil gwallt roeddech chi bob amser ei eisiau, ymaelodwch â'r gampfa a rhowch gynnig ar ddosbarth ymarfer corff newydd neu ymaelodwch â chymdeithas i dreulio mwy o amser ar eich diddordebau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser i ddod i adnabod eich hun eto; efallai y byddwch yn mwynhau pob dydd, ac efallai mwy fyth nawr!