Gall cyfeillgarwch ddod i ben mewn ffyrdd gwahanol. Efallai eich bod wedi ffraeo neu eich bod wedi ymddieithrio. Os oedd rheswm penodol dros y cyfeillgarwch yn dod i ben yna ceisiwch gydnabod y rheswm er mwyn dod i delerau â'r tor-gyfeillgarwch.
Beth yw hyn?
Os ydych chi'n cael eich hun mewn sefyllfa lle rydych chi wedi cwympo allan neu ymddieithrio â ffrind newydd neu hen ffrind gall fod yn brofiad sy’n eich ypsetio. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi amser i'ch hun deimlo'r golled. Mae'n iawn i fod yn drist am gyfeillgarwch yn dod i ben. Efallai y byddai o gymorth i chi osgoi cyfryngau cymdeithasol am ychydig nes eich bod yn teimlo'n well am y sefyllfa rhag ofn eich bod yn gweld rhywbeth sy'n eich ypsetio chi.
Cyngor a chymorth ymarferol
Colli cysylltiad â ffrindiau gartref
Pan fyddwch yn gadael eich cartref i fynd i'r Brifysgol efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn gadael eich ffrindiau ysgol ar ôl. Efallai y bydd rhai o'ch hen grŵp o ffrindiau yn mynd i brifysgolion eraill neu'n aros adre i ddechrau swydd amser llawn. Mae'n newid naturiol sydd mewn rhai achosion yn gallu arwain at grwpiau o ffrindiau yn ymddieithrio.
Mae'r brifysgol yn brofiad dysgu, nid yn unig ar gyfer gwybodaeth academaidd ond ar gyfer derbyn profiad bywyd yn ogystal. Fel myfyrwyr gallwn dyfu i mewn i'n personoliaethau unigol ein hunain sy'n gallu bod yn wahanol i'r rheiny a oedd gennym wrth dyfu i fyny. Weithiau gall y newidiadau hyn olygu eich bod yn teimlo bod gennych lai o bethau mewn cyffredin gyda ffrindiau eich plentyndod. Efallai y byddwch yn colli cysylltiad dros amser.
Os ydych chi'n mwynhau eich cyfeillgarwch cyfredol o hyd yna sicrhewch eich bod yn cadw mewn cysylltiad.
Pan fyddwch yn mynd adre ar gyfer eich gwyliau, treuliwch amser yn cwrdd â'ch ffrindiau. Sicrhewch eich bod yn cofio gwrando ar eu straeon. Hefyd, talwch sylw fel ei bod yn sgwrs rhwng y naill a’r llall. Os byddwch yn treulio'r amser yn siarad am ba mor wych yw'ch ffrindiau yn y brifysgol efallai y byddant yn teimlo'n ynysig.
Ffrindiau Gŵyl y Glas
Gallwch gwrdd â llawer o ffrindiau yn ystod eich wythnosau cyntaf yn y brifysgol. Efallai y bydd gennych lawer o rifau ffôn ar gyfer pobl rydych chi wedi cwrdd â nhw megis 'Dave gyda'r het'. Mae nifer eich ffrindiau ar Facebook yn debygol o saethu i fyny yn ystod eich wythnosau cyntaf yn y brifysgol. Mae hyn yn wych ond dylech gofio peidio â disgwyl i'r cydnabod newydd ddod yn ffrindiau gorau newydd i chi.
Mae cyfeillgarwch yn cymryd amser i droi'n berthnasau cadarn. Mae'n gyffredin i rai neu hyd yn oed y mwyafrif o'r ffrindiau rydych chi'n cwrdd â nhw yn yr wythnosau cyntaf beidio â datblygu'n gyfeillgarwch hir dymor. Peidiwch â chael eich pechu os nad ydych chi'n gweld na chlywed gan rai o'ch ffrindiau newydd ar ôl ychydig wythnosau. Efallai eu bod nhw, fel chi, wedi gwneud llawer o gydnabod newydd yn ystod eu blwyddyn gyntaf ac efallai bod ganddynt fwy mewn cyffredin â rhywun arall.
Os ydych chi'n profi sefyllfa lle nad oes gennych gyfeillgarwch â phobl yn y Brifysgol sy'n rhannu eich diddordebau rhowch gynnig ar ymuno â chymdeithas newydd. Mae cynifer o gymdeithasau ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer llawer o chwaraeon a hobïau gwahanol. Rydych chi'n sicr o ddod o hyd i un neu ddau o grwpiau yr hoffech ymuno â nhw. Rydych chi'n llawer mwy tebygol o greu cyfeillgarwch hir dymor pan fyddwch yn rhannu chwaeth debyg. Gallwch ddefnyddio'r diddordebau hyn i gryfhau'r cyfeillgarwch.
Nid yw dial yn felys
1. Ceisiwch beidio â gweithredu yn erbyn eich ffrind os ydych chi'n teimlo'n grac. Cofiwch y gall postio unrhyw beth ar gyfryngau cymdeithasol neu sôn am eich ffrae wrth bawb nid yn unig adlewyrchu'n wael arnoch chi ond efallai y bydd yn difrodi enw da eich ffrind yn annheg. Ar ôl i chi dawelu byddwch fwy na thebyg yn edifaru'r hyn a ddywedoch chi. Gall eich ymddygiad achosi embaras i chi.
2. Dylech bob amser ceisio ymddiheuro hyd yn oed os ydych chi'n meddwl na fyddwch yn ffrindiau eto. Dyna'r peth aeddfed i'w wneud a dylai atal unrhyw ddrwg deimlad rhag parhau yn ddi-ben-draw.
Dysgwch gan hyn.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi edrych yn ôl ar y cyfeillgarwch ac ystyried beth aeth o'i le a beth oedd eich rôl chi yn y tor-gyfeillgarwch. Efallai y byddwch, mewn amser, hefyd yn gallu gweld pam nad oedd y cyfeillgarwch yn un delfrydol. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw gyfeillgarwch yn y dyfodol. Efallai y byddwch yn datblygu syniad gwell o ran pa rinweddau yr hoffech chi eu cael mewn ffrind a beth allwch chi ei gynnig i gyfeillgarwch.
Byddwch yn ffrind i'ch hun
Tra eich bod yn dod i delerau gyda'ch tor-gyfeillgarwch treuliwch amser yn gofalu am eich hun. Cofiwch mai chi fydd y ffrind gorau a gewch erioed!
Gwnewch ymarfer corff, rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Pwy a ŵyr; efallai y byddwch yn gwneud ffrind newydd yn y gampfa.
Pwyswch ar eich ffrindiau eraill a'ch teulu ar gyfer cymorth. Peidiwch ag esgeuluso eich ffrindiau cyfredol. Gallai fod yn gyfeillgarwch sy'n aros i flodeuo ymhlith eich cydnabod presennol.
Bwytewch yn dda a gofalwch am eich ysbryd.
Gofynnwch am gymorth pellach os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi neu os nad ydych chi'n teimlo'n well ar ôl cyfnod o amser.