Hapus - Y Pecyn Cymorth Bywyd Myfyrwyr
Sylwerwch, mae Hapus hefyd ar gael yn Saesneg, Arabeg a Tsieinëeg.
Efallai y byddi di'n cael emosiynau neu brofiadau negyddol wrth bontio i fywyd ym Mhrifysgol Abertawe neu yn ystod dy amser yn y brifysgol. Mae hyn yn hollol normal. Rydyn ni’n deall y gall bywyd yn y brifysgol fod yn gyffrous ac yn llethol, a dyna pam rydyn ni am roi strategaethau i ti a fydd yn ddefnyddiol yn ystod dy amser yn Abertawe.
Mae Hapus yn gwrs ar-lein sy'n dy baratoi am yr heriau meddyliol, emosiynol ac ymarferol yn y brifysgol.
Bydd yn rhoi i ti’r wybodaeth a'r adnoddau i allu mynd i'r afael â materion fel:
- Gorbryder cymdeithasol
- Hwyliau isel
- Gohirio
- Rheoli dy arian
- Ysgytwad diwylliannol
- Rheoli straen ac ansicrwydd,
- Meithrin gwytnwch
- Rheoli teimladau o ynysu ac unigrwydd
- Arweiniad ynghylch ffordd iach o fyw
- Ynghyd â gwybodaeth am yr holl wasanaethau cymorth sydd ar gael i ti yn ystod dy amser ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydyn ni'n argymell dy fod yn gweithio drwy'r pecyn cymorth yn ystod wythnosau cyntaf y tymor neu cyn i ti gyrraedd Abertawe os wyt ti'n fyfyriwr newydd. Bydd yn cymryd tuag awr, ond nid oes angen i ti gwblhau popeth ar yr un pryd; cymera dy amser, cadw’r cynnydd a dychwelyd yn hwyrach.
Gelli di gyrchu'r cwrs drwy dy gyfrif Canvas, ac mae ar gael yn Gymraeg, Saesne, Arabeg a Tsieinëeg.
Rydyn ni hefyd wedi creu cwrs i dy rieni, dy bartneriaid a dy warcheidwaid, felly a wnei di rannu hwn â nhw.
Os wyt ti'n cael trafferth yn cyrchu'r cwrs drwy dy gyfrif Canvas neu os nad oes gennyt ti gyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd, e-bostia welcome.campuslife@abertawe.ac.uk a byddwn yn anfon y cwrs hapus atat ti.
Rydyn ni'n croesawu dy adborth. Os hoffet ti wneud awgrymiadau ynghylch sut gallwn ni wella'r pecyn cymorth, clicia yma.