Rydyn ni’n cyflwyno’r wyddor Cyrraedd, felly p’un a wyt ti’n fyfyriwr newydd neu’n dychwelyd, rydyn ni wedi rhoi’r canllaw defnyddiol hwn at ei gilydd i dy helpu i ymgartrefu ym Mhrifysgol Abertawe.
Abertawe
Mae A yn golygu Abertawe ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at dy groesawu di yma!
Darganfyddwch hyd yn oed mwy o Abertawe gydag ap MySwansea! Lawrlwythwch nawr i gael mynediad at yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnoch, i gyd mewn un lle.
Bwyd
Bwyd, byrbrydau, nwyddau groser, lluniaeth ... mae digon o fannau bwyta ar y campws!
Gelli di hyd yn oed lawrlwytho ap Uni Food Hub o siopau apiau Apple neu Android er mwyn gweld ein bwydlenni ar-lein ac archebu!
Cadwa dy lygad ar ein tudalennau gwe i gael yr oriau agor a'r cynigion diweddaraf yn ein mannau arlwyo.
Cliciwch ar y linc isod i ddarganfod mwy:
Cynrychiolwyr
Yn syml, Cynrychiolwyr Myfyrwyr yw'r cyswllt rhyngoch chi a'ch Ysgol yn ystod eich amser yma’n Abertawe. Maen nhw yma i gasglu eich adborth, cyfleu eich barn i'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr a gweithio gyda staff i wneud gwelliannau i'ch addysg.
Mae pob Cynrychiolydd yn derbyn hyfforddiant a chyfle i fynychu gweithdai arbenigol. Nid yn unig y mae'n wych ar gyfer eich CV ond mae hefyd yn rôl hynod werth chweil!
Cadwch lygad ar eich e-bost a tudalennau gwe Undeb y Myfyrwyr am fwy o wybodaeth ynglŷn a pryd a sut allech mynd o gwmpas cofrestru eich hun!
Chwaraeon
Dweud eich dweud
Leisia dy farn! Yma’n Abertawe mae llaid y myfyrwyr yn bwysig i ni.
Oeddet ti’n gwybod bod Cynrychiolydd Pwnc ar gyfer pob cwrs? Neu bod yna Panel Barn Myfyrwyr? I ddarganfod mwy ynglŷn a sut rydym yn mabwysiadu llais myfyrwyr, ewch i’n tudalennau gwe.
y Ddaear
Mae Dd yn golygu'r Ddaear! Wyddet ti fod Prifysgol Abertawe yn un o'r 10 brifysgol orau yng nghynghrair werdd People and Planet?
Mae cymryd rhan gyda'n Tîm Cynaliadwyedd yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd, meithrin sgiliau gwerthfawr a chael profiad, wrth wneud dy ran dros yr amgylchedd! Dysga am ein Tîm Cynaladwyedd a sut gelli di gefnogi ei ymdrechion yma.
E-byst
Yn ystod eich amser yn y brifysgol byddwn yn cyfathrebu gyda’ch mewn nifer o ffyrdd, trwy ein cyfryngau cymdeithasol, ein tudalennau gwe, ac hefyd trwy E-byst!
Mae’n bwysig cadw llygad ar eich blwch e-byst myfyriwr trwy gydol y cyfnod Cyrraedd er mwyn gwneud yn siŵr na fyddech yn colli allan ar unrhyw ddigwyddiadau neu manylion pwysig!
FyAbertawe
Mae F am FyAbertawe!
Oeddech chi’n gwybod bod ap ar gael i myfyrwyr Prifysgol Abertawe!
Darganfyddwch hyd yn oed mwy o Abertawe gydag ap MySwansea! Lawrlwythwch nawr i gael mynediad at yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnoch, i gyd mewn un lle
Ffrindiau
Wyt ti'n gofyn i di dy hun sut byddi di'n gwneud ffrindiau yn y brifysgol?
Ymuna â'n cymuned newydd ar-lein i fyfyrwyr a fydd yn dechrau ym Mhrifysgol Abertawe yn 2023, lle gelli di gysylltu â myfyrwyr o'r un meddylfryd a gwneud ffrindiau newydd.
Gelli di gwrdd â chyd-breswylydd newydd, darganfod y cymdeithasau gorau neu gwrdd â phobl sy'n dwlu ar fwyd fel ti.
Gelli di gyrchu cymuned UniBuddy drwy ap MySwansea neu dy borwr gwe yma.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli'n ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a gofalu am eich iechyd meddwl wrth wneud gwahaniaeth go iawn i'r gymuned leol!
Mae cynifer o weithgareddau difyr y gallwch gymryd rhan ynddynt yn Abertawe, a'r elusen wirfoddoli i fyfyrwyr ar y safle, Discovery, yw'r lle perffaith i ddechrau.
Hefyd mae llu o ffyrdd y gallwch gymryd rhan yng ngwaith ein tîm Cynaliadwyedd. Edrychwch ar eu tudalennau gwe i ganfod sut y gallwch ennill gwobrau drwy gofrestru eich gweithrediadau cynaliadwy trwy ap SWell.
Fy Nghymraeg
Sut y alla i ddefnyddio fy Nghymraeg?”
Oeddech chi'n gwybod bod gennych chi'r hawl i gyfathrebu yn Gymraeg gyda Phrifysgol Abertawe mewn sawl ffordd - trwy e-bost, ar gyfryngau cymdeithasol, ar ffurflenni a mwy? Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn brifysgol ddwyieithog. Golyga hyn fod croeso i chi ddefnyddio'ch Cymraeg wrth ddod i gysylltiad â'r Brifysgol.
Hapus
Yma yn Abertawe, mae gennym lawer o wasanaethau cymorth gwych i’ch helpu i ffynnu a gwneud yn fawr o’ch profiad myfyriwr, gan gynnwys Hapus, ein pecyn cymorth bywyd myfyrwyr.
Eich hapusrwydd a’ch lles yw ein blaenoriaeth felly edrychwch ar y cymorth y gallwn ei gynnig i chi.
Iechyd
Ac mae’n hynod bwysig eich bod yn gofalu amdano yn y Brifysgol.
Mae cymryd ychydig funudau i gofrestru gyda Meddyg a Deintydd yn un o'r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud ar ôl ichi gyrraedd Abertawe.
Dychmygwch orfod teithio'r holl ffordd adref gyda dannoedd...ow! Peidiwch â chymryd y risg a chofrestrwch cyn gynted ag y gallwch!
JC’s a Tafarn Tawe
Mae J yn sefyll am JC’s a Tafarn Tawe!
A oeddech chi’n gwybod bod yna bar myfyrwyr ar y ddau campws yn Abertawe? Maent yn lle gwych i ymlacio ar ôl gwersi, cymdeithasu gyda ffrindiau a mynychu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.
Lan y môr!
Efallai ein bod ychydig yn rhagfarnllyd ond credwn fod Abertawe'n gartref i’r traethau GORAU.
Mae ein prif ddewisiadau'n cynnwys Langland, Bae'r Tri Chlogwyn a Rhosili, ond peidiwch ag anghofio am Fae Abertawe sydd ar ein stepen drws!
Yn bendant dylech chi eu hychwanegu at eich rhestr o bethau i'w gwneud!
Llety
Rydym yn gobeithio eich bod chi'n gyffrous am symud i mewn i'ch llety yn Abertawe.
Pan fyddwch chi'n cyrraedd, cewch eich cyfeirio at y pwyntiau casglu allweddi . I gasglu eich allweddi ar gyfer eich llety, bydd angen Cerdyn Cyrraedd arnoch. (Gallwch ddangos hyn ar eich ffôn) neu bydd copi o'ch Contract Tenantiaeth hefyd yn dderbyniol.
I helpu i wneud y broses mor llyfn â phosib, rydym ni wedi casglu gwybodaeth ynghyd i'ch helpu chi i symud i mewn.
MyUniHub
MyUniHub yw eich man cyswllt cyntaf ar gyfer eich ymholiadau an-Academaidd! Yep, gall y tîm cyfeillgar eich helpu gyda phopeth o gofrestru i raddio! Maent ar gael yn bersonol ar gampysau Singleton a’r Bae, dros y ffôn, drwy e-bost, a thrwy sgwrsio ar-lein. Felly, os nad ydych chi’n gwybod â phwy i siarad, cysylltwch â MyUniHub!
I gael gwybod mwy, ewch i wefan MyUniHub.
Nhw drws nesa
Ôl-raddedig
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig astudiaeth ôl-raddedig arobryn. O raddau meistr i astudiaethau PhD, rydym yn cynnig rhaglenni ôl-radd mewn amrywiaeth eang o bynciau. Beth bynnag fyddwch chi'n penderfynu ei wneud ar ôl eich gradd, rydyn ni wedi eich gorchuddio!
Profiad Gwaith
Paratowch am eich swydd ddelfrydol gyda chymorth ynghylch a bywyd gwaith (CV, ceisiadau, cyfweliadau, Cwrs Datblygu Gyrfa), ennill profiad gwaith (lleoliadau, interniaethau a swyddi rhan-amser), digwyddiadau a bwrsariaethau sydd ar gael.
Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ewch i'n tudalen we.
Dinas a Phrifysgol
Er bod Abertawe’n ddinas fach, mae ganddi bersonoliaeth FAWR! Mae’n cynnig egni cerddorol, brwdfrydedd dros gelf a diwylliant, a llu o gyfleoedd i archwilio’r arfordir.
Wrth i chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn sylweddoli’n fuan fod y ddinas hon yn cynnig popeth!
Rygbi
Mae R yn sefyll am Rygbi!
Am ein bod yng Nghymru, mae Rygbi yn bwysig iawn i ni yma’n Abertawe! Mae yna nifer o gemau trwy gydol y flwyddyn lle gallech chi fel myfyrwyr mynd i wylio yn Nhiroedd St Helens yn Brynmill.
Os nad oes diddordeb gyda chi yn Rygbi mae yn ddiogonedd ar gael twy gydol y flwyddyn i gadw chi’n brysur!
Whats On (swansea-union.co.uk)
Rhyngol
Bob flwyddyn mae myfyrwyr Prifysgolion Cymru yn dod at eu gilydd i gystadlu yn Eisteddfod Ryng-golegol Cymru! Tair diwrnod llawn hwyl, canu a chwerthin, mae’n werth ymuno â Cymdeithas Cymraeg (GymGym) Abertawe i glywed mwy am y Ryngol a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.
Y Gym Gym (swansea-union.co.uk)
Swyddogion
Fel myfyriwr, cewch eich cynrychioli gan y 6 Swyddog Llawn Amser etholedig a'r 12 Swyddog Rhan amser sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Brifysgol i wneud yn siŵr bod gennych chi'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr!
Teithio
Mae teithio i ac o'r campws mor gyfleus! Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn eich annog i gerdded neu seiclo i'r campws oherwydd mae'n wych i'ch iechyd a'ch lles, ac i'r amgylchedd hefyd.
I'r rhai hynny a allai fod yn anodd, rydym yn hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus fel opsiwn teithio cynaliadwy a fforddiadwy.
Theatr Taliesin
Oeddech chi'n gwybod bod Canolfan Gelfyddydau Taliesin wedi ei gosod yng nghanol Campws Singleton Prifysgol Abertawe?
Mae'r theatr yno i gyfoethogi bywydau diwylliannol unigolion a chymunedau ar draws y rhanbarth, gan roi profiadau celfyddydol i gynulleidfaoedd.
Undeb y Myfyrwyr
Wythnos y Glas
Mae W am Wythnos y Glas neu ‘Freshers’. Peidiwch â cholli cyfleodd yn ystod wythnos y glas.
Mae eich Undeb Myfyrwyr wedi cynllunio llwyth ar eich cyfer! Gwnewch nodyn yn eich dyddiadur!
Darganfyddwch mwy yma: Whats On (swansea-union.co.uk)
Ymrestru
Bydd angen i bob myfyriwr newydd a phawb sy'n dychwelyd ymrestru bob blwyddyn. Er mwyn gwneud yn siŵr dy fod ti'n gallu cymryd rhan lawn yn dy astudiaethau, cymera gip ar ein tudalennau gwe cofrestru lle cei di wybodaeth ynghylch sut i gwblhau'r broses, dyddiadau pwysig ac atebion i dy gwestiynau am gofrestru!