Beth yw addasiad rhesymol?
Mae gan bob darparwr addysg ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol rhagweladwy er mwyn osgoi gwahaniaethu yn erbyn myfyrwyr anabl. Ein nod yw parhau i ddatblygu Abertawe fel prifysgol gynhwysol a hygyrch drwy weithredu cymorth ac arferion sy'n cefnogi'r ethos hwn. Mae hyn wedi cynnwys darparu technoleg gynorthwyol ar y campws, dulliau addysgu ac asesu cynhwysol a dylunio hygyrch ar gyfer adeiladau newydd.
Fodd bynnag, pan fydd myfyriwr anabl o dan anfantais sylweddol o'i gymharu â myfyrwyr nad ydynt yn anabl, mae'r ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i ddileu'r anfantais honno'n parhau. Mae'r term 'rhesymol' yn cyfeirio at - cymaint ag sy'n briodol neu'n deg. Mae'r hyn a ystyrir yn 'addasiad rhesymol' yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Er enghraifft, gallai fod angen newidiadau penodol i'r ffordd y caiff cynnwys addysgu ei ddarparu a/neu ei asesu, ystyried yr amserlennu a'r mynediad at yr amgylchedd ffisegol, a darparu cyfarpar cynorthwyol.
Mae Disability Rights UK yn darparu rhagor o wybodaeth am addasiadau i fyfyrwyr anabl.