Gellir ystyried y tebygolrwydd o ADHD drwy ddau lwybr gwahanol:
- Y llwybr meddygol: er mwyn cael diagnosis clinigol a chael gafael ar feddyginiaeth a therapi os ystyrir bod hyn yn briodol
- Y llwybr addysgol (Anawsterau Dysgu Penodol - SpLD): at ddiben addysg er mwyn nodi nodweddion ADHD. Nid diagnosis clinigol yw hwn ac nid yw'n arwain at feddyginiaeth a/na therapi
Y Llwybr Meddygol
Mae'r llwybr meddygol yn golygu bod angen cael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu at wasanaeth arbenigol. Yn aml mae'r amser aros yn hir, ond gall eich meddyg teulu gynghori ymhellach ar hynny, gan ddibynnu ar y sefyllfa yn eich bwrdd iechyd. O gael asesiadau a diagnosis o ADHD ar y llwybr meddygol, ceir presgripsiwn am feddyginiaeth yn ogystal â chyngor ac argymhellion o safbwynt cefnogaeth barhaus.
Efallai yr hoffech archwilio'r wybodaeth a'r opsiynau asesu sydd ar gael gan wasanaeth fel Psychiatry UK. Fe'ch cynghorwn i drafod ymhellach eich addasrwydd ar gyfer asesiad meddygol gyda'ch meddyg teulu.
Y Llwybr Addysgol
Ar y llwybr addysgol bydd asesiad ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol (SpLD) yn cael ei gynnal. Os yw'r aseswr yn nodi nodweddion ADHD, mae'n bosibl y bydd yn awgrymu cynnal archwiliad pellach i asesu'r effaith yng nghyd-destun addysg. Fodd bynnag, ni fydd nodweddion ADHD yn cael eu harchwilio os nad yw'r aseswr yn nodi'r angen hwn. Yna gellir defnyddio tystiolaeth o SpLD - gyda nodweddion ADHD neu hebddynt - i ystyried addasiadau academaidd ar gyfer eich astudiaethau. Gall Prifysgol Abertawe eich cefnogi ymhellach os mai dyma'r llwybr y byddwch yn ei ddilyn.
Mae ADHD yng nghyd-destun addysg yn rhan o sbectrwm Anawsterau Dysgu Penodol (SpLD), felly mae'n ddefnyddiol ystyried categori ehangach SpLD wrth nodi'r dangosyddion sy'n berthnasol i chi.
Felly, ein cyngor cyntaf fyddai ystyried dangosyddion Anawsterau Dysgu Penodol (SpLD), i weld a ydych chi'n uniaethu â'r nodweddion hyn, neu a ydych wedi yn y gorffennol. Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn cynnig gwybodaeth arbenigol am arwyddion dyslecsia a niwroamrywiaeth (gan gynnwys ADHD) yn ehangach ar y tudalennau canlynol:
Os credwch fod dangosyddion SpLD yn berthnasol i chi a'ch bod am archwilio hyn ymhellach, y cam nesaf fyddai mynd ati i gael asesiad diagnostig. Mae'r opsiynau canlynol ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe:
- Asesiad Anawsterau Dysgu Penodol (dyslecsia) safonol gyda'r Gwasanaeth Arweiniad Addysgol (yr EGS), a gynhelir o bell, sy'n costio £339. Os hoffech drefnu asesiad gydag EGS ac yn bwriadu hunan-ariannu'r asesiad hwn, cysylltwch ag: info@egs.org.uk. Os bydd y Seicolegydd sy'n cynnal eich asesiad yn nodi bod angen archwilio nodweddion ADHD ymhellach, bydd yn trafod apwyntiad dilynol gyda chi er mwyn archwilio i hyn ymhellach, a bydd cost ychwanegol o £160 am hyn.
- Asesiad Athro Arbenigol (dyslecsia/dyspracsia/ADHD) gyda Dyslexia Action Cymru, a gynhelir wyneb yn wyneb (yng nghanol Abertawe) sy'n costio £450. Os hoffech drefnu asesiad gydag Athro Arbenigol ac yn bwriadu hunan-ariannu'r asesiad hwn, e-bostiwch anne.rees@dyslexiaaction.wales
- Os hoffech drefnu asesiad gyda'r EGS neu Athro Arbenigol ond eisiau cael gwybod am y cymorth ariannol a allai fod ar gael drwy'r Brifysgol, gweler yr wybodaeth isod am gyflwyno cais i'r Gronfa Galedi.